Dyfeisio a monitro systemau gwaith diogel yn y sector cyfleustodau
URN: EUSUMS1
Sectorau Busnes (Suites): Sgiliau Rheoli Cyfleustod
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Rhag 2018
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â nodi systemau gwaith diogel yn y sector cyfleustodau a monitro eu cymhwyso. Gallai fod yn berthnasol i waith mewn un cyfleustod neu mewn amgylchedd aml-gyfleustod. Gall systemau gwaith diogel gynnwys, er enghraifft, dulliau gweithio diogel, gweithdrefnau rheoli mynediad ac offer a chyfarpar.
Mae’n cynnwys archwilio risgiau a pheryglon mewn perthynas â manylebau asesu risg, nodi systemau gwaith diogel, sicrhau bod y bobl dan eich goruchwyliaeth yn deall y systemau gwaith diogel, sicrhau y cydymffurfir â systemau gwaith diogel penodedig ac ymdrin â pheryglon wrth iddynt godi.
Mae’r Safon hon ar gyfer goruchwylwyr sy’n gyfrifol am weithredu systemau gwaith diogel yn eu maes cyfrifoldeb yn y sector cyfleustodau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gwirio a dehongli manylebau asesu risg mewn perthynas â’ch asesiadau risg eich hunain a phrosesau gwaith a gynlluniwyd ar adegau priodol
2. sicrhau bod manylebau asesu risg yn cynnwys yr holl risgiau a pheryglon perthnasol
3. cymryd camau priodol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol os nad oes unrhyw risgiau wedi’u nodi mewn manylebau asesu risg
4. sicrhau bod deunyddiau ac offer yn cydymffurfio ag asesiadau risg a manylebau swydd
5. dewis dulliau gweithio sy’n cydymffurfio â manylebau asesu risg a’ch dadansoddiad asesu risg eich hunain
6. cyfathrebu manylebau asesu risg a dulliau gwaith diogel ar adegau priodol â’r bobl dan eich goruchwyliaeth
7. monitro sut mae’r rheini dan eich goruchwyliaeth barhaus yn mabwysiadu dulliau gwaith diogel penodedig 8. sicrhau bod y bobl dan eich goruchwyliaeth yn defnyddio’r dulliau gwaith diogel a nodwyd drwy’r amser
9. cywiro unrhyw ddiffyg cydymffurfio â dulliau gwaith diogel ymhlith y rheini dan eich goruchwyliaeth yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
10. cymryd camau priodol yn erbyn aelodau tîm nad ydynt yn defnyddio’r dulliau gwaith diogel penodedig yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
11. sicrhau bod yr holl weithdrefnau rheoli mynediad i safleoedd gwaith yn eu lle ac yn cael eu gweithredu’n unol â gweithdrefnau priodol
12. rhoi cyfle i’r bobl dan eich goruchwyliaeth adrodd ichi am beryglon wrth iddynt ddigwydd
13. ymdrin â pheryglon neu risgiau a nodwyd yn eich maes cyfrifoldeb yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
14. ceisio cyngor gan bobl briodol am risgiau a pheryglon ar adegau priodol
15. cyfathrebu unrhyw beryglon neu risgiau nad allwch eu datrys yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
16. cadw cofnodion gofynnol mewn perthynas ag asesiadau risg a dulliau gwaith diogel gan ddefnyddio gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. rheoliadau, gweithdrefnau a chanllawiau iechyd a diogelwch perthnasol mewn perthynas â chi’ch hunain ac eraill, dyletswydd gofal, sylweddau peryglus, cyfarpar diogelu personol (PPE), defnyddio cyfarpar a pheiriannau, lleoedd cyfyng, cloddiadau, peiriannau codi, codi a chario
2. eich rolau a’ch cyfrifoldebau chi, y rheini dan eich goruchwyliaeth, eich cydweithwyr a’r rheini yr adroddwch iddynt wrth gynnal diogelwch
3. effaith llygryddion a sut mae diogelu pobl a’r amgylchedd
4. dulliau a dderbynnir i ryngweithio â chydweithwyr a’r cyhoedd cyffredinol mewn perthynas â risgiau a pheryglon yn y gwaith
5. rheolau a gofynion sefydliadol mewn perthynas ag ysmygu, bwyta, yfed a chymryd cyffuriau
6. risgiau a pheryglon nodweddiadol sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd gwaith a’r cyfleustodau yr ydych yn gweithio gyda nhw
7. sut mae dadansoddi risgiau a pheryglon
8. sut mae cynnal ac adolygu asesiadau risg
9. camau i’w cymryd i leihau risgiau a pheryglon sy’n berthnasol i’ch gwaith
10. dulliau gwaith perthnasol a sut mae nodi’r rheini sy’n ddiogel
11. gweithdrefnau ar gyfer gweithio diogel
12. dulliau a gweithdrefnau cyfathrebu
13. sut mae sicrhau bod eraill wedi deall
14. pryd mae gwirio dulliau gwaith aelodau tîm
15. gweithdrefnau i’w dilyn i fynd i’r afael â diffyg cydymffurfio â dulliau gweithio diogel
16. effaith bosibl peidio â mynd i’r afael â pheryglon
17. camau i’w cymryd pan fydd peryglon annisgwyl yn codi
18. y peryglon a’r risgiau y mae angen adrodd amdanynt a’r rheini sy’n rhan o’r amgylchedd gwaith rheolaidd
19. cyfrifoldeb am gamau cywiro pan fydd digwyddiadau peryglus posibl yn codi
20. gweithdrefnau adrodd a chofnodi sefydliadol a gofynion trywydd archwilio
21. priodoldeb gwahanol fathau o wybodaeth ar gyfer adrodd a sut mae ei chofnodi, gan gynnwys ar lafar, yn ysgrifenedig, yn gyfrifiadurol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Rhag 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSMUMS1
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianegol, Rheolwyr Cyfleustod
Cod SOC
1123
Geiriau Allweddol
aml-gyfleustod; amgylchedd gwaith; peryglon; gweithio’n ddiogel; manyleb asesu; dadansoddiad asesu; deddfwriaeth a rheoliadau diogelwch