Gosod, gweithredu a monitro peiriannau a chyfarpar i brosesu dŵr, dŵr gwastraff neu slwtsh
URN: EUSTPC01
Sectorau Busnes (Cyfresi): Prosesu a Rheoli Triniaeth yn y Diwydiant Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â gosod a gweithredu peiriannau a chyfarpar prosesu triniaeth a'u monitro i sicrhau eu bod yn gweithredu mor effeithlon â phosibl drwy gydol y cylch prosesu. Er bod hyn yn bennaf ar gyfer dŵr yfed, gall hefyd fod yn berthnasol i ddŵr gwastraff neu brosesu triniaeth slwtsh.
Mae’n cynnwys cymryd darlleniadau, dadansoddi cofnodion peiriannau, gosod paramedrau gweithredu, addasu gosodiadau pan fo angen, ymchwilio i anghysondebau mewn perfformiad a gwirio cynnydd gwaith prosesu.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer gweithwyr sy'n gweithio mewn safleoedd prosesu triniaethau dŵr, dŵr gwastraff neu slwtsh.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gosod paramedrau gweithredu sy’n ystyried effeithlonrwydd, ansawdd allbynnau, perfformiad ariannol, diogelwch a methiant
- cymryd darlleniadau o gyfarpar yn rheolaidd
- sicrhau bod samplau’n cael eu cymryd yn rheolaidd o leoliadau perthnasol
- addasu gosodiadau offer a chyfarpar, lle bo angen, i gynhyrchu allbynnau peiriannau triniaethau gofynnol o fewn paramedrau ansawdd dŵr y safle
- rhyngweithio â safleoedd eraill yn y sefydliad ynghylch toriadau a’r effeithiau ar y safle pan fo angen, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- nodi ac ymchwilio i broblemau gydag allbynnau cynhyrchu triniaeth yn ddi-oed
- cymryd camau i ddelio â phroblemau o fewn terfynau eich awdurdod yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cyfeirio problemau na allwch eu datrys at bobl ddynodedig
- nodi a delio â dangosyddion sefyllfaoedd brys posibl yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cymryd camau i leihau effaith offer diffygiol neu offer sydd wedi torri i lawr ar weithgareddau prosesu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- nodi peiriannau a chyfarpar a fydd yn cael eu diffodd yn y dyfodol a sicrhau bod manylion ar gael i bobl berthnasol
- creu a storio cofnodion cyfredol o ymchwiliadau, newidiadau gweithredol ac addasiadau i baramedrau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- rhoi mynediad i bobl awdurdodedig at gofnodion gweithredol pan fo angen
- dilyn gweithdrefnau diogelwch yn unol â pholisïau a phrotocolau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae gosod ac addasu paramedrau gweithredu mewn peiriannau a chyfarpar prosesu triniaeth
- deddfwriaeth, safonau, codau ymarfer a rheoliadau’r diwydiant dŵr ar gyfer iechyd, diogelwch a hylendid yng nghyswllt eich swydd
- deddfwriaeth, safonau, codau ymarfer a rheoliadau’r diwydiant dŵr o ran ansawdd a diogelu’r amgylchedd a mesurau i leihau allyriadau a sylweddau niweidiol yng nghyswllt eich swydd
- yr agweddau ar eich gwaith a allai fod yn destun arolygiadau statudol a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer delio â nhw
- proses y sefydliad ar gyfer rheoli sefyllfaoedd brys, gan gynnwys pan fydd system ddigidol yn methu
- proses y sefydliad o ran arferion gweithio diogel wrth ddelio ag offer a'r amgylchedd, gan gynnwys gweithio ar eich pen eich hun
- effaith prosesau trin dŵr, dŵr gwastraff a slwtsh ar gydymffurfiaeth ac iechyd y cyhoedd
- effaith bosibl yr amgylchedd, rheoliadau, cwsmeriaid, tywydd, newidiadau llif ac amrywiadau tymhorol ar brosesau trin dŵr
- effeithiau prosesau diheintio ar ansawdd dŵr, y dangosyddion allweddol a sut i'w dehongli gan gynnwys pH, afloywder, clorin, amser cyswllt, dwysedd uwchfioled, trosglwyddo uwchfioled, carbon organig uwchfioled/tawdd, solidau crog, amonia, ffosffad, tymheredd, metelau, nitrad
- camau i’w cymryd os yw samplau’n uwch na’r cyfyngiadau gweithredu, gan gynnwys ail-samplu ac ailbrofi o’r un pwyntiau, offer a gwiriadau graddnodi, cymharu â thueddiadau ar-lein neu hanesyddol, ymchwiliadau i fyny’r gadwyn
- y nodweddion sy’n gwahaniaethu, yr egwyddorion gweithredu sylfaenol a’r paramedrau allweddol sy’n gysylltiedig ag egluro a setlo, gan gynnwys holltiadau llif, pympiau/dadbriddlifau, lefelau slwtsh, crafwyr, pontydd, patrymau llif a dosbarthiad, cyfarpar ategol, ailgylchredeg, gronyniadau
- y nodweddion gwahaniaethu, egwyddorion gweithredu sylfaenol a pharamedrau allweddol ar gyfer prosesau hidlo gan gynnwys hidlo disgyrchiant cyflym, hidlo tywod yn araf, hidlo gwasgedd, hidlo uchel, microhidlo, osmosis gwrthdro a phrosesau biolegol
- dulliau o fonitro prosesau trin dŵr gan gynnwys dosbarthu llif, pympiau, ôl-lifo, gostyngiad yn y pen, synwyryddion lefel, patrymau sgwrio a dosbarthu aer, cyfarpar ategol, sgimio, cyfryngau, gwasgedd, ailfwyno
- y nodweddion sy’n gwahaniaethu, yr egwyddorion gweithredu sylfaenol a’r paramedrau allweddol ar gyfer triniaethau dŵr datblygedig gan gynnwys osôn, pilenni, cyfnewid ïonau detholus, amsugno, diheintio uwchfioled, carbon wedi’i actifadu gronynnog (GAC)
- y nodweddion sy'n gwahaniaethu, yr egwyddorion gweithredu sylfaenol a'r paramedrau allweddol ar gyfer prosesau dŵr gwastraff gan gynnwys malu, treulio slwtsh, tewychu neu sychu slwtsh mecanyddol a thriniaeth eilaidd neu fiolegol
- llwybr llif y ffrydiau gwastraff a dangosyddion a goblygiadau monitro a gweithredu anghywir
- rôl a phwrpas trywyddion archwilio data o ran sicrhau ansawdd, iechyd a diogelwch a gofynion rheoliadol
- proses y sefydliad ar gyfer cynllunio a rhyngweithio'n effeithiol gyda safleoedd eraill o fewn y cwmni o safbwynt cyfnodau segur ac effeithiau ar y safle a'r defnydd o gydrannau neu'r safle ei hun
- pam ei bod yn bwysig lleihau effeithiau peiriannau ac offer sydd wedi torri, neu beiriannau ac offer sydd ddim yn cael eu defnyddio, ar y broses drin
- proses y sefydliad o ran gweithredu prosesau trin pan fo gwall yn y system gyfrifiadurol
- proses y sefydliad ar gyfer asesu goblygiadau peidio â chydymffurfio â rheoliadau a manyleb y cyflogwr
- protocolau a pholisïau ar gyfer cyfrinachedd, seiberddiogelwch a diogelwch safle a pham eu bod yn bwysig
- sut i addasu prosesau trin i ddarparu'r ansawdd a'r nifer gofynnol o ddŵr, gan gynnwys mewn ymateb i newidiadau yn y dalgylch neu'r system ddosbarthu
- pryd i roi manylion cyfnodau segur wedi’u cynllunio i weithwyr y safle
- pa gyfleusterau, offer a chyfarpar sydd eu hangen i wneud gwaith proses drin
- y broses drin sy'n berthnasol i'r offer rydych chi'n gweithio arno, a sut y gall y gwaith effeithio ar berfformiad neu effeithlonrwydd y broses honno
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
2
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSTPC01
Galwedigaethau Perthnasol
Technegwyr Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Peirianneg, Gweithredwr Prosesu Dŵr
Cod SOC
8134
Geiriau Allweddol
gosod, gweithredu, monitro, cynnal, trin, prosesu, perfformiad, cyfarpar, peiriannau, cyfathrebu, dŵr, gwastraff dŵr, llaid