Defnyddio gwybodaeth dechnegol i adolygu lluniadau manwl y rhwydwaith gyfleustodau

URN: EUSMUND8
Sectorau Busnes (Suites): Dylunio Rhwydweithiau Aml-Gyfleustod
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2017

Trosolwg

Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn trafod adolygu lluniadau a gynhyrchwyd gan ddylunwyr. Rhaid i'r lluniadau fodloni'r gofynion technegol sy'n ofynnol ar gyfer y dyluniad. Mae'n golygu cael mynediad at wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau a'i defnyddio i wirio cywirdeb a'i bod yn cydymffurfio â'r gofynion dylunio. Rhaid i'r dyluniadau, a'r fformat y maent yn ymddangos ynddo, ddefnyddio'r confensiynau a ddefnyddir yn gyffredin yn y diwydiannau cyfleustodau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Adolygu cydymffurfiaeth y dyluniad gan ddefnyddio safonau'r diwydiant cyfleustodau a gwybodaeth dechnegol 

1. dod o hyd i wybodaeth a'i chasglu o'r safonau cyfredol a'r wybodaeth dechnegol a ddefnyddir yn y diwydiannau cyfleustodau
2. defnyddio'r wybodaeth a gesglir i bennu'r nodweddion sydd eu hangen ar gyfer lluniadau
3. defnyddio'r wybodaeth a gesglir i bennu'r deunyddiau, fformatau a'r confensiynau y gellir eu defnyddio
Adolygu lluniadau technegol manwl 
4. adolygu gofynion y lluniadau manwl
5. storio data cyfredol er mwyn cadw'r wybodaeth dechnegol yn ddiogel
6. ymgysylltu â chydweithwyr a chleientiaid sydd ag arbenigedd technegol a all ddarparu cymorth pan fydd angen 
7. delio ag unrhyw broblemau'n ymwneud â'r wybodaeth dechnegol a'r ffordd o'i dehongli yn brydlon ac yn effeithiol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Cyffredinol

1. gofynion deddfwriaethol y DU ar gyfer iechyd a diogelwch a'r amgylchedd, safonau, cyfarwyddebau a chanllawiau, ac arferion gwaith  
2. safonau'r DU, llawlyfrau gweithdrefnau, a pharamedrau gweithredol
3. egwyddorion dylunio, gan gynnwys data dylunio o'r fersiynau diweddaraf o safonau'r DU
4. arferion gwaith a chanllawiau'r diwydiant a dderbynnir yn y diwydiant cyfleustodau
5. egwyddorion a phrosesau peirianneg y rhwydwaith gyfleustodau
6. strwythur a chynnwys manylebau cleientiaid
7. strwythur a chynnwys manylebau gweithgynhyrchu

Penodol

8. dulliau cyfathrebu a gweithdrefnau cyflwyno adroddiadau'r cwmni
9. sut i ddethol data, gan gynnwys llwythi, hydoedd, cynlluniau, niferoedd, deunyddiau, graddfeydd, dimensiynau, unedau, cyfeiriadau cod, safonau
10. sut i ddewis nodweddion i'w cynnwys mewn gwybodaeth dechnegol 
11. sut i ddefnyddio lluniadau electronig ac ar bapur
12. sut i ddefnyddio systemau dogfen a storio gwybodaeth dechnegol 
13. y safonau, deunyddiau, fformatau a chonfensiynau a ddefnyddir ar gyfer lluniadau'r rhwydwaith gyfleustodau
14. y mathau a'r ffynonellau o'r wybodaeth dechnegol sydd eu hangen ar gyfer lluniadau, gan gynnwys manylebau, bwletinau gwneuthurwyr a gwerthwyr, codau a thaflenni data


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Rydych yn gweithio mewn ffordd sy'n:

1. ymateb yn gadarnhaol ac yn greadigol i rwystrau
2. ymfalchïo mewn darparu gwaith o ansawdd uchel


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

MUND8

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianegol, Adeiladu, Drafftwyr ac Arolygwyr Adeiladu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt ym maes Dylunio, cynllunio a'r amgylchedd adeiledig

Cod SOC

3122

Geiriau Allweddol

manylebau, fformatau, confensiynau