Defnyddio offer i fonitro rhwydwaith carthffosiaeth
URN: EUSSM2
Sectorau Busnes (Suites): Cynnal a chadw Rhwydweithiau Carthffosiaeth
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Rhag 2018
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â monitro rhwydweithiau carthffosiaeth ag offer. Gall yr offer gynnwys, ymysg pethau eraill, peiriannau monitro, synwyryddion, dronau, Teledu Cylch Cyfyng neu offer olrhain.
Mae’n cynnwys gwneud yn siŵr bod yr offer yn gweithio’n iawn a’i fod wedi’i addasu i roi'r perfformiad gorau, defnyddio'r offer yn unol â chyfarwyddiadau a dehongli a rhoi gwybod am ganfyddiadau.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy’n monitro rhwydweithiau carthffosiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. sicrhau bod yr offer yn gweithio’n iawn yn unol ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy
2. addasu rheolyddion i gael y perfformiad gorau gan yr offer
3. ymchwilio i unrhyw namau yn y perfformiad a rhoi gwybod i bobl briodol amdanynt
4. trefnu eich man gwaith er mwyn ichi allu gweithio mewn ffordd ddiogel ac effeithlon
5. defnyddio offer yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithredu gan ddilyn arferion a gweithdrefnau cymeradwy
6. defnyddio offer yn unol â gweithdrefnau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
7. gwybod pa weithgareddau neu ddigwyddiadau y mae angen rhoi gwybod amdanynt yn ddi-oed yn unol ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy
8. rheoli a defnyddio offer hyd eithaf ei allu gweithredol.
9. dehongli canfyddiadau a rhoi gwybod i bobl briodol amdanynt
10. canfod problemau sydd y tu hwnt i gwmpas eich swydd a rhoi gwybod i bobl briodol amdanynt
11. cofnodi gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau perthnasol y cwmni.
12. cwblhau’r cofnodion sy’n ofynnol gan gynnwys gwybodaeth ddarllenadwy a chyflawn o fewn yr amserlen benodedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gweithdrefnau rheoleiddiol a gweithdrefnau'r cwmni sy’n berthnasol i gynnal a chadw rhwydweithiau carthffosiaeth gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch a'r amgylchedd
2. gallu a chyfyngiadau offer monitro, gan gynnwys peiriannau monitro, synwyryddion, dronau, Teledu Cylch Cyfyng, offer olrhain
3. sut mae addasu, paratoi a defnyddio offer mewn ffordd sy'n sicrhau y ceir y perfformiad gorau posibl ohono
4. deddfwriaeth, rheoliadau a chodau ymarfer cyfredol sy’n berthnasol i ddefnyddio offer monitro
5. y gweithdrefnau a’r cyfarwyddiadau gweithredu y dylech eu dilyn wrth baratoi a defnyddio offer monitro
6. sut mae cadarnhau bod offer yn gweithio a beth i wneud os nad ydyw
7. yr eirfa sy'n gysylltiedig â chanllawiau iechyd a diogelwch defnyddio offer yng nghyswllt defnyddio offer monitro
8. y risgiau sydd ynghlwm â mannau cyfyng a'r gweithdrefnau cysylltiedig
9. cofnodion y mae angen i chi eu gwneud o ddigwyddiadau, offer, dyletswyddau, mynediad.
10. eich cyfrifoldebau chi o ran dehongli canfyddiadau a rhoi gwybod amdanynt
11. pwy i roi gwybod iddynt a pha bryd y mae’n briodol gwneud hynny
12. sut mae cynnal perthynas waith effeithiol ac effeithlon gyda phobl eraill.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Rhag 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSSM3
Galwedigaethau Perthnasol
Peiranneg, Technegydd Maes, Gweithiwr Cynnal a Chadw Carthffosydd
Cod SOC
8126
Geiriau Allweddol
carthffosiaeth; ased; cynnal a chadw