Archwilio a gwneud gwaith cynnal a chadw gweithredol ar rwydwaith carthffosiaeth

URN: EUSSM1
Sectorau Busnes (Suites): Cynnal a chadw Rhwydweithiau Carthffosiaeth
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2018

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynnal archwiliadau a gwaith cynnal a chadw gweithredol ar rwydweithiau carthffosiaeth. Ystyr cynnal a chadw gweithredol yma yw gweithgareddau syml fel glanhau ac iro’r rhannau o rwydweithiau carthffosiaeth sydd heb bŵer ac sydd wedi’u hynysu’n drydanol. Mae’n cynnwys cynnal archwiliadau, dewis a pharatoi offer, gwneud gwaith cynnal a chadw a delio ag unrhyw namau neu ddifrod.

 
Mae'r Safon hon yn berthnasol i unrhyw un sy’n archwilio ac yn gwneud gwaith cynnal a chadw gweithredol ar rwydweithiau carthffosiaeth. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. canfod ble mae’r rhwydwaith carthffosiaeth sydd angen ei archwilio, ei gywiro neu ei drwsio yn unol ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy  

2. dewis cyflenwad dŵr priodol yn unol ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy
3. sefydlu gofynion archwilio a chynnal a chadw rhwydwaith carthffosiaeth yn unol ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy
4. nodi a rhoi gwybod i bobl briodol pan fo angen am ffactorau allanol sy'n rhwystro'r gwaith rhag cael ei wneud   
5. paratoi offer a deunyddiau priodol ar gyfer gweithgareddau gwaith yn unol ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy
6. hysbysu unigolion a sefydliadau y bydd y gwaith yn effeithio arnynt yn unol â gweithdrefnau perthnasol y cwmni
7. nodi'r risgiau sydd ynghlwm â mannau cyfyng, a'r mesurau rheoli cysylltiedig 
8. cynnal archwiliadau a gwneud gwaith cynnal a chadw gweithredol ar rwydwaith carthffosiaeth yn unol ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy a'r fanyleb dechnegol berthnasol  
9. canfod a rhoi gwybod am ddiffygion, gwendidau, namau neu ddifrod sydd y tu allan i gwmpas eich swydd yn unol â gweithdrefnau perthnasol y cwmni 
10. argymell trefniadau dros dro posibl i ddiogelu gweithrediad a chyflwr y rhwydwaith carthffosiaeth, yn unol ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy 
11. cofnodi ac adrodd am weithgareddau gwaith, canlyniadau, namau a difrod yn unol â gweithdrefnau perthnasol y cwmni
12. sicrhau bod cofnodion yn gywir ac yn glir a’u bod yn cael eu dosbarthu yn unol â gweithdrefnau perthnasol y cwmni 
13. sicrhau bod gweithgareddau gwaith yn cydymffurfio ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy bob amser 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. gweithdrefnau rheoleiddiol a gweithdrefnau'r cwmni sy'n berthnasol i gynnal a chadw rhwydweithiau carthffosiaeth gan gynnwys y rhai sy’n berthnasol i iechyd, diogelwch a’r amgylchedd 

2. y risgiau sydd ynghlwm â mannau cyfyng, a'r mesurau rheoli a gweithdrefnau cysylltiedig 
3. mathau o garthffosydd, draeniau ac elfennau atodol gan gynnwys rhai sydd heb bŵer ac sydd wedi’u hynysu’n drydanol   
4. sut mae canfod ym mha fath o gyflwr y mae carthffosydd ac elfennau atodol  
5. y gweithdrefnau cywir ar gyfer cael gafael ar gyflenwad dŵr a’i ddefnyddio 
6. gofynion cynnal a chadw carthffosydd ac elfennau atodol
7. dulliau cynnal a chadw gan gynnwys gwiriadau gweithredol, iro, glanhau
8. dulliau archwilio gan gynnwys archwilio gweledol, profion perfformiad
9. ffactorau allanol a allai effeithio ar y gwaith, gan gynnwys y tywydd, traffig, mynediad, diogelwch, yr amgylchedd gwaith, materion amgylcheddol
10. gweithdrefnau paratoi ar gyfer archwiliadau a chynnal a chadw gweithredol
11. y gweithdrefnau cywir ar gyfer defnyddio offer 
12. y risgiau sydd ynghlwm â chodi a chario a'r mesurau rheoli priodol
13. goblygiadau archwiliadau a gwaith cynnal a chadw annigonol o ran gweithrediad y system 
14. dehongli canlyniadau dilysu a phrofi 
15. offer, gan gynnwys cyfarpar torri, offer llaw, cyfarpar archwilio, cyfarpar glanhau a pha bryd y mae’n briodol eu defnyddio   
16. manylebau technegol ar gyfer: offer; gweithdrefnau cynnal a chadw gweithredol; dilysu a phrofi 
17. namau a difrod gan gynnwys difrod strwythurol difrifol, rhwystr difrifol, llifogydd, perygl i iechyd y cyhoedd, llygredd a sut mae adnabod y rhain gweithdrefnau cofnodi ac adrodd 
18. goblygiadau peidio â chofnodi a rhoi gwybod am namau a difrod yn y modd cywir 
19. mathau o drefniadau dros dro gan gynnwys dargyfeirio llif, pwmpio dros dro, ynysu er mwyn diogelu mannau gwaith a dulliau caffael 
20. effeithiau mewnlifiadau ar gyflwr carthffosydd
21. goblygiadau llifogydd a llygredd 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSSM5

Galwedigaethau Perthnasol

Peiranneg, Technegydd Maes, Gweithiwr Cynnal a Chadw Carthffosydd

Cod SOC

8126

Geiriau Allweddol

archwilio; cynnal a chadw; carthffosydd