Derbyn a storio slwtsh i'w brosesu
URN: EUSTPC02
Sectorau Busnes (Cyfresi): Prosesu a Rheoli Triniaeth yn y Diwydiant Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â derbyn a storio slwtsh ar gyfer gweithrediadau trin mewn safle prosesu slwtsh awtomataidd neu â llaw.
Mae'n cynnwys cadarnhau bod digon o le, paratoi data am y slwtsh, rheoli trwybwn y slwtsh a rhoi gwybod am unrhyw broblemau'n ymwneud â storio.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer gweithwyr sy'n gweithio mewn safleoedd trin slwtsh.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwirio natur, maint ac ansawdd y slwtsh a dderbynnir yn erbyn y gofynion prosesu
- defnyddio dulliau trin a storio slwtsh yn unol â gofynion sefydliadol i leihau ac osgoi difrod a chroeshalogi slwtsh
- cadarnhau bod digon o le storio i dderbyn slwtsh ar bob cam o'r gwaith prosesu
- storio slwtsh yn y mannau gofynnol ar bob cam o'r gwaith prosesu
- datrys sefyllfaoedd lle nad yw slwtsh yn bodloni'r gofynion prosesu o fewn terfynau eich cyfrifoldeb, gan gyfeirio at bobl ddynodedig pan fo angen
- cofnodi a rhoi gwybod i bobl ddynodedig am unrhyw offer, cyfleusterau storio neu anghysondebau o ran natur, maint neu ansawdd y slwtsh
- cynhyrchu data am ddeunydd slwtsh wrth iddo fynd i mewn i'r safle trin yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- rheoli llif y slwtsh yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a manylebau'r slwtsh
- cofnodi'r holl ddata a gwybodaeth am slwtsh sy'n cael ei dderbyn a'i storio mewn systemau sefydliadol
- cadw cofnodion am offer trin slwtsh at ddibenion archwilio a sicrhau ansawdd
- dilyn gweithdrefnau diogelwch yn unol â pholisïau a phrotocolau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth, safonau, codau ymarfer a rheoliadau’r diwydiant dŵr ar gyfer iechyd, diogelwch a hylendid yng nghyswllt eich swydd
- deddfwriaeth, safonau, codau ymarfer a rheoliadau’r diwydiant dŵr ar gyfer ansawdd a diogelu’r amgylchedd, a mesurau i leihau allyriadau a sylweddau niweidiol yng nghyswllt eich swydd
- yr agweddau ar eich gwaith a allai fod yn destun arolygiadau statudol a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer delio â nhw
- proses y sefydliad o ran rheoli sefyllfaoedd brys
- proses y sefydliad o ran arferion gweithio diogel wrth ddelio ag offer a'r amgylchedd, gan gynnwys gweithio ar eich pen eich hun
- rôl a phwrpas trywyddion archwilio data o ran sicrhau ansawdd, iechyd a diogelwch a gofynion rheoliadol
- natur y slwtsh a sut mae'n effeithio'r gwaith prosesu ar bob cam
- y nodweddion sy'n gwahaniaethu, yr egwyddorion gweithredu sylfaenol a'r paramedrau allweddol ar gyfer prosesau dŵr gwastraff gan gynnwys malu, treulio slwtsh a thewychu neu sychu slwtsh mecanyddol
- llwybr llif y ffrydiau gwastraff a dangosyddion a goblygiadau monitro a gweithredu anghywir
- gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer rheoli ansawdd a swmp y slwtsh ar wahanol gamau yn y broses
- gofynion storio ar bob cam o’r broses a goblygiadau rheoliadau sy’n ymwneud â rheoli sylweddau peryglus
- pwysigrwydd cadarnhau amodau storio a'r lle sydd ar gael
- pwysigrwydd sicrhau cyn lleied â phosib o ddifrod
- terfynau eich cyfrifoldeb a llinellau a gweithdrefnau adrodd y sefydliad
- gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer cofnodi, dogfennu a storio gwybodaeth
- proses y sefydliad o ran defnyddio data ar gyfer dibenion monitro
- pwysigrwydd cyflenwi a derbyn gwybodaeth gywir mewn fformat dynodedig o fewn yr amserlenni a nodwyd
- beth i'w wneud os yw'r wybodaeth neu'r dogfennau'n aneglur neu'n amwys
- y ffordd y defnyddir gwybodaeth fonitro wrth weithredu'r gwaith prosesu a goblygiadau ei defnyddio o’ch rhan chi’ch hun ac eraill yn y sefydliad
- protocolau a pholisïau ar gyfer cyfrinachedd, seiberddiogelwch a diogelwch safle, a pham eu bod yn bwysig
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSTPC02
Galwedigaethau Perthnasol
Technegwyr Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Peiranneg, Gweithredwr Prosesu Dŵr
Cod SOC
8134
Geiriau Allweddol
derbyn, storio, slwtsh, prosesu, trin, storio, peiriannau llaw, peiriannau awtomatig, cyfathrebu, gwybodaeth, problemau, gweithrediadau, ansawdd, risgiau