Asesu ffactorau sy'n effeithio ar ddyluniadau rhwydweithiau cyfleustodau

URN: EUSMUND5
Sectorau Busnes (Suites): Dylunio Rhwydweithiau Aml-Gyfleustod
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2017

Trosolwg

​Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn ymwneud ag ymchwilio i'r ffactorau a allai effeithio ar ddyluniad rhwydwaith cyfleustod a'i asesu. Mae'n gofyn am ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau a data gwybodaeth dechnegol, a'i asesu cyn ei droi'n wybodaeth a gaiff ei defnyddio'n ddiweddarach i greu amrywiaeth o opsiynau dylunio. Mae angen dealltwriaeth o'r ffordd i ddehongli data technegol a'r gallu i ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau a thechnegau dadansoddi meintiol ac ansoddol. Gall y cleient naill ai fod yn 'gleient ddatblygwr' neu'n 'gleient-cyfleustod/perchennog asedau sy'n mabwysiadu cyfleustod'.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Ymchwilio i ddata a gwybodaeth dechnegol a'u canfod

1. amlinellu'r cynllun i gynnal yr ymchwil
2. defnyddio a dehongli manylebau dyluniadau rhwydweithiau cyfleustodau i bennu o ble y gellir cael gwahanol fathau o ddata a gwybodaeth
3. ystyried polisi, gweithdrefnau a chanllawiau'r cwmni i lywio'r broses o gasglu data a’r defnydd a wneir ohono
4. ymgorffori gwybodaeth a gynhyrchir gan gydweithwyr mewn adrannau eraill
5. adalw data o gronfeydd data, systemau rheoli dogfennau, llyfrgelloedd o safonau, cofrestrau ac archifau o luniadau a dogfennau ategol 
6. defnyddio pecynnau meddalwedd i storio ac ymdrin â'r data a gesglir
7. cynnal ymchwil gynhwysfawr o'r goblygiadau deddfwriaethol, gweithredol, technolegol a chyfleustod
8. gweithio o fewn rôl y swydd a'i chyfrifoldebau

Asesu data a gwybodaeth dechnegol

9. asesu effeithiau'r goblygiadau gweithredol a bennir drwy fodelau rhwydwaith, datganiadau dulliau, rhaglenni gwaith, cofnodion hanesyddol, cylchoedd risg a gwaith cynnal a chadw gweithredol a gweithdrefnau gweithredu
10. asesu effeithiau'r goblygiadau technolegol a bennir drwy safonau cenedlaethol a rhyngwladol, manylebau gweithgynhyrchu a chwsmeriaid, llawlyfrau gweithdrefnau a pharamedrau gweithredu
11. asesu gofynion y cyfleustod ar gyfer deunyddiau, diogelwch, goddefiant, dimensiynau ffisegol a rhinweddau gwaith a gweithredu
12. asesu gwybodaeth geodechnegol i ganfod amodau'r ddaear a'r mannau sy'n debygol o gael eu halogi
13. mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau a allai' godi o'r galw ar y rhwydwaith yn y dyfodol
14. ystyried y costau terfynol a'r amser cynhyrchu yn ystod y 
broses o asesu
15. ymgorffori goblygiadau'r gofynion deddfwriaethol wrth asesu

Dehongli data a gwybodaeth dechnegol

16. dehongli'r asesiadau yn unol â'r briffiau dylunio a gaiff eu cynhyrchu yn dilyn hynny
17. gwirio bod y ffordd y caiff canlyniadau eu dehongli yn ddilys
18. dehongli ar sail y canlyniadau y gellir dangos eu bod mor ddibynadwy â phosibl
19. dangos unrhyw wahaniaeth rhwng y canlyniadau a'r dehongliad ohonynt
20. blaenoriaethu'r ffactorau a fydd yn effeithio ar fanyleb y dyluniad
21. tynnu sylw at y risgiau posibl sy'n gysylltiedig â'r ffactorau sy'n effeithio ar friffiau'r dyluniadau
22. tynnu sylw at unrhyw ganlyniadau annisgwyl

Cyflwyno data a gwybodaeth dechnegol

23. cynhyrchu gwybodaeth ddogfennol a chynnig cymorth ar lafar lle bo angen
24. strwythuro a chyflwyno'r wybodaeth mewn fformat a fydd yn hawdd i'r tîm dylunio ei ddeall 
25. ategu gwybodaeth ysgrifenedig gyda lluniadau, cyfrifiadau, brasluniau ac amserlenni
26. cyflwyno data a gwybodaeth gan ddefnyddio meddalwedd prosesu geiriau a thaenlenni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Cyffredinol



1. gofynion deddfwriaethol y DU ar gyfer iechyd a diogelwch a'r amgylchedd, safonau, cyfarwyddebau a chanllawiau, ac arferion gwaith
2. safonau'r DU, llawlyfrau gweithdrefnau, a pharamedrau gweithredol
3. egwyddorion dylunio, gan gynnwys data dylunio o'r fersiynau diweddaraf o safonau'r DU
4. arferion gwaith a chanllawiau'r diwydiant a dderbynnir yn y diwydiant cyfleustodau
5. egwyddorion a phrosesau peirianneg y rhwydwaith gyfleustodau
6. strwythur a chynnwys manylebau cleientiaid
7. strwythur a chynnwys manylebau gweithgynhyrchu

Penodol

8. dulliau a thechnegau dadansoddi
9. llinellau cyfathrebu a gweithdrefnau cyflwyno adroddiadau cwmni 
10. sut i fynd i'r afael â materion moesegol a chyfyngiadau rheoliadol
11. sut i strwythuro a chyflwyno data a gwybodaeth
12. sut i brofi dilysrwydd technegau deongliadol
13. sut i ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth a systemau dogfennau
14. dulliau i gadarnhau dibynadwyedd data
15. y dulliau ymchwil a thechnegau ymchwiliol a ddefnyddir yn aml yn y diwydiant cyfleustodau
16. y risgiau sy'n gysylltiedig â'r technegau dadansoddol a ddefnyddir a sut i'w rheoli
17. y goblygiadau deddfwriaethol ar ofynion gweithredol, technolegol a chyfleustod


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

​Rydych yn gweithio mewn ffordd sy'n:


1. ymateb yn gadarnhaol ac yn greadigol i rwystrau
2. ymfalchïo mewn darparu gwaith o ansawdd uchel


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

MUND5

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianegol, Adeiladu, Drafftwyr ac Arolygwyr Adeiladu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt ym maes Dylunio, cynllunio a'r amgylchedd adeiledig

Cod SOC

3122

Geiriau Allweddol

dulliau ymchwil, technegau ymchwiliol, risg, dehongli