Derbyn a storio llaid i'w brosesu

URN: EUSTPC02
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli a Phrosesu Triniaeth yn y Diwydiant Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â derbyn a storio slwtsh ar gyfer gweithrediadau trin mewn safle trin sydd heb ei awtomeiddio neu safle trin sydd wedi'i awtomeiddio. 

 
Mae'n cynnwys cadarnhau bod digon o le, paratoi data am y slwtsh, rheoli trwybwn y slwtsh a rhoi gwybod am unrhyw broblemau'n ymwneud â storio.
 
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer gweithwyr sy'n gweithio mewn safleoedd trin slwtsh. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau natur, maint ac ansawdd y slwtsh sy'n cael ei dderbyn yn erbyn y gofynion prosesu
    2. defnyddio dulliau a deddfwriaeth trafod slwtsh fel sy'n ofynnol gan eich sefydliad a'r ddeddfwriaeth i leihau ac osgoi difrodi a chroeshalogi'r slwtsh
    3. cadarnhau bod digon o le i storio'r slwtsh ar bob cam o'r gweithrediadau prosesu
    4. storio'r slwtsh yn y man gofynnol ar bob cam o'r gweithrediadau prosesu
    5. datrys sefyllfaoedd ble nad yw'r slwtsh yn bodloni'r gofynion prosesu
    6.cofnodi a rhoi gwybod am unrhyw offer neu gyfleusterau storio diffygiol a rhoi gwybod i'r bobl ddynodedig am unrhyw anghysondebau 
    7. gweithio'n unol â'r rheoliadau a'r gweithdrefnau perthnasol
    8. paratoi data am y slwtsh wrth iddo fynd i mewn i'r safle trin
    9. rheoli trwybwn y slwtsh yn unol â gweithdrefnau a manylebau
    10. cofnodi'r holl ddata a gwybodaeth yng nghofnodion y safle o ran y slwtsh sy'n cael ei dderbyn a'i storio 
    11. cadw cofnodion am y slwtsh sy'n cael ei dderbyn a'i storio a'r offer trin slwtsh ar gyfer dibenion archwilio a sicrhau ansawdd 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. proses y sefydliad o ran rheoli arolygiaeth statudol
    2. proses y sefydliad o ran rheoli sefyllfaoedd brys 
    3. proses y sefydliad o ran arferion gweithio diogel wrth ddelio ag offer a'r amgylchedd, gan gynnwys gweithio ar eich pen eich hun
    4. rôl a phwrpas trywyddion archwilio data o ran sicrhau ansawdd, iechyd a diogelwch a gofynion rheoliadol
    5. natur y slwtsh a sut mae'n effeithio'r gwaith prosesu ar bob cam
    6. gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer rheoli ansawdd a swmp y slwtsh ar wahanol gamau yn y broses
    7. gofynion storio yn ystod pob cam o'r broses a goblygiadau'r rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd 
    8. pwysigrwydd cadarnhau'r amodau storio a'r lle sydd ar gael
    9. pwysigrwydd sicrhau cyn lleied â phosib o ddifrod 
    10. gweithdrefnau adrodd y sefydliad
    11. gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer cofnodi, dogfennu a storio gwybodaeth
    12. proses y sefydliad o ran defnyddio data ar gyfer dibenion monitro 
    13. pwysigrwydd darparu a derbyn gwybodaeth gywir mewn fformat priodol o fewn yr amserlenni a nodwyd
    14. beth i'w wneud os yw'r wybodaeth neu'r dogfennau'n aneglur neu'n amwys
    15. y modd y mae gwybodaeth fonitro yn cael ei defnyddio wrth redeg y safle prosesu a goblygiadau ei defnyddio
    16. gwybodaeth sy'n cael ei rhoi i bobl eraill ynglŷn â gweithgareddau'r safle trin
    17. pam ei bod yn bwysig cydymffurfio â pholisïau cyfrinachedd a phrotocolau seiberddiogelwch y sefydliad
    18. pam fod cynnal diogelwch y safle yn bwysig 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

NTPO10

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianegol, Technegwyr Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Cod SOC

8126

Geiriau Allweddol

derbyn, storfa, slwtsh, prosesu, triniaeth, storio, safle heb ei awtomeiddio, safle wedi'i awtomeiddio, cyfathrebu, gwybodaeth, problemau, gweithrediadau, ansawdd, peryglon