Cynhyrchu lluniadau manwl i gefnogi gweithgareddau rhwydweithiau cyfleustodau

URN: EUSMUND7
Sectorau Busnes (Suites): Dylunio Rhwydweithiau Aml-Gyfleustod
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn ymwneud â chynhyrchu gwahanol fathau o luniadau rhwydweithiau cyfleustodau - mewn fformatau a ddiffinnir yn glir - sy'n addas ar gyfer y diben bwriadedig. Mae'n gofyn am ddealltwriaeth o'r safonau a'r confensiynau a ddefnyddir yn y diwydiant a'u dehongli yn y lluniadau manwl. Mae'n gofyn am sylw i fanylder a gwirio a chael cymeradwyaeth ar gyfer sawl agwedd ar ofynion y dyluniad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Cynhyrchu lluniadau technegol manwl



1. cynhyrchu amrywiaeth o wahanol fathau o luniadau sy'n un, dau neu dri dimensiwn ac sy'n addas gyfer y dibenion y cânt eu defnyddio ar eu cyfer
2. cynhyrchu lluniadau i gefnogi'r broses o ddadansoddi, cael caniatâd, gosod ar y safle, caffael, contractio, cynhyrchu, cael gafael ar fanylion is-gontractio a manylion arbenigol a chyflwyno 
3. cynhyrchu lluniadau lleoliadau, gosod ac elfennau sy'n bodloni meini prawf y dyluniadau
4. cynhyrchu lluniadau gwaith sy'n bodloni anghenion y dyluniadau ac a fydd 
yn gwneud y gorau o weithrediad y rhwydwaith
5. cynhyrchu a defnyddio brasluniau i hwyluso dealltwriaeth
6. defnyddio confensiynau lluniadu safonol a chyfiawnhau unrhyw wyriadau iddynt
7. dewis a defnyddio cyfryngau llaw neu electronig yn gyson â'r adnoddau a'r amser sydd ar gael
8. egluro unrhyw wybodaeth a gaiff ei chynnwys nad yw wedi'i chwblhau ac sy'n anghyson, a gwneud addasiadau cywir

Gwiriadau a chymeradwyaeth

9. cael yr holl wiriadau a chymeradwyaethau gofynnol ar gyfer y gwaith gosod; siapiau, dimensiynau; goddefiant, cyfansoddiad, gosod, cynnwys technegol, cywirdeb a chyflawnrwydd
10. cael yr holl wiriadau a chymeradwyaethau gofynnol ar gyfer statws, nodiadau, symbolau a chonfensiynau, cyfeirnodi, cyflwyno, croesgyfeirio a chydberthynas â dogfennau cysylltiedig a gallu rhyngweithredu CAD

Cadw cofnodion a storio dogfennau

11. cofnodi cymeradwyaeth dogfennau a'u hadolygu yn y man dynodedig
12. cadw cofrestrau dyluniadau a dogfennau a a ddaw i mewn ac aiff allan yn gyfredol
13. cynnal dogfennaeth a chofnodion sicrhau ansawdd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cyffredinol

1. gofynion deddfwriaethol y DU ar gyfer iechyd a diogelwch a'r amgylchedd, safonau, cyfarwyddebau a chanllawiau, ac arferion gwaith
2. safonau'r DU, llawlyfrau gweithdrefnau, a pharamedrau gweithredol
3. egwyddorion dylunio, gan gynnwys data dylunio o'r fersiynau diweddaraf o safonau'r DU
4. arferion gwaith a chanllawiau'r diwydiant a dderbynnir yn y diwydiant cyfleustodau
5. egwyddorion a phrosesau peirianneg y rhwydwaith gyfleustodau
6. strwythur a chynnwys manylebau cleientiaid
7. strwythur a chynnwys manylebau gweithgynhyrchu

Penodol

8. gwahanol fathau o luniadau a'u dibenion
9. sut i gwblhau a chadw cofnodion cywir a chyfredol
10. sut i nodi a chyfiawnhau gwyriadau
11. sut i gynnal cysondeb â gweithdrefnau sicrhau ansawdd
12. sut i ddefnyddio confensiynau lluniadu i gydymffurfio â safonau a rheoliadau
13. codau ymarfer y diwydiant, safonau ac arfer y diwydiant, dulliau cydgysylltu
14. mathau o luniadau a ddefnyddir yn y diwydiant cyfleustodau 
15. mathau o gyfryngau dylunio â llaw ac electronig 
16. pryd a sut i gael gwiriadau a chymeradwyaethau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

​Rydych yn gweithio mewn ffordd sy'n:


1. ymateb yn gadarnhaol ac yn greadigol i rwystrau
2. ymfalchïo mewn darparu gwaith o ansawdd uchel


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

MUND7

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianegol, Adeiladu, Drafftwyr ac Arolygwyr Adeiladu, Peirianwyr dylunio a datblygu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt ym maes Dylunio, cynllunio a'r amgylchedd adeiledig

Cod SOC

3122

Geiriau Allweddol

manylebau, brasluniau, cymeradwyaethau, safonau'r diwydiant, codau ymarfer