Trefnu cynnal a chadw peiriannau ac offer prosesu triniaeth

URN: EUSTPC04
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli a Phrosesu Triniaeth yn y Diwydiant Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2018

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â phenderfynu pa waith cynnal a chadw sydd ei angen a threfnu i waith cynnal a chadw gael ei wneud o ran peiriannau ac offer prosesu triniaeth.

 
Mae'n cynnwys asesu'r gwaith cynnal a chadw sydd ei angen, dewis y tîm priodol i wneud y gwaith cynnal a chadw, ynysu peiriannau ac offer fel bo angen, cyhoeddi ac arddangos rhybuddion diogelwch a rhoi gwybod i bobl y bydd y gwaith yn effeithio arnynt - pryd y mae disgwyl i beiriannau ac offer gael eu diffodd a phryd y mae disgwyl iddyn nhw gael eu hail-gychwyn a'u hail-gomisiynu.
 
Mae'r safon yn addas ar gyfer goruchwylwyr safleoedd prosesu dŵr, dŵr gwastraff a thriniaethau slwtsh.  


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu maint a lefel y draul neu ddifrod i gydrannau neu offer 
    2. asesu blaenoriaethau gweithredu'r safle a rhoi gwybod am unrhyw ganfyddiadau a chasgliadau ynglŷn â dichonoldeb a chost-effeithiolrwydd gwaith trwsio
    3. asesu p'un ai oes modd i weithwyr trin gynnal a chadw'r peiriannau ac offer neu a oes angen contractwr trydydd parti
    4. cyfeirio argymhellion am gontractwr trydydd parti i'r person dynodedig, pan fo'r awdurdod dros wneud penderfyniadau i gomisiynu gwaith y tu hwnt i'ch cyfrifoldeb
    5. ynysu neu ddiffodd peiriannau ac offer cyn gwneud gwaith cynnal a chadw yn unol â'r gweithdrefnau a'r amserlen ofynnol
    6. cadarnhau'r tîm fydd yn gwneud y gwaith cynnal a chadw ar y peiriannau ac offer
    7. trefnu bod gwaith cynnal a chadw peiriannau ac offer yn cael ei wneud yn unol â'r amserlen ofynnol a gan ddefnyddio dulliau gweithio diogel 
    8. trefnu bod deunyddiau gwastraff yn cael eu gwaredu yn unol ag arferion gweithio diogel a gweithdrefnau'r sefydliad
    9. adfer peiriannau ac offer i'r perfformiad gweithredol penodedig yn unol â gofynion a gweithdrefnau diogelwch y sefydliad
    10. trefnu bod gwaith cynnal a chadw gweithredol ar offer sydd angen eu hynysu yn cael ei wneud ar amser sy'n gyfleus i'r safle
    11. rhoi gwybod i bobl y bydd y gwaith yn effeithio arnynt pryd y mae disgwyl i beiriannau ac offer gael eu diffodd a phryd y mae disgwyl i beiriannau ac offer gael eu hail- gychwyn a'u hail-gomisiynu 
    12. cyhoeddi ac arddangos rhybuddion diogelwch cyn gwneud unrhyw newidiadau gweithredu o ran peiriannau ac offer
    13. cynnal a storio cofnodion cynnal a chadw mewn fformat y mae modd ei archwilio ac yn y man dynodedig
    14. darparu mynediad at gofnodion cynnal a chadw pan wneir cais amdanynt
    15. datrys problemau rheolaidd yn unol â'r gweithdrefnau a'ch cyfrifoldebau
    16. rhoi gwybod am unrhyw achosion ble nad oes modd cwblhau'r gweithgareddau cynnal a chadw neu os byddwch chi'n dod ar draws diffygion sydd y tu hwnt i'r amserlen oedd wedi'i chynllunio 
    17. rhoi gwybod am broblemau a gofyn am gymorth gan y bobl ddynodedig ynglŷn ag anawsterau sydd y tu hwnt i'ch maes cyfrifoldeb 
    18. rhoi trefniadau dros dro ar waith er mwyn diogelu gweithrediadau'r safle nes bod y problemau wedi cael eu datrys 
    19. rhoi gwybod am a datrys sefyllfaoedd ble mae'r gwaith cynnal a chadw yn mynd y tu hwnt i'r amserlen y cytunwyd arni 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. deddfwriaeth, safonau, codau ymarfer a rheoliadau'r diwydiant dŵr o ran iechyd, diogelwch, a hylendid mewn perthynas â'ch swydd 

2. deddfwriaeth, safonau, codau ymarfer a rheoliadau'r diwydiant dŵr o ran diogelu'r amgylchedd a mesurau i leihau allyriadau a sylweddau andwyol mewn perthynas â'ch swydd
3. prosesau'r sefydliad o ran arferion gweithio diogel wrth ddelio ag offer a'r amgylchedd
4. rôl a phwrpas trywyddion archwilio data o ran sicrhau ansawdd, iechyd a diogelwch a gofynion rheoliadol
5. dulliau a gweithdrefnau cynnal a chadw a gweithredu a goblygiadau gwneud gwaith cynnal a chadw yn anghywir a thu hwnt i derfynau cyfrifoldeb ac awdurdod, amserlenni cynnal a chadw a manylebau cysylltiedig 
6. gweithdrefnau'r sefydliad a'r ffactorau i'w hystyried wrth ynysu, dargyfeirio'r llif, osgoi unedau'r broses drin, defnyddio peiriannau dros dro a diffodd peiriannau ac offer
7. problemau arferol ac anghyffredin sydd yn gallu digwydd yn ystod gwaith cynnal a chadw a sut i'w datrys
8. yr angen am wybodaeth sy'n cael ei rhoi i bobl eraill ynglŷn â gweithgareddau cynnal a chadw
9. cofnodion cynnal a chadw, dogfennau a gweithdrefnau awdurdodi'r sefydliad ynghyd â therfynau cyfrifoldeb ac awdurdod
10. gweithdrefnau dechrau ac ail-gomisiynu'r sefydliad
11. llinellau a gweithdrefnau adrodd y sefydliad
12. y ffactorau i'w hystyried wrth ddiffodd ac ynysu peiriannau ac offer ynghyd â'r gweithdrefnau i'w defnyddio
13. eich cyfrifoldebau chi o ran datrys problemau arferol ac anghyffredin
14. goblygiadau a chanlyniadau cynnal gweithgareddau cynnal a chadw 
15. pam ei bod yn bwysig cydymffurfio â pholisïau cyfrinachedd a phrotocolau seiberddiogelwch y sefydliad
16. pam fod cynnal diogelwch y safle yn bwysig
17. pwysigrwydd storio gwybodaeth yn unol â gofynion y sefydliad
18. y ffordd y mae gwybodaeth cynnal a chadw yn cael ei defnyddio a goblygiadau ei defnyddio
19. gwybodaeth sy'n cael ei darparu i bobl eraill mewn perthynas â gweithgareddau cynnal a chadw
20. pa waith sydd ei angen er mwyn cael y gwaith yn ôl i'r cyflwr penodedig 
21. sut i drosi manyleb y cyflogwr o ran perfformiad y safle yn amcanion cynnal a chadw a gweithredu
22. sut i benderfynu os oes modd gwneud gwaith trwsio fel gwaith cynnal a chadw llinell gyntaf neu a oes angen contractwr trydydd parti 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSTPO15

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianegol, Technegwyr Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Cod SOC

8126

Geiriau Allweddol

prosesu, peiriannau, offer, cynnal a chadw, dŵr, dŵr gwastraff, slwtsh, problemau, cyfathrebu, gweithrediadau