Gweithredu offer a chyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bychain ar gyfer adeiladu rhwydwaith cyfleustodau LEGACY
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â gweithredu offer a chyfarpar pŵer, a pheiriannau symudol bychain gan gynnwys cyfarpar pŵer statig ac offer pŵer a weithredir â llaw. Gallai fod yn berthnasol i weithrediadau adeiladu rhwydwaith ar gyfer un cyfleustod neu mewn amgylchedd aml-gyfleustod.
Mae hyn yn cynnwys cynnal archwiliadau cyn dechrau, paratoi, rhedeg, gweithredu, cau i lawr, cynnal archwiliadau ar ôl stopio, a storio offer a chyfarpar pŵer, a pheiriannau symudol bychain mewn modd effeithlon a diogel.
Mae’r Safon hon i unrhyw un sy’n gweithredu offer a chyfarpar pŵer, a pheiriannau symudol bychain ar gyfer adeiladu rhwydwaith cyfleustodau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. defnyddio cyfarwyddiadau gwaith a manylebau i gadarnhau’r gweithrediadau sy’n gofyn defnyddio offer a chyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bychain
2. cynnal asesiad risg penodol i safle, a’i adolygu yn unol â gweithdrefnau’r cwmni
3. cymhwyso mesurau rheoli a nodwyd mewn asesiadau risg
4. dewis, archwilio cyflwr, defnyddio a storio’r cyfarpar diogelu personol priodol
5. cynnal archwiliadau cyn dechrau o’r offer a’r cyfarpar pŵer a’r peiriannau symudol bychain
6. cofnodi unrhyw ddiffygion yn yr offer a chyfarpar pŵer a’r peiriannau symudol bychain yn unol â gweithdrefnau’r cwmni
7. cadarnhau bod offer a chyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bychain yn ddiogel, cywir a pharod i’w defnyddio yn unol â gofynion y gwaith
8. cynnal gweithdrefnau dechrau a stopio i gadarnhau bod swyddogaethau yn unol â rheoli diogel a chyfarwyddiadau gweithredu’r gweithgynhyrchwyr
9. gweithredu offer a chyfarpar yn ddiogel yn unol â manylebau a chan gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau cymeradwy
10. stopio offer a chyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bychain yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwyr
11. cynnal archwiliadau ar ôl stopio gofynnol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a gweithredol
12. storio offer a chyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bychain yn unol â gofynion diogelwch
13. gwneud yr holl waith i weithdrefnau ac arferion cymeradwy a chan gydymffurfio â gofynion statudol a rheoleiddiol
14. cofnodi diffygion ym mherfformiad offer a chyfarpar ac adrodd amdanynt i’r bobl briodol
15. cofnodi amnewidiadau ac adrodd amdanynt i’r bobl briodol
16. holi’r bobl briodol ynghylch unrhyw amgylchiadau lle mae gwybodaeth yn ymddangos yn anghywir
17. defnyddio systemau gwybodaeth sefydliadol i gofnodi a storio data a gwybodaeth
18. adrodd i’r bobl briodol am unrhyw ddifrod i offer a chyfarpar
19. cyfeirio problemau ac amodau y tu hwnt i gyfrifoldeb y swydd at y bobl briodol gan ddefnyddio gweithdrefnau cymeradwy
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. prif gyfrifoldebau’r cyflogwr a’r cyflogai o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae cydymffurfio â hwy
prif gyfrifoldebau’r cyflogwr a’r cyflogai o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol
sut mae cynnal ac adolygu asesiadau risg
- llwybrau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefelau awdurdod y cwmni
- adnabod a chymhwyso gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus a deunyddiau nad ydynt yn beryglus
- gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer cofnodi ac adrodd am ddamweiniau
- y math a’r defnydd o gyfarpar diogelu personol ar gyfer y gwaith a’r gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ei fod yn addas at ddiben
- gweithdrefnau adrodd statudol, sefydliadol ac argyfwng
- y peryglon iechyd posibl wrth ddefnyddio offer a chyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bychain a’r camau sy’n ofynnol i reoli’r risg
- sut mae cymhwyso rhagofalon diogelwch cyn, yn ystod, ac ar ôl gweithrediadau yn unol â gweithdrefnau’r cwmni
- goblygiadau mygdarthau gwenwynig, llwch, deunyddiau peryglus a sŵn ichi’ch hunain, eraill, gweithgareddau cyfagos, y cyhoedd, a’r amgylchedd o’ch cwmpas
- sut mae cymhwyso’r technegau trin a thrafod a chodi cywir wrth ddefnyddio offer a chyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bychain
- gofynion cyflogwyr a gweithgynhyrchwyr ar gyfer archwiliadau cyn perfformiad ac archwiliadau rheolaidd eraill
- yr offer a chyfarpar pŵer a weithredir â llaw, symudol a statig a’r peiriannau symudol bychain sydd ar gael ar gyfer eich gwaith gan gynnwys cywasgyddion, generaduron, pympiau dŵr, cywasgwyr haenell ddirgrynol, rholeri ffos, llifiau palmant a heol, torwyr niwmatig neu hydrolig, torwyr disg
- sut mae dewis a defnyddio offer a chyfarpar a pheiriannau symudol bychain priodol
- y gofynion cymhwysedd ar gyfer gweithredu offer a chyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bychain
- arferion a gydnabyddir gan ddiwydiant ar gyfer gweithgareddau’r crefftau galwedigaethol a gwaith adeiladu cyffredinol, gan gynnwys gofynion statudol cyfredol
- argymhellion gweithgynhyrchwyr ar gyfer gweithredu’r offer a chyfarpar pŵer a pheiriannau symudol bychain
- pwysigrwydd cadw offer, cyfarpar a pheiriannau symudol bychain mewn cyflwr da
- gweithdrefnau adrodd am ddiffygion
- gweithdrefnau adrodd a rheoli amgylcheddol