Adfer rhwydweithiau carthffosiaeth i gyflwr priodol

URN: EUSSM3
Sectorau Busnes (Suites): Cynnal a chadw Rhwydweithiau Carthffosiaeth
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud ag adfer gweithrediad y rhwydwaith carthffosiaeth naill ai ar sail gynlluniedig neu mewn ymateb i hysbysiad o ddiffyg ar y system. Mae’n cynnwys canfod y gwaith sydd i'w wneud, gwneud y gwaith cynnal a chadw gan ddefnyddio'r dull a'r offer iawn a dilysu a phrofi’r rhwydwaith carthffosiaeth wedi ei adfer.  Gallai gweithgareddau cynnal a chadw gynnwys gweithgareddau tebyg i wneud atgyweiriadau neu chwistrellu dŵr ar gyflymder a phwysedd uchel.

 
Bwriadwyd y Safon ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio ym maes cynnal a chadw rhwydweithiau carthffosiaeth. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. canfod ble mae’r rhwydwaith carthffosiaeth y mae angen gwneud gwaith adferol arno yn unol ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy

2. dewis cyflenwad dŵr priodol yn unol ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy
3. sefydlu'r gofynion o ran gwaith adferol yn unol â gweithdrefnau technegol perthnasol
4. dewis gwybodaeth, peiriannau, offer a chyfarpar sy’n briodol ar gyfer y gwaith adferol dan sylw 
5. hysbysu unigolion a sefydliadau y bydd y gwaith adferol yn effeithio arnynt yn unol â gweithdrefnau perthnasol y cwmni
6. rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i gwmpas deiliad y swydd yn unol â gweithdrefnau perthnasol y cwmni
7. nodi a rhoi gwybod i bobl briodol am ffactorau allanol sy'n rhwystro'r gwaith rhag cael ei wneud pan fo angen
8. nodi'r risgiau sydd ynghlwm â mannau cyfyng, a'r mesurau rheoli cysylltiedig
9. paratoi offer a chyfarpar yn unol ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy, gan roi gwybod i bobl briodol am unrhyw ddiffygion a gwendidau  
10. ymgymryd â gweithgareddau gwaith yn unol ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy bob amser
11. cael gwared â deunyddiau gwastraff yn unol ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy
12. gwirio a phrofi rhwydwaith carthffosiaeth sy’n cael ei gynnal a’i gadw yn unol ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy
13. cofnodi ac adrodd am weithgareddau gwaith a chanlyniadau yn unol â gweithdrefnau perthnasol y cwmni
14. nodi namau a difrod sydd y tu hwnt i gwmpas eich swydd
15. rhoi gwybod am namau a difrod yn unol â gweithdrefnau perthnasol y cwmni
16. argymell trefniadau dros dro posibl i ddiogelu gweithrediad a chyflwr carthffosydd ac elfennau atodol, eiddo a’r amgylchedd yn unol ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy
17. sicrhau bod cofnodion am namau a difrod yn gywir ac yn glir ac y rhoddir gwybod amdanynt yn unol â gweithdrefnau perthnasol y cwmni
18. sicrhau bod gweithgareddau gwaith yn cydymffurfio ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy bob amser 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. gweithdrefnau rheoleiddiol a gweithdrefnau'r cwmni sy'n berthnasol i gynnal a chadw rhwydweithiau carthffosiaeth gan gynnwys y rhai sy’n berthnasol i iechyd, diogelwch a’r amgylchedd 

2. y risgiau sydd ynghlwm â mannau cyfyng a’r gweithdrefnau cysylltiedig
3. ffynonellau gwybodaeth sy’n berthnasol i'r gweithgaredd a sut mae eu dehongli 
4. y gweithdrefnau cywir ar gyfer cael gafael ar gyflenwad dŵr a’i ddefnyddio
5. sut mae gwahaniaethu rhwng carthffosydd cyhoeddus a charthffosydd preifat 
6. y deunyddiau, yr offer a’r cyfarpar sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith adferol
7. y dewis mwyaf priodol o ddeunyddiau a chyfarpar o gofio natur y gwaith a’i effaith bosibl ar yr amgylchedd
8. dulliau eraill o gyflawni gwaith adferol gan gynnwys defnyddio rhodenni, chwistrellu dŵr ar gyflymder a phwysedd uchel, glanhau a diheintio a pha bryd y mae’n briodol defnyddio'r rhain 
9. effaith debygol y gwaith ar bobl eraill
10. peryglon posibl sy’n gysylltiedig â charthffosiaeth gan gynnwys elifion masnach, gollyngiadau i mewn i'r system sydd ddim yn cael eu rheoli, a gwrthrychau peryglus eraill        
11. y peryglon oherwydd fermin a'r mesurau rheoli cysylltiedig
12. y risgiau sydd ynghlwm â mannau cyfyng, a'r mesurau rheoli cysylltiedig
13. ffactorau allanol a allai effeithio ar y gwaith, gan gynnwys y tywydd, traffig, mynediad, diogelwch, yr amgylchedd gwaith, ystyriaethau amgylcheddol
14. dulliau o wirio a phrofi rhwydweithiau carthffosiaeth sy'n cael eu cynnal a’u cadw gan gynnwys archwiliadau gweledol a phrofi perfformiad
15. mathau o garthffosydd, draeniau ac elfennau atodol gan gynnwys rhai sydd heb bŵer ac sydd wedi’u hynysu’n drydanol
16. dulliau eraill o gyflawni gwaith adferol
17. y risgiau sydd ynghlwm â chodi a chario a'r mesurau rheoli priodol
18. gweithdrefnau adrodd ar gyfer diffygion mewn offer a chyfarpar
19. goblygiadau gwaith adferol annigonol
20. problemau sy'n gallu codi wrth wneud gwaith adferol a ffyrdd o liniaru arnynt
21. cyfrifoldebau iechyd a diogelwch
22. gweithdrefnau ar gyfer gwaredu deunyddiau gwastraff gan gynnwys silt, gwreiddiau a gweddillion carthffos 
23. y mathau o systemau carthffosiaeth ac amrywiadau o ran llif
24. namau a difrod gan gynnwys difrod strwythurol difrifol, rhwystr difrifol, llifogydd, perygl i iechyd y cyhoedd, llygredd a sut mae adnabod y rhain
25. gweithdrefnau cofnodi ac adrodd
26. mathau o drefniadau dros dro gan gynnwys dargyfeirio llif, pwmpio dros dro, ynysu er mwyn diogelu mannau gwaith a dulliau caffael
27. effeithiau mewnlifiadau ar gyflwr carthffosydd
28. goblygiadau llifogydd a llygredd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSSM4

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu, cynllunio a'r amgylchedd adeiledig, Technegydd Peirianegol a Gwyddoniaeth

Cod SOC

8126

Geiriau Allweddol

carthffosiaeth, adfer, elfennau atodol