Adfer cloddiadau ac arwynebau yn ystod gweithrediadau adeiladu rhwydwaith cyfleustodau LEGACY
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud ag adfer cloddiadau ac arwynebau yn ystod gweithrediadau adeiladu rhwydwaith. Gallai fod yn berthnasol i weithrediadau adeiladu rhwydwaith ar gyfer un cyfleustod neu mewn amgylchedd aml-gyfleustod.
Mae’n golygu dehongli cyfarwyddiadau, cynllunio, trefnu a mabwysiadu arferion gweithio diogel, defnyddio offer a chyfarpar priodol ac adfer cloddiadau ac arwynebau priffyrdd a phalmentydd troedffordd. Mae’n cynnwys defnyddio deunyddiau isradd, is-sylfaen a ffordd-sylfaen priodol a dewis deunyddiau arwyneb addas gan gynnwys arwynebau modiwlaidd a bitwminaidd gosod oer.
Mae’r Safon hon i unrhyw un sy’n adfer cloddiadau ac arwynebau yn ystod gweithrediadau adeiladu rhwydwaith cyfleustodau mewn amgylchedd un cyfleustod neu aml-gyfleustod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod lleoliad cloddiad, ceudod a ffosydd yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau gwaith
- defnyddio cofnodion priodol i bennu cloddiadau dwfn, mannau cyfyng a deunyddiau peryglus posibl
- holi’r bobl ddynodedig ynghylch unrhyw amgylchiadau lle mae gwybodaeth yn ymddangos yn anghywir
- cynnal asesiadau risg sy’n benodol i safle yn unol â gweithdrefnau’r cwmni
- cymhwyso mesurau rheoli a nodwyd mewn asesiadau risg
- dewis, archwilio cyflwr, defnyddio a storio cyfarpar diogelu personol priodol
- cadarnhau bod yr arwyneb i’w adfer yn unol â chodau ymarfer statudol a rheoleiddiol
- defnyddio gweithdrefnau ac arferion cymeradwy a gofynion statudol i bennu’r gofyniad am ategion cloddiad
- gwarchod cyfarpar ac is-strwythurau cyflenwi yn unol â’r codau ymarfer perthnasol
- cadarnhau bod deunyddiau newydd ac amldro ar gyfer ôl-lenwad, is-sylfaen, ffordd-sylfaen ac arwynebau palmant mewn cyflwr priodol ac yn addas i’r pwrpas
- dewis, archwilio, defnyddio a chynnal offer llaw, offer pŵer a chyfarpar sy’n addas i’r deunyddiau sy’n cael eu defnyddio
- dilyn gweithdrefnau sefydliadol drwy’r amser
- cynnal amodau a diogelwch cloddiadau yn unol â gofynion gweithredol a rheoleiddiol
- gosod a chywasgu deunyddiau sy’n briodol i’r ardal a’r math o strwythur sy’n cael ei adfer
- disodli gwaith haearn, cyrbau a chyfyngiadau ymyl yn unol â’r codau ymarfer perthnasol
- storio a gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben yn unol â chyfarwyddiadau gwaith a Chodau Ymarfer statudol a rheoleiddiol
- archwilio a chadarnhau ansawdd a chyflwr yr adferiad gorffenedig a bod y safle gwaith yn cydymffurfio â chodau ymarfer statudol a rheoleiddiol
- cynnal yr holl waith i weithdrefnau ac arferion cymeradwy ac mewn cydymffurfiad â chodau ymarfer statudol a rheoleiddiol
- datrys problemau sydd o fewn cyfrifoldeb eich swydd
- rhoi gwybod i’r bobl briodol am unrhyw broblemau nad allwch eu datrys
- cofnodi a storio data a gwybodaeth ofynnol mewn systemau gwybodaeth sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. deddfwriaeth, codau ymarfer, gweithdrefnau a phrif gyfrifoldebau’r cyflogwr a chyflogai mewn perthynas ag iechyd a diogelwch, yr amgylchedd, gweithio unigol, deunyddiau peryglus, cloddiadau, offer a chyfarpar, damweiniau, argyfyngau, gwaith ffordd a stryd
2. sut mae cynnal ac adolygu asesiadau risg sy’n benodol i safle
3. sut mae adolygu asesiadau risg a chymhwyso mesurau rheoli
4. strwythurau, llwybrau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefelau awdurdod y cwmni y tu mewn a’r tu allan i’r tîm gweithrediadau priffyrdd gan gynnwys strwythurau rheoli safle
5. adnabod a chymhwyso gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus a deunyddiau nad ydynt yn beryglus
6. amrywiaeth, defnydd a phwysigrwydd cyfarpar diogelu personol at y gwaith a’r gweithdrefnau ar gyfer sicrhau bod cyfarpar diogelu personol yn addas at ddiben
7. gweithdrefnau diogel ar gyfer trin cyfarpar adfer
8. y gofynion isarwynebol ar gyfer pob math o arwyneb gan gynnwys ystwyth, cyfansawdd, anystwyth, modiwlaidd, ymyl a daear
9. gweithdrefnau paratoi gan gynnwys trimio ymylon, ffurfio arwyneb, gwaredu malurion rhydd, trwsio gwybodaeth
10. y mathau o ddeunyddiau a diffygion posibl ar gyfer ôl-lenwad, is-sylfaen, ffordd-sylfaen, ac arwyneb palmant, gan gynnwys deunyddiau gosod oer
11. y camau cywiro i’w cymryd pan fydd diffygion yn dod i’r amlwg
12. sut mae gwarchod y cyfarpar cyflenwi ar gyfer cyfleustodau ac asiantaethau eraill, gwasanaethau uwchlaw ac islaw’r ddaear, strwythurau adeiledig a’r amgylchedd naturiol gan gynnwys sylfeini, gwreiddiau coed, a chyrsiau dŵr naturiol
13. manylebau ar gyfer deunyddiau adfer arwyneb, isarwynebol, a chyffredinol gan gynnwys deunyddiau mân-lenwi, deunyddiau ôl-lenwi, is-sylfeini gronynnog, deunyddiau a gloddiwyd wedi’u rhwymo â sment, deunyddiau ffordd-sylfaen, deunyddiau ffordd-sylfaen bitwminaidd, deunyddiau gosod arwyneb, troedffyrdd concrit arwynebau modiwlaidd, cyfansoddion gosod oer
14. dulliau arwahanu’r gwahanol ddeunyddiau gan gynnwys ôl-lenwi, is-sylfaen, ffordd-sylfaen, ac arwyneb palmant
15. dulliau archwilio cyflwr y deunydd sydd i’w ailddefnyddio
16. dulliau storio neu warchod deunyddiau a gloddiwyd ac eraill i atal gwaethygu
17. y mathau o offer llaw ac offer pŵer, a’r cyfarpar modur, eu defnyddiau a’u gofynion cynnal a chadw gan gynnwys y rheini a ddefnyddir ar gyfer cywasgu
18. addasrwydd offer llaw, offer pŵer a chyfarpar i’r deunyddiau sy’n cael eu defnyddio
19. sut mae gwaredu ategion ffos yn ddiogel wrth adfer cloddiadau
20. mathau o orffeniadau arwyneb gan gynnwys ystwyth, cyfansawdd, anystwyth a modiwlaidd, ymyl a daear naturiol a phrosesau ar gyfer eu hadfer
21. y dulliau i’w defnyddio ar gyfer cywasgu deunyddiau adfer
22. problemau y gellir dod ar eu traws gan gynnwys difrod i gyfarpar ac is-strwythurau cyflenwi, diffygion mewn cloddiadau, gwaith cywiro gofynnol, colledion o danwydd ac ireidiau, setliad, difrod arwyneb a sut mae ymdrin â hwy
23. pwysigrwydd cyfeirio problemau y tu allan i’ch maes cyfrifoldeb ac i bwy i adrodd amdanynt
24. y gweithdrefnau ar gyfer adrodd a chofnodi cynnydd gwaith, problemau a gwyriadau i raglenni gwaith