Cymryd samplau a mesuriadau at ddibenion sicrhau ansawdd

URN: EUSTPC07
Sectorau Busnes (Cyfresi): Prosesu a Rheoli Triniaeth yn y Diwydiant Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chymryd samplau a mesuriadau at ddibenion sicrhau ansawdd. Mae'n bosib y bydd yn golygu teithio i wahanol leoliadau samplu a mesur.

Mae'n cynnwys paratoi offer samplu, adweithyddion a chynhwysyddion cyn eu defnyddio, cymryd samplau a mesuriadau cynrychiadol a'u labelu'n gywir, cael gwared ar unrhyw wastraff yn ddiogel, cludo'r samplau a'r offer a chyflwyno'r samplau fel sydd angen.

Mae'r safon yn addas ar gyfer gweithwyr mewn safleoedd prosesu triniaeth dŵr, dŵr gwastraff a slwtsh ac ar gyfer profwyr dosbarthu dŵr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cofnodi manylion gwaith samplu a mesur arfaethedig yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  2. gwneud yn siŵr bod cyflwr yr offer a sut mae'n cael ei storio yn cydymffurfio â manylebau'r gwneuthurwr a gweithdrefnau'r sefydliad
  3. gwneud yn siŵr bod labeli a chynwysyddion sampl yn addas ar gyfer y gwaith a gynlluniwyd
  4. defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) a nodir ar gyfer y gwaith, gan wirio ei gyflwr cyn ei ddefnyddio
  5. gwneud yn siŵr bod darpariaeth i waredu deunyddiau gwastraff yn unol â gofynion diogelwch
  6. datrys unrhyw anawsterau sy'n gysylltiedig â theithio i wahanol leoliadau samplu a mesur
  7. defnyddio'r cyfarpar a'r cynwysyddion i gymryd a chludo samplau fel y nodir yng ngweithdrefnau'r sefydliad
  8. trin deunyddiau, cyfarpar a samplau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  9. glanhau offer ar ôl ei ddefnyddio a chyn ei ddychwelyd i'w storio fel y nodir yng ngweithdrefnau'r sefydliad
  10. storio cyfarpar a deunyddiau i'w hailddefnyddio yn y lle(oedd) dynodedig fel y nodir yng ngweithdrefnau'r sefydliad
  11. mynd i mewn ac allan o'r lleoliadau samplu a mesur yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  12. paratoi cynwysyddion, adweithyddion ac unrhyw offer cludadwy neu offer arall, gan sicrhau fod yr adweithyddion dal yn iawn o ran dyddiad
  13. cymryd samplau a mesuriadau yn y safle a'r amser a nodir yng ngweithdrefnau'r sefydliad
  14. cymryd samplau a mesuriadau gan ddefnyddio'r dulliau a nodir yng ngweithdrefnau'r sefydliad
  15. delio ag unrhyw samplau neu ganlyniadau nad ydynt yn unol â'r disgwyl yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  16. labelu samplau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  17. cymryd samplau a mesuriadau yn unol â gofynion hylendid a diogelwch
  18. cael gwared ar unrhyw wastraff yn y man dynodedig ac yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  19. trosglwyddo'r samplu i'r person neu'r man dynodedig
  20. mynd i mewn, gadael a symud o amgylch y mannau samplo yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
  21. cadw cofnodion o weithgareddau llwyddiannus ac wedi'u terfynu yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad ac yn y fformat at ddibenion archwilio a sicrhau ansawdd
  22. rhoi gwybod i'r person dynodedig am unrhyw offer samplu a mesur diffygiol neu anniogel yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  23. dilyn gweithdrefnau diogelwch yn unol â pholisïau a phrotocolau sefydliadol
  24. cofnodi ac adrodd ar ganlyniadau mesuriadau sydd y tu allan i'r ystod ddisgwyliedig i'r bobl ddynodedig yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. deddfwriaeth, safonau, codau ymarfer a rheoliadau’r diwydiant dŵr ar gyfer iechyd, diogelwch a hylendid yng nghyswllt eich swydd
  2. deddfwriaeth, safonau, codau ymarfer a rheoliadau’r diwydiant dŵr ar gyfer ansawdd a diogelu’r amgylchedd a mesurau i leihau allyriadau a sylweddau niweidiol yng nghyswllt eich swydd
  3. gweithdrefnau sicrhau ansawdd y sefydliad, a'r ffactorau sy'n gallu effeithio ar ansawdd gwaith samplu a mesur
  4. proses y sefydliad ar gyfer arferion gweithio diogel wrth ddelio â chyfarpar, offer a'r amgylchedd, gan gynnwys gweithio ar eich pen eich hun a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  5. pwerau mynediad cyfreithiol a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer cael mynediad i leoliadau samplu a mesur
  6. pwysigrwydd defnyddio dulliau cludo a storio cyfarpar, deunyddiau a samplau yn ddiogel i atal halogi samplau a goblygiadau halogiad
  7. mathau a'r defnydd o offer samplu a mesur a deunyddiau eraill, a goblygiadau defnyddio offer amhenodol neu ddiffygiol neu fethu rhoi gwybod am ddiffygion
  8. pwysigrwydd cynnal a chadw offer samplu a mesur a'u calibro pan fo angen
  9. pwysigrwydd cael gwared ar wastraff ac adweithyddion a pheryglon cael gwared â nhw'n anghywir
  10. pwysigrwydd adnabod annormaleddau mewn canlyniadau mesuriadau a'u heffaith ar y cwsmer
  11. dulliau i ddelio â samplau neu ganlyniadau nad ydynt yn unol â’r disgwyl, gan gynnwys cadarnhau darlleniadau, ailbrofi ac ymchwilio i bwyntiau samplu
  12. gweithdrefnau adrodd y sefydliad a goblygiadau peidio rhoi gwybod am ganlyniadau samplu a mesur sydd y tu hwnt i'r amrywiad disgwyliedig
  13. gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid y sefydliad
  14. y camau sy'n gysylltiedig â chofnodi canlyniadau samplu a mesur
  15. y camau sy'n gysylltiedig â threfnu gwaith yn effeithlon a chynllunio eich gweithgareddau gwaith dyddiol eich hun
  16. y camau sy'n gysylltiedig â chasglu, gweinyddu a ffeilio cofnodion ac adroddiadau
  17. pwysigrwydd defnyddio data ar gyfer sicrhau ansawdd, monitro, ac archwilio
  18. rôl a diben llwybrau archwilio data a phwysigrwydd eu defnyddio a'u cynnal
  19. y camau sy'n gysylltiedig ag adnabod gwybodaeth anghywir
  20. pwysigrwydd storio gwybodaeth a dogfennau yn y man cywir
  21. y ffordd mae gwybodaeth samplau yn cael ei defnyddio gan bobl eraill
  22. sut mae'r wybodaeth sy'n ymwneud â gweithgareddau samplu a mesur yn cael ei darparu i bobl eraill a'i ddefnyddio ganddynt
  23. pwysigrwydd darparu gwybodaeth gywir a darllenadwy ac mewn fformat dynodedig o fewn yr amser a nodwyd
  24. pwysigrwydd sicrhau bod y sampl yn cael ei chymryd ar amser ac mewn amgylchiadau sy'n sicrhau bod y sampl yn gynrychiadol
  25. protocolau a pholisïau ar gyfer cyfrinachedd, seiberddiogelwch a diogelwch safle a pham eu bod yn bwysig


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSTPC07

Galwedigaethau Perthnasol

Technegwyr Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Peirianneg, Gweithredwr Prosesu Dŵr

Cod SOC

8134

Geiriau Allweddol

samplu, samplau, sicrhau ansawdd, dyletswydd gofal, perygl, risgiau, dŵr, dŵr gwastraff, slwtsh, trin, prosesu