Pennu a rheoli cyfarpar ar gyfer gweithio’n ddiogel ar safleoedd
URN: EUSMUNC5
Sectorau Busnes (Suites): Adeiladu Rhwydwaith Aml-gyfleustod
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Rhag 2018
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â phennu a rheoli cyfarpar diogelwch ac adnoddau ar gyfer adeiladu rhwydwaith cyfleustodau. Gallai fod yn berthnasol i weithrediadau adeiladu rhwydwaith ar gyfer amgylchedd un cyfleustod neu aml-gyfleustod.
Mae’n cynnwys cadarnhau a pharatoi ardaloedd gwaith, dewis ac archwilio adnoddau rheoli a gwarchod a chynnal diogelwch cyfarpar a deunyddiau rheoli a gwarchod.
Gellir defnyddio’r Safon hon gan unrhyw un sy’n pennu gofynion rheoli a gwarchod adnoddau ar gyfer adeiladu rhwydwaith cyfleustodau ac sy’n rheoli eu storio a’u diogelwch parhaus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- canfod a chadarnhau ardaloedd ar gyfer gwaith yn ôl cyfarwyddiadau gwaith a gofynion penodedig
2. cadarnhau cyfarwyddiadau gwaith a gofynion penodedig gyda phobl awdurdodedig pan fydd gwybodaeth yn ymddangos yn aneglur neu’n anghywir3. cynllunio gwaith mewn modd sy’n achosi’r aflonyddwch ac anghyfleustra lleiaf posibl i eraill yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy4. cynnal ac adolygu asesiadau risg penodol i safle i nodi peryglon ac i bennu amrywiaeth y cyfarpar rheoli a gwarchod sy’n angenrheidiol ar gyfer gwaith yn unol â gweithdrefnau’r cwmni5. dewis a gwisgo Cyfarpar Diogelu Personol dynodedig ar adegau priodol6. paratoi ardaloedd ar gyfer gwaith yn unol â gofynion penodedig7. ymdrin â’r peryglon a’r risgiau sy’n gysylltiedig ag ardaloedd gwaith a’r amgylchedd naturiol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol8. dewis adnoddau rheoli a gwarchod i fodloni gofynion a gynlluniwyd yn unol â’r manylebau a chyfarwyddiadau gwaith9. cadarnhau bod cyflenwadau rheoli a gwarchod yn bodloni gofynion a’u bod o’r ansawdd a’r nifer sy’n ofynnol10. adrodd am unrhyw brinderau a diffygion adnoddau rheoli a gwarchod i’r bobl briodol11. storio adnoddau rheoli a gwarchod yn unol â gofynion gweithredol a sefydliadol12. cynnal diogelwch adnoddau rheoli a gwarchod yn unol â gofynion gweithredol a sefydliadol13. cofnodi, storio a gwarchod data a gwybodaeth mewn systemau gwybodaeth sefydliadol yn unol â gofynion diogelwch data sefydliadol 14. cyfeirio problemau ac amodau y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb at y bobl briodol gan ddefnyddio gweithdrefnau cymeradwy15. defnyddio gweithdrefnau ac arferion cymeradwy drwy gydol pob gwaith i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â gofynion statudol16. cynnal diogelwch safle lle nad yw gwaith wedi’i gwblhau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion statudol a rheoleiddiol perthnasol mewn perthynas ag iechyd a diogelwch, cloddiadau, gwaith ffordd a stryd, lleoliad cyfarpar cyflenwi lle mae hyn yn dinoethi gwasanaethau eraill, deunyddiau peryglus, damweiniau a chyfarpar diogelu personol
rolau a chyfrifoldebau pobl yn y tîm gweithrediadau
strwythurau rheoli safle ar gyfer gweithrediadau safle
pwy i roi gwybod iddo am gynnydd, problemau a gwyriadau
5. gweithdrefnau ar gyfer adrodd a chofnodi cynnydd gwaith, problemau, gwyriadau i raglenni gwaith6. pwysigrwydd cadarnhau bod lleoliad gwaith wedi’i nodi’n gywir7. y mathau o wybodaeth sydd mewn cyfarwyddiadau ysgrifenedig, manylebau, a lluniadau8. gofynion allweddol cynllun safle effeithiol9. peryglon cyffredin mewn gwaith safle a rhagofalon diogelwch addas at ddiben, a dulliau atal10. niferoedd a mathau o adnoddau rheoli a gwarchod sy’n ofynnol, ble i’w cael nhw a sut mae nodi prinderau a diffygion11. dulliau ymdrin ag argyfyngau12. amrywiaeth y cyfarpar diogelwch yn unol â gweithrediadau safle13. prif ofynion deddfwriaeth diogelwch sy’n llywodraethu gwaith safle14. deunyddiau sy’n creu perygl i iechyd a dulliau trin diogel15. y cyfarpar diogelu personol i’w defnyddio mewn gweithrediadau safle16. technegau codi a thrin a thrafod sy’n briodol i adnoddau rheoli a gwarchod
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Rhag 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
MUNC05
Galwedigaethau Perthnasol
Adeiladu ac adeiladwaith, Gweithiwr Adeiladu Rhwydwaith Cyfleustod, Goruchwyliwr Adeiladu Rhwydwaith Cyfleustod
Cod SOC
5314
Geiriau Allweddol
cyfleustod, cyfleustodau, rhwydwaith, adeiladu, dŵr, nwy