Ymateb i argyfyngau gweithredol mewn safleoedd trin
URN: EUSTPC09
Sectorau Busnes (Cyfresi): Prosesu a Rheoli Triniaeth yn y Diwydiant Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymateb i argyfyngau mewn safleoedd prosesu dŵr, dŵr gwastraff neu drin slwtsh. Gallai argyfyngau fod yn berthnasol i halogi’r cyflenwad dŵr neu faterion iechyd a diogelwch.
Mae’n cynnwys gwagio’r ardal, rhoi gwybod i bobl a dangos rhybuddion diogelwch, ynysu a diffodd peiriannau a chyfarpar, rhoi trefniadau dros dro ar waith, adfer peiriannau a chyfarpar i berfformiad gweithredol, ailddechrau ac ail-gomisiynu offer a chyfarpar, a chynnal cofnodion.
Mae’r Safon yn addas ar gyfer goruchwylwyr mewn safleoedd prosesu dŵr, dŵr gwastraff a thrin slwtsh.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau bod offer diogelwch yn ei le ac yn weithredol bob amser, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cadw mynediad yn glir i'r man gwaith, llwybrau dianc ac offer argyfwng a diogelwch bob amser
- dilyn gwiriadau a gweithdrefnau sefydliadol i nodi peryglon diogelwch
- delio â pheryglon diogelwch a nodwyd yn ddi-oed ac yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- rhoi gwybod am broblemau a gofyn am gymorth gan y bobl ddynodedig ynglŷn ag anawsterau sydd y tu hwnt i'ch maes cyfrifoldeb
- rhoi ac arddangos rhybuddion diogelwch yn unol â gweithdrefnau brys
- rhoi gwybod i bobl yr effeithir arnynt am beryglon posibl ac amseriad unrhyw gamau adfer, gan eu cyfeirio at le diogel pan fo hynny'n briodol
- sicrhau mai dim ond pobl awdurdodedig sy’n cael mynd i’r ardal waith yn ystod argyfyngau
- ynysu neu ddiffodd peiriannau a chyfarpar yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad a’r amserlenni gofynnol
- rhoi trefniadau dros dro ar waith sy’n diogelu gweithrediad peiriannau nes bod problemau’n cael eu datrys
- adfer offer a chyfarpar yn unol â pherfformiad gweithredol penodol yn unol â gofynion sefydliadol a gweithdrefnau diogelwch
- ailgychwyn ac ailgomisiynu offer a chyfarpar yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad pan fo’n ddiogel gwneud hynny
- trefnu bod deunyddiau gwastraff yn cael eu gwaredu yn unol ag arferion gweithio diogel a gweithdrefnau sefydliadol.
- cynnal a storio cofnodion rheoli digwyddiadau mewn fformat y gellir ei archwilio mewn systemau sefydliadol
- dilyn gweithdrefnau diogelwch yn unol â pholisïau a phrotocolau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth, safonau, codau ymarfer, rheoliadau’r diwydiant dŵr, prosesau sefydliadol ac arferion gweithio diogel ar gyfer iechyd, diogelwch a hylendid yng nghyswllt eich swydd
- deddfwriaeth, safonau, codau ymarfer, rheoliadau’r diwydiant dŵr, prosesau sefydliadol ac arferion gweithio diogel ar gyfer ansawdd a diogelu’r amgylchedd yng nghyswllt eich rôl, gan gynnwys gwaredu gwastraff a mesurau i leihau allyriadau a sylweddau niweidiol
- gweithdrefnau ar gyfer cydlynu profion swyddogaeth ac archwiliadau ar offer diogelwch ac argyfwng gan gynnwys cyfarpar anadlu, systemau diffodd tân, larymau allanol pan gânt eu hactifadu o’r ystafell reoli, systemau gwrthwneud a’u statws, teledu cylch cyfyng ac offer fideo, uniondeb offer rheoli
- y peryglon posibl sy'n gysylltiedig â'r ardal waith a chanlyniadau peryglon damweiniau mawr
- gwiriadau a gweithdrefnau'r sefydliad i nodi peryglon diogelwch
- gweithdrefnau brys sefydliadol gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â chael gafael ar wasanaethau brys
- problemau arferol ac anarferol a all godi a sut y gellir datrys y rhain
- cynllun y peiriannau a’r offer yn yr ardal waith a lleoliad a safle’r allanfeydd argyfwng, y mannau ymgynnull a’r cyfarpar argyfwng
- gweithdrefnau diffodd, ynysu, cychwyn ac ailgomisiynu’r sefydliad ar gyfer peiriannau ac offer a ffactorau i’w hystyried ar gyfer pob un
- gweithdrefnau a ffactorau’r sefydliad i’w hystyried ar gyfer trefniadau dros dro gan gynnwys dargyfeirio llif, osgoi unedau proses drin a gweithredu peiriannau dros dro
- y gwaith atgyweirio sydd ei angen i ddod â’r safle yn ôl i gyflwr penodol
- llinellau adrodd sefydliadol a gweithdrefnau awdurdodi a therfynau cyfrifoldeb ac awdurdod
- pwysigrwydd cynnal diogelwch y safle a phwy sydd â'r awdurdod i fynd i'r ardal waith yn ystod argyfyngau
- y gofynion ar gyfer arwyddion yn ystod argyfyngau a’r hyn sy’n cael ei ystyried yn ardal ddiogel
- gofynion sefydliadol ar gyfer storio ac adalw gwybodaeth gan gynnwys cofnodion cynnal a chadw ac ymatebion brys a phwysigrwydd dilyn protocolau cyfrinachedd a seiberddiogelwch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSTPC09
Galwedigaethau Perthnasol
Technegwyr Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Peirianneg, Goruchwylwyr Prosesu Dŵr
Cod SOC
8134
Geiriau Allweddol
argyfwng, argyfyngau, perygl, risg, ymateb, safle trin, dŵr, dŵr gwastraff, slwtsh