Monitro a chynnal a chadw ansawdd allbynnau'r broses drin

URN: EUSTPC06
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli a Phrosesu Triniaeth yn y Diwydiant Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2018

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio data a gwybodaeth i wirio ansawdd a chyfanswm y deunydd sydd i gael ei drin wrth iddo gyrraedd y safle trin ac ar amrywiol gamau'r broses drin. Mae'n golygu monitro'r prosesau trin mewn safleoedd trin a gwneud newidiadau i weithrediad y safle pan fo angen er mwyn optimeiddio'r prosesau a sicrhau ansawdd y cynhyrchion. 

 
Gall gyfeirio at unrhyw broses drin gan gynnwys echdynnu, rheoli dŵr crai cyn triniaeth, diheintio, rheoli a dosio cemegol, tryloywi, hidlo, osôn, pilenni, cyfnewid ïonau dewisol, amsugno, rheoli pla, diheintio uwch fioled, malu, awyru, treulio slwtsh a thewhau slwtsh yn fecanyddol neu ddihysbyddu. Gall hefyd gyfeirio at reoli'r cyflenwad i'w ddosbarthu gan gynnwys pwyntiau storio a phwmpio. 
 
Mae'n cynnwys monitro'r prosesau trin mewn safleoedd trin, asesu p'un ai yw mewnbynnau ac allbynnau'r safle trin yn cydymffurfio â'r gofynion a gwneud newidiadau i weithrediad y safle pan fo angen er mwyn optimeiddio'r prosesau a sicrhau ansawdd y cynhyrchion. Mae hefyd yn golygu cyhoeddi ac arddangos yr holl rybuddion diogelwch a chael gwared ar sgil-gynhyrchion y broses yn ddiogel.
 
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer gweithwyr sy'n gweithio mewn safleoedd prosesu dŵr, dŵr gwastraff a thrin slwtsh 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal monitro rheolaidd mor aml ag a nodir yng ngweithdrefnau'r safle 

2. cadarnhau bod offer cofnodi llif, monitorau ansawdd a dangosyddion lefelau yn gweithio fel y nodir ym manyleb y safle drwy ddehongli'r data monitro
3. cymharu darlleniadau'r safle a data arall gyda'r amserlen weithredu a'r cyfarwyddiadau gweithredu
4. cadarnhau bod y gweithdrefnau ar gyfer casglu data drwy asesu gweledol a phrofion ansawdd yn parhau i fod yn ddigonol a'u bod yn cydymffurfio â'r cyfarwyddiadau gweithredu
5. cadarnhau bod y gweithdrefnau ar gyfer cymryd samplau i'w profi yn parhau i fod yn ddigonol a'u bod yn cydymffurfio â'r cyfarwyddiadau gweithredu
6. gwirio ansawdd a chyfanswm y deunyddiau ar bwyntiau allweddol o'u cymharu â'r gofynion prosesu
7. monitro'r casglu a'r defnydd o ddata llif, ansawdd a gweithredu a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r amserlen weithredu a'r cyfarwyddiadau gweithredu
8. rhoi system monitro mewnbynnau ac allbynnau ar waith ble mae newidiadau wedi cael eu gwneud i'r broses
9. asesu perfformiad y broses gan ddefnyddio cofnodion llif, ansawdd a gweithredu, ac arsylwadau uniongyrchol
10. dadansoddi data o gofnodion ac arsylwadau uniongyrchol a phenderfynu pa newidiadau sydd eu hangen er mwyn sicrhau'r perfformiad gorau
11. cynnal trwybwn y broses o fewn paramedrau penodedig 
12. asesu mewnbynnau ac allbynnau'r broses er mwyn penderfynu a yw'r safle wedi ymateb i newidiadau unioni a'i fod yn cydymffurfio â manylebau'r safle 
13. cwblhau gweithgareddau sy'n cynnal yr amodau perfformio gorau o ran y broses drin
14. cwblhau gweithgareddau er mwyn sicrhau bod y gwaith o gael gwared ar sgil-gynhyrchion y broses yn cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth, safonau a chodau ymarfer
15. sicrhau bod dull cyson o ran ymateb i larymau yn unol â gweithdrefnau gweithredu
16. defnyddio data monitro ynni i gael y perfformiad ynni gorau posib
17. datrys problemau sy'n codi o ddata anghywir neu anghyflawn am brosesau trin
18. ymchwilio i, a datrys, methiannau o ran newidiadau i'r broses drwy offer, ffurfweddiadau, llif a dosiau
19. cymryd camau unioni pan nad yw ansawdd y deunyddiau'n cydymffurfio â'r manylebau
20. cwblhau dogfennau'r peiriannau a phrosesau a sicrhau eu bod yn cynnwys data cywir a chyfredol o fewn yr amserlen sy'n ofynnol
21. dilyn y systemau ar gyfer storio a mewnbynnu data 
22. gwirio a chymharu data monitro gan ddefnyddio cofnodion y safle trin
23. cadarnhau bod yr holl ddeunyddiau sy'n gadael y safle yn cydymffurfio â'r manylebau gan ddefnyddio darlleniadau data
24. cynnig awgrymiadau optimeiddio gan ddefnyddio data monitro perfformiad 
25. darparu gwybodaeth glir i'r rheini sydd â swydd reoli ynglŷn â newidiadau sy'n cael eu gwneud i brosesau
26. rhoi gwybod i bobl fydd yn cael eu heffeithio pryd y mae disgwyl i beiriannau ac offer gael eu cau a phryd y mae disgwyl i beiriannau ac offer gael eu hail- gychwyn a'u hail-gomisiynu 
27. cyhoeddi ac arddangos yr holl rybuddion diogelwch cyn gwneud unrhyw newidiadau gweithredu o ran peiriannau ac offer
28. cofnodi a rhoi gwybod am ddiffygion yn y broses, y camau unioni a gymerwyd, a'r canlyniadau a'r deilliannau
29. cadw cofnodion mewn fformat y mae modd ei archwilio 
30. darparu mynediad at gofnodion data pan wneir cais amdanynt
31. storio cofnodion peiriannau a phrosesau yn y man dynodedig
32. ymgynghori a chysylltu â'r rheini sydd mewn swydd reoli ynglŷn â'r camau i'w cymryd pan fo newidiadau'n methu  


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. prosesau'r sefydliad o ran rheoli arolygiaeth statudol

2. prosesau'r sefydliad o ran rheoli sefyllfaoedd brys 
3. prosesau'r sefydliad o ran arferion gweithio diogel wrth ddelio ag offer a'r amgylchedd, gan gynnwys gweithio ar eich pen eich hun 
4. rôl, cyfrifoldebau a gweithrediadau eich swydd o ran cynnal amodau amgylcheddol ffafriol
5. prosesau'r sefydliad o ran trin dŵr neu ddŵr gwastraff
6. prosesau'r sefydliad o ran cael gwared ar sgil-gynhyrchion y broses drin
7. y camau sy'n gysylltiedig â rhagweld newidiadau yn yr ansawdd a'r llif ac effaith y newidiadau hyn ar brosesau unedau a'r all-lif terfynol
8. y camau sy'n gysylltiedig ag asesu effeithiau newidiadau ar yr ansawdd a'r llif
9. y camau sy'n gysylltiedig ag asesu amrywiadau mewn perfformiad prosesau uned ac effaith yr amrywiadau hyn ar y broses drin yn ei chyfanrwydd
10. y camau sy'n gysylltiedig ag asesu effaith methiant prosesau
11. sut i roi camau unioni ar waith er mwyn sicrhau bod y broses yn cyrraedd ei thargedau perfformiad
12. sut i asesu effeithiau torri amodau caniatâd ar gyfer arllwysiadau o'r safle prosesu i'r amgylchedd lleol
13. y camau sy'n ymwneud â delio gydag ymholiadau technegol sy'n codi o wyriadau i'r lefelau perfformiad gosodedig o ran prosesau unedau
14. pwrpas trywyddion archwilio data, pam eu bod yn bwysig a sut i'w cynnal
15. pwysigrwydd sicrhau bod gwybodaeth cynnal a chadw yn gywir, yn ddilys ac yn gyflawn
16. gweithdrefnau'r sefydliad o ran cofnodi, nôl a storio gwybodaeth mewn fformat priodol
17. yr angen am wybodaeth sy'n cael ei rhoi i bobl eraill ynglŷn â gweithgareddau cynnal a chadw
18. sut i weithredu prosesau trin pan fo gwall yn y system gyfrifiadurol yn methu
19. polisïau cyfrinachedd a phrotocolau seiberddiogelwch y sefydliad
20. effaith newidiadau i'r system grynhoi neu ddosbarthu ar weithrediadau'r broses drin
21. pwysigrwydd cynnal diogelwch y safle 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSTPO06

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianegol, Technegwyr Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Cod SOC

8126

Geiriau Allweddol

monitro, cynnal, ansawdd, triniaeth, prosesau, gweithrediadau, samplau, newidiadau, cofnodion, arsylwadau