Gweithio mewn modd effeithlon ac effeithiol yn y sector cyfleustodau LEGACY
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â gweithio mewn modd effeithlon ac effeithiol yn y sector cyfleustodau.
Mae’n cynnwys gwneud eich gwaith i safonau a gytunwyd, gan ddilyn gweithdrefnau a phrosesau, rheoli eich amser, cyfathrebu ag eraill a’u helpu, gwybod am y diwydiant a’r sefydliad, deall eich lle yn y gweithrediadau a sut y gall eich rôl effeithio ar eraill.
Mae’r safon hon i unrhyw un sy’n gweithio yn y sector cyfleustodau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. defnyddio ffynonellau priodol i nodi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i fwrw ymlaen â’ch gwaith
2. holi’r bobl briodol pan fydd unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’ch gwaith yn ymddangos yn anghywir
3. cytuno ar unrhyw wyriadau mewn safonau neu fanyleb gyda’r bobl briodol cyn gwneud gwaith
4. trefnu eich gwaith eich hun a’ch gwaith gyda phobl eraill er mwyn defnyddio amser yn effeithiol a chydymffurfio ag amserlenni a gytunwyd
5. gwneud gwaith yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy a gofynion statudol
6. dilyn cyfarwyddiadau ac awgrymiadau gan bobl berthnasol i addasu dulliau gwaith neu wella cynnyrch gwaith
7. gwneud yr holl waith i safonau a gytunwyd, gan sicrhau cydymffurfiad y gwaith gorffenedig pan fydd yn briodol
8. ymgymryd â gweithgareddau gwaith yr ydych yn gyfrifol amdanynt, wrth weithio’n unigol neu fel rhan o dîm
9. cyfathrebu gwybodaeth am gynnydd, materion y daethpwyd ar eu traws a chamau a gymerwyd a fydd yn ddefnyddiol i gydweithwyr ar adegau priodol
10. ymateb i ymholiadau gan bobl eraill sy’n berthnasol i waith mewn modd adeiladol ac ar adegau priodol
11. storio, defnyddio a chynnal deunyddiau a chyfarpar gwaith yn unol â gofynion gwaith a gweithdrefnau ac arferion cymeradwy
12. cofnodi gwybodaeth a data sy’n ofynnol i’ch gwaith mewn systemau cofnodi sefydliadol yn unol â gweithdrefnau gweithredol a sefydliadol
13. symud a gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy
14. adrodd i’r bobl briodol am unrhyw sefyllfaoedd sy’n gofyn ymyriad ychwanegol a phroblemau neu amodau sydd y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb
15. nodi ac awgrymu gwelliannau i ddulliau gwaith i’r bobl briodol ar adegau priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. deddfwriaeth sy’n berthnasol i’ch gwaith mewn perthynas â’ch gwaith ac amgylchedd y gweithle
2. gweithdrefnau, arferion a safonau gweithredol diwydiant a sefydliadol sy’n berthnasol i’ch gwaith ac amgylchedd y gweithle
3. cylch gwaith eich sefydliad a sut mae gwaith eich sefydliad yn ffitio yn y diwydiant cyfan
4. strwythur a llwybrau adrodd sefydliadol
5. cyfrifoldebau a therfynau eich rôl a sut mae cwblhau neu beidio â chwblhau eich gwaith yn gallu effeithio ar gydweithwyr, cwsmeriaid a’r sefydliad
6. delwedd y sefydliad a sut gall eich ymddygiad yn y gwaith effeithio ar y ddelwedd honno
7. yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch am ofynion gwaith gan gynnwys manylebau, dulliau gwaith, fframiau amser a safonau perthnasol neu ddulliau rheoli ansawdd
8. sut mae dehongli cynlluniau, amserlenni a rhaglenni gwaith sy’n berthnasol i’ch gwaith
9. y prosesau a dilyniant digwyddiadau ar gyfer gweithgarwch gwaith a gweithgarwch ôl-waith i gyflawni canlyniadau bwriadedig y swydd
10. technegau rheoli amser
11. sut mae gweithio yn rhan o dîm, gyda phwy mae angen ichi weithio a phryd
12. dulliau cyfathrebu a gweithdrefnau cyfathrebu sefydliadol ar gyfer cyfathrebu â chydweithwyr, cwsmeriaid a rheolwyr
13. nodweddion a phriodweddau ffisegol y deunyddiau a ddefnyddir yn eich gwaith gan gynnwys sut y bydd y tywydd yn effeithio arnynt, sut y byddant yn cael eu pacio a sut i’w trin yn ddiogel
14. sut mae defnyddio ac archwilio’r offer a’r cyfarpar sy’n ofynnol ar eich gofynion gwaith gweithredol a sefydliadol ar gyfer storio deunyddiau gwaith a chyfarpar sy’n briodol i’w natur, nodweddion a gwerth
15. agweddau ar eich gwaith a allai olygu perygl i iechyd a dulliau i’w lleddfu
16. sut mae nodi agweddau ar waith a all fod yn niweidiol i ddiogelwch neu’r amgylchedd
17. gofynion sefydliadol ar gyfer trin a thrafod a gwaredu gwastraff gan gynnwys adfer deunyddiau amldro
18. systemau cofnodi sefydliadol