Ôl-lenwi ac adfer cloddiadau, ffosydd ac arwynebau yn ystod gwaith adeiladu rhwydwaith cyfleustodau
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag ôl-lenwi ac adfer cloddiadau, ffosydd ac arwynebau yn ystod gwaith adeiladu rhwydwaith. Gallai fod yn berthnasol i weithrediadau adeiladu rhwydwaith ar gyfer un cyfleuster neu mewn amgylchedd amlbwrpas.
Mae’n cynnwys dehongli cyfarwyddiadau, cynllunio, trefnu a mabwysiadu arferion gweithio diogel, defnyddio offer a chyfarpar priodol ac adfer cloddiadau, ffosydd ac arwynebau priffyrdd. Mae priffyrdd yn cynnwys palmentydd, lleiniau ymyl, llwybrau troed ac arwynebau ffyrdd.
Mae’n cynnwys defnyddio is-raddfa, is-sylfaen a deunyddiau sylfaen ffordd priodol a dewis deunyddiau arwyneb addas gan gynnwys arwynebau bitwmen a modiwlaidd mewn mannau oer. Mae’r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy’n ôl-lenwi ac yn adfer cloddiadau, ffosydd ac arwynebau yn ystod gweithrediadau adeiladu rhwydwaith cyfleustodau mewn amgylchedd un neu fwy nag un cyfleuster.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod lleoliad y gwaith cloddio, y ceudod a’r ffosydd yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau gwaith
- defnyddio cofnodion priodol i bennu gwaith cloddio dwfn a ffosydd posibl, mannau cyfyng a deunyddiau peryglus
- gwirio unrhyw amgylchiadau lle mae gwybodaeth yn ymddangos yn anghywir gyda phobl ddynodedig
- cynnal asesiadau risg sy’n benodol i’r safle yn unol â gweithdrefnau’r cwmni
- defnyddio mesurau rheoli a nodwyd mewn asesiadau risg
- dewis, gwirio cyflwr, defnyddio a storio cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol
- cadarnhau bod yr arwyneb sydd i gael ei adfer yn unol â chodau ymarfer statudol a rheoleiddiol
- defnyddio gweithdrefnau ac arferion cymeradwy a gofynion statudol i bennu’r angen am waith cloddio neu gynnal ffosydd
- diogelu cyfarpar ac is-strwythurau cyflenwi yn unol â chodau ymarfer perthnasol
- cadarnhau bod deunyddiau newydd ac amldro ar gyfer ôl-lenwi, is-sylfaen, sylfaen ffyrdd ac arwynebau priffyrdd mewn cyflwr priodol ac yn addas i'r diben
- dewis, gwirio, defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar sy'n addas ar gyfer y deunyddiau sy'n cael eu defnyddio
- dilyn gweithdrefnau sefydliadol bob amser
- cynnal amodau a diogelwch cloddiadau a ffosydd yn unol â gofynion gweithredol a rheoliadol
- gosod a chywasgu deunyddiau sy'n briodol i'r ardal a'r math o strwythur sy'n cael ei adfer
- newid gwaith haearn, cyrbiau a chyfyngiadau ymylon yn unol â’r codau ymarfer perthnasol
- storio a gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben yn unol â chyfarwyddiadau gwaith a chodau ymarfer statudol a rheoliadol
- gwirio a chadarnhau ansawdd a chyflwr y gwaith adfer gorffenedig a bod y safle gwaith yn cydymffurfio â’r codau ymarfer statudol a rheoleiddiol
- cyflawni’r holl waith yn unol ag arferion a gweithdrefnau cymeradwy ac yn unol â chodau ymarfer statudol a rheoleiddiol
- datrys problemau yn unol â chyfrifoldeb eich swydd
- rhoi gwybod i'r bobl briodol am unrhyw broblemau na allwch eu datrys
- cofnodi a storio'r data a'r wybodaeth ofynnol mewn systemau gwybodaeth sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth, codau ymarfer, gweithdrefnau, safonau a phrif gyfrifoldebau’r cyflogwr a’r gweithiwr yng nghyswllt iechyd a diogelwch, yr amgylchedd, gweithio ar eich pen eich hun, deunyddiau peryglus, cloddiadau, offer a chyfarpar, damweiniau, argyfyngau, gwaith ffyrdd a gwaith stryd
- sut mae cynnal ac adolygu asesiadau risg sy’n benodol i’r safle a rhoi mesurau rheoli ar waith
- strwythurau, llinellau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefelau awdurdod y cwmni y tu mewn a'r tu allan i'r tîm gweithrediadau priffyrdd gan gynnwys strwythurau rheoli safle
- nodi a defnyddio gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus a deunyddiau nad ydynt yn beryglus
- ystod, defnydd a phwysigrwydd cyfarpar diogelu personol ar gyfer y gweithgaredd gwaith a’r gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod cyfarpar diogelu personol yn addas i’r diben
- gweithdrefnau diogel ar gyfer delio ag offer adfer
- y gofynion is-wyneb ar gyfer pob math o arwyneb gan gynnwys hyblyg, cyfansawdd, anhyblyg, modiwlaidd, ymyl a daear
- gweithdrefnau paratoi gan gynnwys tocio ymylon, ffurfio arwyneb, tynnu malurion rhydd, adfer gwybodaeth
- y mathau o ddeunyddiau a diffygion posibl ar gyfer ôl-lenwi, is-sylfaen, sylfaen ffyrdd, ac arwyneb palmantog gan gynnwys deunyddiau gosod oer
- y camau adfer i'w cymryd pan geir diffygion
- sut mae diogelu’r cyfarpar cyflenwi ar gyfer cyfleustodau ac asiantaethau eraill, gwasanaethau uwch ben ac o dan y ddaear, strwythurau adeiledig a’r amgylchedd naturiol gan gynnwys sylfeini, gwreiddiau coed a chyrsiau dŵr naturiol
- manylebau ar gyfer deunyddiau adfer arwynebau, is-wyneb a chyffredinol gan gynnwys deunyddiau llenwi mân, deunyddiau ôl-lenwi, is-sylfaen gronynnog, deunyddiau wedi’u cloddio â sment, deunyddiau sylfaen ffyrdd, deunyddiau sylfaen ffordd bitwminaidd, deunyddiau arwynebu, llwybrau troed concrid, wyneb modiwlaidd, cyfansoddion gosod oer
- dulliau o wahanu’r gwahanol ddeunyddiau gan gynnwys ôl-lenwi, is-sylfaen ar y ffordd, ac arwyneb priffordd
- dulliau o gadarnhau cyflwr y deunyddiau sydd i gael eu hailddefnyddio
- dulliau o storio neu ddiogelu deunyddiau sydd wedi cael eu cloddio a deunyddiau eraill i atal dirywiad
- y mathau o offer llaw ac offer pŵer, a chyfarpar modur, eu defnyddiau a'u gofynion cynnal a chadw gan gynnwys y rhai a ddefnyddir ar gyfer cywasgu
- addasrwydd offer llaw, offer pŵer a chyfarpar i'r deunyddiau sy'n cael eu defnyddio
- sut i dynnu cynhaliaeth yn ddiogel wrth adfer cloddiadau a ffosydd
- mathau o orffeniadau arwyneb, gan gynnwys rhai hyblyg, cyfansawdd, anhyblyg a modiwlaidd, ymylon a thir naturiol a phrosesau ar gyfer eu hadfer
- y dulliau i’w defnyddio i gywasgu deunyddiau adfer
- problemau y gellir dod ar eu traws, gan gynnwys difrod i gyfarpar cyflenwi ac is-strwythurau, diffygion mewn cloddiadau, gwaith adfer angenrheidiol, gollyngiadau o danwydd ac ireidiau, setlo, difrod ar yr wyneb a sut i ddelio â nhw
- pwysigrwydd cyfeirio problemau y tu allan i'ch maes cyfrifoldeb a phwy i roi gwybod amdanynt
- y gweithdrefnau ar gyfer adrodd ar gynnydd, problemau a gwyriadau i raglenni gwaith a'u cofnodi