Derbyn a storio llaid i'w brosesu LEGACY
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â derbyn a storio slwtsh ar gyfer gweithrediadau trin mewn safle trin sydd heb ei awtomeiddio neu safle trin sydd wedi'i awtomeiddio.
Mae'n cynnwys cadarnhau bod digon o le, paratoi data am y slwtsh, rheoli trwybwn y slwtsh a rhoi gwybod am unrhyw broblemau'n ymwneud â storio.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer gweithwyr sy'n gweithio mewn safleoedd trin slwtsh.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cadarnhau natur, maint ac ansawdd y slwtsh sy'n cael ei dderbyn yn erbyn y gofynion prosesu
defnyddio dulliau a deddfwriaeth trafod slwtsh fel sy'n ofynnol gan eich sefydliad a'r ddeddfwriaeth i leihau ac osgoi difrodi a chroeshalogi'r slwtsh
- cadarnhau bod digon o le i storio'r slwtsh ar bob cam o'r gweithrediadau prosesu
- storio'r slwtsh yn y man gofynnol ar bob cam o'r gweithrediadau prosesu
- datrys sefyllfaoedd ble nad yw'r slwtsh yn bodloni'r gofynion prosesu
6.cofnodi a rhoi gwybod am unrhyw offer neu gyfleusterau storio diffygiol a rhoi gwybod i'r bobl ddynodedig am unrhyw anghysondebau - gweithio'n unol â'r rheoliadau a'r gweithdrefnau perthnasol
- paratoi data am y slwtsh wrth iddo fynd i mewn i'r safle trin
- rheoli trwybwn y slwtsh yn unol â gweithdrefnau a manylebau
- cofnodi'r holl ddata a gwybodaeth yng nghofnodion y safle o ran y slwtsh sy'n cael ei dderbyn a'i storio
- cadw cofnodion am y slwtsh sy'n cael ei dderbyn a'i storio a'r offer trin slwtsh ar gyfer dibenion archwilio a sicrhau ansawdd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
proses y sefydliad o ran rheoli arolygiaeth statudol
proses y sefydliad o ran rheoli sefyllfaoedd brys
- proses y sefydliad o ran arferion gweithio diogel wrth ddelio ag offer a'r amgylchedd, gan gynnwys gweithio ar eich pen eich hun
- rôl a phwrpas trywyddion archwilio data o ran sicrhau ansawdd, iechyd a diogelwch a gofynion rheoliadol
- natur y slwtsh a sut mae'n effeithio'r gwaith prosesu ar bob cam
- gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer rheoli ansawdd a swmp y slwtsh ar wahanol gamau yn y broses
- gofynion storio yn ystod pob cam o'r broses a goblygiadau'r rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
8. pwysigrwydd cadarnhau'r amodau storio a'r lle sydd ar gael - pwysigrwydd sicrhau cyn lleied â phosib o ddifrod
- gweithdrefnau adrodd y sefydliad
- gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer cofnodi, dogfennu a storio gwybodaeth
- proses y sefydliad o ran defnyddio data ar gyfer dibenion monitro
- pwysigrwydd darparu a derbyn gwybodaeth gywir mewn fformat priodol o fewn yr amserlenni a nodwyd
- beth i'w wneud os yw'r wybodaeth neu'r dogfennau'n aneglur neu'n amwys
- y modd y mae gwybodaeth fonitro yn cael ei defnyddio wrth redeg y safle prosesu a goblygiadau ei defnyddio
- gwybodaeth sy'n cael ei rhoi i bobl eraill ynglŷn â gweithgareddau'r safle trin
- pam ei bod yn bwysig cydymffurfio â pholisïau cyfrinachedd a phrotocolau seiberddiogelwch y sefydliad
- pam fod cynnal diogelwch y safle yn bwysig