Cloddio a chynnal tyllau a ffosydd ar gyfer adeiladu rhwydwaith cyfleustodau LEGACY
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â chloddio a chynnal tyllau neu ffosydd ar gyfer adeiladu rhwydwaith cyfleustodau. Gallai fod yn berthnasol i weithrediadau adeiladu rhwydwaith ar gyfer amgylchedd un cyfleustod neu aml-gyfleustod.
Mae’n cynnwys dehongli cyfarwyddiadau, cynllunio, trefnu a mabwysiadu arferion gweithio diogel wrth baratoi ar gyfer tyllau a ffosydd a’u cloddio, bod yn ofalus o wasanaethau cyfleustod ac is-strwythurau eraill, darparu trefniadau mynediad ac ymadael a darparu cymorth strwythurol pan fydd yn ofynnol.
Mae’r Safon hon i unrhyw un sy’n cloddio a chynnal tyllau neu ffosydd ar gyfer adeiladu rhwydwaith cyfleustodau mewn amgylchedd un cyfleustod neu aml-gyfleustod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. defnyddio gwybodaeth mewn cyfarwyddiadau gwaith a manyleb i bennu’r safle gwaith a’r ardal i’w chloddio
2. pennu dulliau cloddio sy’n addas ar gyfer gwaredu deunyddiau arwyneb ac isarwynebol yn unol â chodau ymarfer statudol a rheoleiddiol
3. cynnal ac adolygu asesiadau risg penodol i safle ar adegau priodol ac yn unol â gweithdrefnau cwmni
4. sicrhau bod asesiadau risg penodol i safle yn darparu dulliau diogelu digonol mewn arferion gwaith i ymdrin â chloddiadau’n dod yn fannau cyfyng
5. dewis a gwisgo cyfarpar diogelu personol dynodedig ar adegau priodol
6. dewis a defnyddio offer a chyfarpar addas ar gyfer dulliau cloddio
7. cynnal cloddiadau o safle a maint sy’n cyd-fynd â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau gwaith
8. cynnal pob archwiliad diogelwch cyn mynd i mewn i gloddiadau
9. cadarnhau bod cyflwr yr ardal o ddaear wrth ymyl cloddiadau yn ddiogel yn unol â chodau ymarfer perthnasol
10. cloddio, nodi, dewis, arwahanu, gwaredu a storio deunyddiau yn unol â chyfarwyddiadau gwaith a chodau ymarfer
11. cynnal cloddiadau mewn modd sy’n osgoi difrod i gyfarpar cyflenwi 12. sicrhau cyn lleied â phosibl o niwed i’r amgylchedd naturiol yn unol â chanllawiau technegol
13. gwaredu deunyddiau dros ben yn unol â chyfarwyddiadau gwaith
14. cadarnhau bod cyflwr cloddiadau yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy a gofynion statudol, gan ddarparu ategion ffosydd pan fo’n briodol
15. sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy a chan gydymffurfio â gofynion statudol
16. cynnal cyflwr cloddiadau yn unol â safonau diogelwch
17. ymdrin â sefyllfaoedd peryglus wrth iddynt godi yn unol â chodau ymarfer perthnasol a gweithdrefnau gwaith diogel
18. sefydlu trefniadau i gael at gloddiadau, a dod allan o gloddiadau, yn unol â gofynion statudol a gweithdrefnau ac arferion cymeradwy
19. datrys problemau pob dydd o fewn eich cyfrifoldeb yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy
20. rhoi gwybod i’r bobl briodol am amodau niweidiol, diffygion neu ddifrod i gloddiadau neu gyfarpar cyflenwi sydd y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb
21. holi’r bobl briodol ynghylch unrhyw amgylchiadau lle mae gwybodaeth yn ymddangos yn anghywir
22. defnyddio systemau gwybodaeth sefydliadol i gofnodi a storio data a gwybodaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion statudol, gweithdrefnau ac arferion sefydliadol a diwydiant ar gyfer gwaith cloddio gan gynnwys iechyd a diogelwch, diogelu personol, amgylcheddol, cyfarpar cyflenwi, cyfarpar cloddio a chynnal, deunyddiau peryglus, damweiniau a gweithio’n unigol
y prif ddulliau cloddio gan gynnwys cloddio â llaw a pheiriant a risgiau diogelwch arferion cloddio anghywir
sut mae defnyddio offer llaw, offer pŵer a chyfarpar modur ar gyfer cloddio gan gynnwys defnyddio bancwr cymwys wrth gloddio â pheiriant
- mathau o arwynebau ac is-wynebau gan gynnwys adeiladwaith palmant hyblyg, cyfansawdd, anhyblyg a modiwlaidd, ymyl a thir naturiol
- y mathau o ddeunyddiau isarwynebol a ddefnyddir ar gyfer y gwahanol arwynebau palmant
- sut mae nodi gwahanol fathau o gyflenwadau sydd mewn gwaith cloddio.
- y cyfarpar cyflenwi ar gyfer cyfleustodau ac asiantaethau eraill gan gynnwys gwasanaethau uwchlaw ac islaw’r ddaear a strwythurau adeiledig
- sut mae sicrhau cyn lleied â phosibl o niwed i’r amgylchedd naturiol gan gynnwys sylfeini, gwreiddiau coed a chyrsiau dŵr naturiol
- sut gallai defnyddio deunyddiau anghywir neu fethu darparu cynhaliaeth briodol arwain at ddifrodi cyfarpar cyflenwi neu is-strwythurau a pheryglon diogelwch mawr
- sut gall eich gwaith effeithio ar gostau ac amserlen
- sut mae storio a gwaredu deunyddiau a chanlyniadau storio anghywir, gan gynnwys y rheini â pherygl amgylcheddol posibl
- gweithdrefnau ar gyfer adrodd a chofnodi cynnydd gwaith, problemau, gwyriadau i raglenni gwaith
- eich cyfrifoldebau a’r camau y dylech eu cymryd i ymdrin â sefyllfaoedd wrth weithio mewn tyllau a ffosydd gan gynnwys atmosffer gwael, ansefydlogrwydd a chyfleustodau wedi’u difrodi
- pwy i adrodd iddo a phryd
- sut mae adnabod sefyllfaoedd sydd, neu a allai fod, yn fan cyfyng a sut mae ymdrin â hwy’n effeithiol
- amgylchiadau lle mae’n rhaid gosod ategion cloddio gan gynnwys y rheini mewn perthynas â dyfnder cloddio, math o bridd neu lle mae ymsuddiant yn debygol
- deunyddiau, dulliau ac egwyddorion ar gyfer systemau ategion cloddio, gan gynnwys y rheini sy’n defnyddio systemau coed, dalenni metel neu fecanyddol
- sut mae monitro a chynnal cyflwr mecanweithiau cynnal
- achosion ansefydlogrwydd mewn ardaloedd a gloddiwyd, gan gynnwys mathau o bridd, presenoldeb dŵr daear, gollyngiadau o bibwaith dŵr a draenio
- sefyllfaoedd lle gall fod rhaid defnyddio systemau pwmpio cloddiad
- yr ystyriaethau amgylcheddol ar gyfer gwaredu dŵr ffos
- peryglon a allai godi o ollyngiadau, cyfarpar cyflenwi a ddifrodwyd, cyfarpar trydanol a ddifrodwyd neu weithio heb awyr naturiol neu gynorthwyedig