Canfod ac osgoi cyfarpar cyflenwi ar gyfer adeiladu rhwydwaith cyfleustodau LEGACY
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â chanfod ac osgoi cyfarpar cyflenwi ar gyfer adeiladu rhwydwaith cyfleustodau. Gallai cyfarpar cyflenwi fod yn wasanaethau uwchlaw neu islaw’r ddaear, yn strwythurau adeiledig, a’r amgylchedd naturiol gan gynnwys sylfeini, gwreiddiau coed neu gyrsiau dŵr naturiol. Gallai fod yn berthnasol i weithrediadau adeiladu rhwydwaith ar gyfer amgylchedd un cyfleustod neu aml-gyfleustod.
Mae’n cynnwys defnyddio dulliau chwilio a darganfod priodol, cadw cofnodion wedi’u diweddaru, nodi ac osgoi risgiau difrod i wasanaethau a pherygl i bobl, a dilyn arferion gwaith diogel. Mae cyfarpar cyflenwi yng nghyd-destun y safon alwedigaethol genedlaethol hon yn berthnasol i gyfarpar cyflenwi ar gyfer cyfleustodau ac asiantaethau eraill.
Mae’r Safon hon i unrhyw un sy’n canfod ac yn osgoi cyfarpar cyflenwi ar gyfer adeiladu rhwydwaith cyfleustodau mewn amgylchedd un cyfleustod neu aml-gyfleustod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. defnyddio cyfarwyddiadau gwaith a dehongli cynlluniau cyfleustod i bennu maint y safle gwaith ac er mwyn marcio’r cyfarpar cyflenwi
- cynnal asesiad risg sy’n benodol i safle, a’i adolygu yn unol â gweithdrefnau’r cwmni
defnyddio tystiolaeth wyneb, cyfarpar canfod electronig, tyllau prawf, a lluniadau er mwyn marcio cyfarpar cyflenwi
marcio safle a math y cyfarpar a’r is-strwythurau cyflenwi ar y safle gwaith yn unol â chyfarwyddiadau gwaith a chodau ymarfer statudol a rheoleiddiol
- marcio risgiau difrod i gyfarpar ac is-strwythurau cyflenwi yn unol â chodau ymarfer statudol a rheoleiddiol
- cofnodi safleoedd a mathau o gyfarpar ac is-strwythurau cyflenwi mewn systemau gwybodaeth sefydliadol
- rhoi manylion am y safle, math o gyfarpar ac is-strwythurau cyflenwi i’r bobl
- holi’r bobl briodol ynghylch unrhyw amgylchiadau lle mae gwybodaeth yn ymddangos yn anghywir
9. rhoi gwybod am wyriadau yn safle cyfarpar a nodi strwythurau eraill yn unol â gofynion sefydliadol a chyfarwyddiadau - cynnal safle a chyflwr cyfarpar cyflenwi yn y safle gwaith yn unol â’u manyleb a chodau ymarfer
- Sicrhau bod arferion gwaith yn y safle gwaith yn osgoi difrod i gyfarpar cyflenwi
- sicrhau bod cyfarpar cyflenwi sydd wedi’i ddinoethi yn cael ei gynnal, ei warchod a’i ddiogelu i gydymffurfio â’i fanyleb a’r gweithdrefnau cymeradwy
- rhoi gwybod i’r bobl briodol am unrhyw ddifrod i gyfarpar cyflenwi a diogelu’r ardal yn ddi-oed
- datrys problemau dydd i ddydd yn eich maes cyfrifoldeb, gan gyfeirio’r rheini nad allwch eu datrys at y bobl briodol
- cymryd rhagofalon i warchod pobl a chyfarpar rhag effeithiau difrod i gyfarpar cyflenwi yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy
- sicrhau bod pob gwaith yn cydymffurfio â’r manylebau diweddaraf, rheoliadau statudol a chodau ymarfer y cwmni
- dilyn pob gweithdrefn ar gyfer eich iechyd a’ch diogelwch chi ac eraill bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion statudol a rheoleiddiol perthnasol mewn perthynas ag iechyd a diogelwch, cloddiadau, gwaith ffordd a stryd, lleoliad cyfarpar cyflenwi lle mae hyn yn dinoethi gwasanaethau eraill, deunyddiau peryglus, gweithio unigol, damweiniau a chyfarpar diogelu personol
y risgiau sy’n gysylltiedig â pheidio â chynnal diogelwch a chyfanrwydd cyfarpar cyflenwi, y rheoliadau sy’n llywodraethu’r math o berygl sy’n gysylltiedig â gwahanol gyflenwadau a chamau i’w cymryd os bydd difrod
gweithdrefnau ac arferion diwydiant ar gyfer cadarnhau lleoliad a marcio cyfarpar cyflenwi
- y priodweddau ffisegol allweddol a dulliau adnabod cyfarpar cyflenwi ar gyfer cyfleustodau ac asiantaethau eraill gan gynnwys maint (diamedr), lliw, deunydd, gwydnwch rhag trawiad, lleoliadau a dyfnderoedd nodweddiadol
- priodweddau ffisegol y cyfrwng sy’n cael ei gludo gan y cyfarpar cyflenwi ar gyfer cyfleustodau ac asiantaethau eraill gan gynnwys nodweddion tanio, dwysedd yn berthynol i aer, trydaniad, adwaith i ddifrod dŵr
- dulliau canfod ac adnabod gweledol gyfarpar cyflenwi tanddaearol gan gynnwys marcwyr, arwyddion a nodweddion, cofnodion presennol
- goblygiadau difrod i gyfarpar cyflenwi gan gynnwys perygl ichi’ch hunain neu eraill, difrod i’r amgylchedd, cost trwsio ac oedi yng nghynnydd y gwaith
- rolau a chyfrifoldebau’r sefydliadau dan sylw yn y gwaith a sut mae cysylltu â hwy gan gynnwys pa bobl neu sefydliadau i roi gwybod iddynt os bydd difrod i gyfarpar cyflenwi neu strwythurau tanddaearol eraill
- dulliau marcio ar gyfer gwaith cloddio a chanlyniadau marcio anghywir gan gynnwys costau, colli amser, a gwastraffu deunydd
- pwysigrwydd darparu digon o gymorth a dulliau gwarchod i gyfarpar cyflenwi yn ystod gwaith cloddio a dulliau darparu ategion dros dro a pharhaol
- gweithdrefnau diogel i drin a thrafod y cyfarpar angenrheidiol
- sut mae defnyddio a dehongli canlyniadau darlleniadau cyfarpar canfod electronig ac effeithiau dylanwadau allanol ar ddarlleniadau
- pryd gellir defnyddio tyllau prawf i ganfod cyflenwadau tanddaearol
- pwysigrwydd cyfeirio problemau y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb a phryd mae gwneud hynny
- y gweithdrefnau ar gyfer adrodd a chofnodi cynnydd gwaith, problemau a gwyriadau i raglenni gwaith