Atgyweirio a chynnal a chadw peiriannau a chyfarpar prosesu triniaeth
URN: EUSTPC03
Sectorau Busnes (Cyfresi): Prosesu a Rheoli Triniaeth yn y Diwydiant Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2023
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyflawni gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar beiriannau ac offer prosesu triniaeth i sicrhau bod prosesau triniaeth yn gweithredu'n effeithlon.
Mae’n cynnwys diffodd ac ynysu offer, gwneud gwaith cynnal a chadw, monitro diogelwch, rhoi gwybod am ddiffygion a chael gwared ar wastraff.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer gweithwyr sy'n gwneud gwaith cynnal a chadw llinell gyntaf ynghyd â chontractwyr trydydd parti sy'n gwneud gwaith cynnal a chadw ar beiriannau ac offer yn y broses trin dŵr, dŵr gwastraff, neu slwtsh.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau bod yr holl ddeunyddiau, offer a chydrannau a argymhellir gan wneuthurwyr ac yn unol â gofynion sefydliadol ar gael cyn i waith atgyweirio a chynnal a chadw ddechrau
- diffodd neu ynysu, neu ofyn i bobl ddynodedig gau neu ynysu’r offer neu’r cyfarpar sy’n cael eu gweithio arnynt
- rhoi gwybod i bobl y bydd y gwaith yn effeithio arnynt pryd y mae disgwyl i beiriannau ac offer gael eu diffodd a phryd y mae disgwyl i beiriannau ac offer gael eu hail-gychwyn a'u hail-gomisiynu
- rhoi ac arddangos rhybuddion diogelwch cyn trwsio a chynnal a chadw peiriannau a chyfarpar
- gwneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn unol â’r amserlenni a nodir yn yr amserlen cynnal a chadw
- gwneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn y drefn a bennwyd ar gyfer y peiriannau a’r cyfarpar sy’n cael eu defnyddio gan ddefnyddio gweithdrefnau sy’n benodol i’r safle
- dilyn manylebau a gweithdrefnau diogelwch gwneuthurwyr a'r sefydliad ar gyfer defnyddio offer a chyfarpar monitro i wneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw
- gwneud yn siŵr bod gweithdrefnau a chyfarpar monitro diogelwch yn eu lle ac yn gweithio drwy gydol gwaith atgyweirio a chynnal a chadw
- sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud gan ddefnyddio cyfarpar, offer a gweithdrefnau monitro sy'n benodol i'r safle
- adfer offer a chyfarpar i berfformiad gweithredol penodol pan fydd y gwaith cynnal a chadw wedi gorffen, yn unol â gofynion sefydliadol a gweithdrefnau diogelwch
- cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff a rhannau diangen yn unol ag arferion gweithio diogel a gweithdrefnau sefydliadol
- rhoi gwybod i bobl ddynodedig yn ddi-oed am ddiffygion o ran offer monitro, peiriannau neu amgylchedd y safle
- rhoi gwybod am broblemau gyda gweithgareddau atgyweirio a chynnal a chadw sydd y tu hwnt i gyfrifoldeb eich swydd ac sy'n gofyn am bobl fedrus ddynodedig neu waith cynnal a chadw
- darparu adroddiadau cynnal a chadw i'r bobl ddynodedig pan fo angen gwneud penderfyniadau sydd y tu hwnt i'ch awdurdod
- defnyddio gwiriadau perfformiad, arsylwi a monitro sŵn, gwres, dirgryniadau a monitro o bell i chwilio am ddiffygion neu waith cynnal a chadw arall all fod ei angen
- cwblhau a storio cofnodion cynnal a chadw yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- dilyn gweithdrefnau diogelwch yn unol â pholisïau a phrotocolau sefydliadol
- darparu mynediad at gofnodion cynnal a chadw i bobl ddynodedig ar gais
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth, safonau, codau ymarfer a rheoliadau’r diwydiant dŵr ar gyfer iechyd, diogelwch a hylendid yng nghyswllt eich swydd
- deddfwriaeth, safonau, codau ymarfer a rheoliadau’r diwydiant dŵr ar gyfer ansawdd a diogelu’r amgylchedd a mesurau i leihau allyriadau a sylweddau niweidiol yng nghyswllt eich swydd
- proses y sefydliad o ran arferion gweithio diogel wrth ddelio ag offer a'r amgylchedd, gan gynnwys gweithio ar eich pen eich hun
- rôl a phwrpas trywyddion archwilio data o ran sicrhau ansawdd, iechyd a diogelwch a gofynion rheoliadol
- dulliau a gweithdrefnau gweithredu a chynnal a chadw'r sefydliad a chanlyniadau gwneud gwaith cynnal a chadw yn anghywir a'r tu allan i derfynau cyfrifoldeb ac awdurdod
- pwy i gysylltu â nhw pan fo gwaith cynnal a chadw a phroblemau'n ymwneud â gweithrediadau trin yn codi
- gweithdrefnau a ffactorau i'w hystyried wrth ynysu, dargyfeirio'r llif, osgoi unedau'r broses drin, defnyddio peiriannau dros dro a diffodd peiriannau ac offer, a gan bwy mae'r awdurdod i wneud hyn
- problemau arferol ac anarferol a all godi yn ystod gwaith cynnal a chadw a therfynau eich awdurdod ar gyfer eu datrys
- pwy i roi gwybod am unrhyw broblemau na allwch eu datrys a'r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer gwneud hynny
- pwy sydd angen gwybodaeth am gynnydd gyda gweithgareddau cynnal a chadw a'r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer eu trosglwyddo iddynt
- sut i gael gafael ar ddeunyddiau a darnau
- nodweddion offer ac offer monitro diffygiol a chanlyniad methiant offer a chyfarpar
- protocolau a pholisïau ar gyfer cyfrinachedd, seiberddiogelwch a diogelwch safle a pham eu bod yn bwysig
- egwyddorion ar gyfer cynnal a chadw peiriannau a chyfarpar proses drin
- gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer cofnodi a storio gwybodaeth
- pryd a sut i greu data ar fformat testun, tabl a graffigol a sut i'w dehongli
- y broses drin sy'n berthnasol i'r offer rydych chi'n gweithio arno, a sut y gall y gwaith effeithio ar berfformiad neu effeithlonrwydd y broses honno
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSTPC03
Galwedigaethau Perthnasol
Technegwyr Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Peirianneg, Gweithredwr Prosesu Dŵr
Cod SOC
8134
Geiriau Allweddol
trefnu, cynnal a chadw, prosesu cyfarpar, amgylchedd y safle, diogelwch, diffygion, blaenoriaethau gweithredu’r safle, atgyweirio, asesu, adrodd, dŵr, dŵr gwastraff, llaid, slwtsh