Asesu opsiynau dylunio ar gyfer rhwydweithiau cyfleustodau

URN: EUSMUND6
Sectorau Busnes (Suites): Dylunio Rhwydweithiau Aml-Gyfleustod
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn ymwneud ag ystyried amrywiaeth o opsiynau ar gyfer dylunio rhwydweithiau cyfleustodau a gaiff eu defnyddio'n ddiweddarach i wneud penderfyniad ar ba un a ddefnyddir. Mae'n bosibl y bydd gofyn am ddyluniad syml ac sy'n dilyn brîff y cleient yn union. Gall opsiynau eraill fod ar gyfer dyluniadau sy'n gofyn am gyfaddawdu er mwyn cyflawni eu brîff, neu ar gyfer dyluniadau lle nad yw'r addasiad yn briodol. Gall y cleient naill ai fod yn 'gleient ddatblygwr' neu'n 'gleient-cyfleustod/perchennog asedau sy'n mabwysiadu'. Mae'r broses yn gofyn am ddealltwriaeth dechnegol o rinweddau'r deunyddiau a'r elfennau a ddefnyddir yn y dyluniad a'r gallu i wneud cyfrifiadau cywir a chymhleth. Mae angen mabwysiadu'r gofynion cyfleustodau a chydymffurfio'n llwyr â safonau a deddfwriaeth y DU.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dehongli gofynion y dyluniadau i lywio'r broses o ddylunio



1. defnyddio dogfennaeth a thrafodaethau â'r cydweithwyr perthnasol i wirio dealltwriaeth o ofynion y dyluniadau
2. cytuno ar ofynion y dyluniadau â'r person sy'n gofyn am y gwaith
3. ystyried goblygiadau'r ffactorau technolegol, gweithredol, cyfreithiol, amgylcheddol a diogelwch sydd angen eu hymgorffori i'r opsiynau dylunio
4. asesu pa opsiynau dylunio a fydd yn bodloni'r gofynion a manyleb y dyluniad
5. delio â phroblemau sy'n ymwneud â gofynion y dyluniad a chytuno ar atebion gyda'r arbenigwyr technegol

Asesu amrywiaeth o opsiynau dyluniadau rhwydwaith

6. datblygu a phrofi opsiynau dylunio gwahanol a sicrhau y byddant yn gweithio
7. gwirio a chadarnhau bod yr opsiynau dylunio yn ymarferol, yn addas at y diben ac yn cydymffurfio â'r holl ofynion diogelwch a moesegol
8. asesu opsiynau dylunio sy'n addas ar gyfer dibenion gwahanol
9. ystyried goblygiadau cost amrywiol yn dibynnu ar yr opsiwn dylunio
10. amcangyfrif amserlenni – yr eir iddynt o bosibl yn ystod y broses o ddatblygu a chynhyrchu - i gyd-fynd â'r opsiynau dylunio gwahanol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cyffredinol

1. gofynion deddfwriaethol y DU ar gyfer iechyd a diogelwch a'r amgylchedd, safonau, cyfarwyddebau a chanllawiau, ac arferion gwaith
2. safonau'r DU, llawlyfrau gweithdrefnau, a pharamedrau gweithredol
3. egwyddorion dylunio, gan gynnwys data dylunio o'r fersiynau diweddaraf o safonau'r DU
4. arferion gwaith a chanllawiau'r diwydiant a dderbynnir yn y diwydiant cyfleustodau
5. egwyddorion a phrosesau peirianneg y rhwydwaith gyfleustodau
6. strwythur a chynnwys manylebau cleientiaid
7. strwythur a chynnwys manylebau gweithgynhyrchu

Penodol

8. dulliau cyfathrebu a gweithdrefnau cyflwyno adroddiadau'r cwmni 
9. dylunio cyfrifiadau ar gyfer deunyddiau, goddefiant, dimensiynau ffisegol a diogelwch
10. dulliau a thechnegau dylunio - gan gynnwys meddalwedd a dogfennaeth
- a ddefnyddir yn aml yn y diwydiant cyfleustodau 
11. sut i gael mynediad at gronfeydd data, pecynnau meddalwedd, y rhyngrwyd, llyfrgelloedd o safonau a ffynonellau gwybodaeth a systemau dogfennau perthnasol a'u defnyddio
12. sut i amcangyfrif y gost a'r amser sydd ei angen i gynhyrchu
13. sut i gasglu gwybodaeth o ddatganiadau am ddulliau, rhaglenni gwaith, cylchoedd risg a gwaith cynnal a chadw gweithredol a gweithrefnau gweithredu 
14. sut i ddefnyddio data a gwybodaeth o astudiaethau dichonoldeb, adroddiadau dyluniadau, 
arfarniadau, tendrau, dogfennau rheoli costau a sicrhau ansawdd, adolygiadau risg ac adroddiadau ar beryglon 
15. sut i ddefnyddio meini prawf gwerthuso sy'n cynnwys gofod, diogelwch, cost, deunyddiau, gweithredadwyedd a'r amser sydd ei angen i gynhyrchu
16. effaith gwasanaethau a phrif bibellau ar y safle
17. nodi nodweddion gwaith a gweithredol deunyddiau, elfennau, goddefiant a dimensiynau ffisegol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

​Rydych yn gweithio mewn ffordd sy'n:

1. ymateb yn gadarnhaol ac yn greadigol i rwystrau
2. ymfalchïo mewn darparu gwaith o ansawdd uchel


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

MUND6

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianegol, Adeiladu, Drafftwyr ac Arolygwyr Adeiladu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt ym maes Dylunio, cynllunio a'r amgylchedd adeiledig

Cod SOC

3122

Geiriau Allweddol

cyfrifiadau dylunio, technegau dylunio