Derbyn, storio a thrafod cemegion prosesu, adweithyddion a deunyddiau traul eraill
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â derbyn a storio cemegion a
deunyddiau traul eraill, gan gynnwys tanwydd, i’w defnyddio yn y broses drin.
Mae’n cynnwys gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau ar gyfer derbyn a storio deunyddiau ac adweithyddion yn addas i’r diben, bod y deunydd a’r adweithyddion sy’n cael eu danfon yn bodloni’r fanyleb ac yn cael eu storio mewn ffordd sy’n atal dirywiad, trin deunyddiau ac adweithyddion yn ddiogel a monitro lefelau stoc.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer gweithwyr sy'n gweithio mewn safleoedd prosesu triniaethau dŵr, dŵr gwastraff a slwtsh ond mae hefyd yn berthnasol ar gyfer gweithwyr sy'n ymwneud â phrosesau gweithgynhyrchu neu drin mewn diwydiannau eraill.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud yn siŵr bod digon o le storio i dderbyn cemegion, adweithyddion a deunyddiau traul eraill
- gwneud yn siŵr bod trefniadau mynediad addas ar waith
- gwneud yn siŵr bod y man derbyn yn barod i dderbyn y deunyddiau
- gwneud yn siŵr bod y man storio a'r amodau yn cydymffurfio â gofynion diogelwch
- gwneud yn siŵr bod gweithdrefnau brys addas ar waith ar gyfer derbyn, storio a thrin cemegion prosesu, adweithyddion a deunyddiau traul eraill
- defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) penodol sy'n addas ar gyfer trin cemegion, adweithyddion neu ddeunyddiau traul eraill, gan wirio ei gyflwr cyn ei ddefnyddio
- defnyddio prosesau trin i gyd-fynd â gofynion cemegion, adweithyddion a deunyddiau traul eraill
- cadarnhau bod yr holl gemegion, adweithyddion a deunyddiau traul eraill ar gyfer prosesu triniaeth o'r ansawdd a nodwyd a'u bod yn bodloni manyleb y danfoniad
- dilyn gweithdrefnau rheoli ansawdd, gan gynnwys gweithdrefnau samplu
- cadarnhau bod y dosbarthiadau yn cael eu gwneud i'r cyfleuster storio cywir
- delio â chemegion, adweithyddion a deunyddiau traul eraill yn unol â gweithdrefnau gweithio diogel
- sicrhau cyn lleied â phosib o wastraff drwy weithio'n effeithlon
- sicrhau bod unrhyw offer yn cael ei ddefnyddio yn unol â gofynion diogelwch
- datrys unrhyw broblemau lle nad yw'r cemegion, adweithyddion neu ddeunyddiau traul eraill yn bodloni gofynion danfon neu ddiogelwch
- storio'r deunyddiau yn y man dynodedig
- cadarnhau fod y deunyddiau sydd i gael eu storio wedi'u diogelu er mwyn osgoi dirywiad
- cylchdroi stoc yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- monitro a gwirio deunyddiau yn achlysurol i weld a oes anghysondebau yn lefel y stoc
- cael gwared ar stoc yn ddiogel ac yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- datrys sefyllfaoedd pan nad yw'r cyfleusterau storio'n bodloni'r gofynion storio
- cofnodi'r holl ddata sy'n ymwneud â chemegion, adweithyddion neu ddeunyddiau traul eraill yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cwblhau a chynnal y dogfennau gofynnol mewn perthynas â chemegion, adweithyddion a deunyddiau traul eraill mewn fformat y mae modd ei archwilio
- darparu mynediad at gofnodion dosbarthu pan wneir cais amdanynt
- storio cofnodion dosbarthu yn y man dynodedig
- dilyn gweithdrefnau diogelwch yn unol â pholisïau a phrotocolau sefydliadol
- rhoi gwybod i'r person dynodedig am unrhyw offer trafod sy'n ddiffygiol neu ddim ar gael
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth, safonau, codau ymarfer a rheoliadau’r diwydiant dŵr ar gyfer iechyd, diogelwch a hylendid yng nghyswllt eich swydd
- deddfwriaeth, safonau, codau ymarfer a rheoliadau’r diwydiant dŵr ar gyfer ansawdd a diogelu’r amgylchedd a mesurau i leihau allyriadau a sylweddau niweidiol yng nghyswllt eich swydd
- gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer derbyn cemegion, adweithyddion a deunyddiau traul eraill
- y nodweddion sy’n gwahaniaethu, yr egwyddorion gweithredu sylfaenol a’r paramedrau allweddol ar gyfer dosio a rheoli cemegol gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â phympiau, canfod lefelau, byndiau, canfod nwy, canfod llwch, amodau tanciau, cylchdroi stoc, monitorau llif, newidiadau i dollau, canfod gollyngiadau, pibellau, canfod gwasgedd, cyfraddau dos, dŵr cymhelliant/cludwr
- pryd y dylai cyflenwadau o gemegion, adweithyddion a deunyddiau traul eraill gael eu gwrthod a gweithdrefnau gwrthod cyflenwad y sefydliad
- gweithdrefnau storio a chylchdroi stoc y sefydliad
- proses y sefydliad ar gyfer arferion gweithio diogel wrth ddelio â chyfarpar, offer a'r amgylchedd, gan gynnwys gweithio ar eich pen eich hun a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- gweithdrefnau'r sefydliad o ran delio â gollyngiadau ac allyriadau o gemegion, adweithyddion a deunyddiau traul eraill
- pryd i roi gwybod am offer trafod a chyfleusterau storio diffygiol
- llinellau a gweithdrefnau adrodd y sefydliad
- gweithdrefnau rheoli ansawdd y sefydliad yng nghyswllt cemegion, adweithyddion a deunyddiau traul eraill
- rheoliadau cyfredol sy’n ymwneud â rheoli, asesu ac arwyddion sy’n ymwneud â sylweddau peryglus
- pwysigrwydd storio data yn unol â gofynion sefydliadol
- gweithdrefnau'r sefydliad o ran asesu risg
- sylweddau peryglus ac atmosfferau ffrwydrol, a’u heffaith
- gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer cofnodi, dogfennu a storio gwybodaeth
- rôl a phwrpas trywyddion archwilio data o ran sicrhau ansawdd, iechyd a diogelwch ac ar gyfer gofynion rheoliadol
- protocolau a pholisïau ar gyfer cyfrinachedd, seiberddiogelwch a diogelwch safle a pham eu bod yn bwysig