Gweithio mewn ffordd effeithlon ac effeithiol yn y sector cyfleustodau
URN: EUSMUNC4
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydweithiau Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2023
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â gweithio mewn ffordd effeithlon ac effeithiol yn y sector cyfleustodau.
Mae’n cynnwys gwneud eich gwaith yn unol â safonau y cytunwyd arnynt, dilyn gweithdrefnau a phrosesau, rheoli eich amser, cyfathrebu â phobl eraill a’u helpu, gwybod am y diwydiant a’r sefydliad a deall eich lle yn y gweithrediadau a sut gall eich rôl effeithio ar eraill.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio yn y sector cyfleustodau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio ffynonellau priodol i nodi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud eich gwaith
- holi'r bobl briodol pan fydd unrhyw wybodaeth sy'n gysylltiedig â'ch gwaith yn ymddangos yn anghywir
- cytuno ar unrhyw wyriadau yn y safonau neu'r fanyleb gyda'r bobl briodol cyn gwneud y gwaith
- trefnu eich gwaith eich hun a'ch gwaith gyda phobl eraill i wneud defnydd effeithiol o amser a chydymffurfio ag amserlenni y cytunwyd arnynt
- gwneud gwaith yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy a gofynion statudol
- dilyn cyfarwyddiadau ac awgrymiadau gan bobl berthnasol i addasu dulliau gweithio neu wella allbynnau gwaith
- gwneud gwaith yn unol â safonau y cytunwyd arnynt, gan wirio cydymffurfiad â gwaith sydd wedi’i gwblhau pan fo hynny’n briodol
- cyflawni'r holl weithgareddau gwaith yr ydych yn gyfrifol amdanynt, wrth weithio ar eich pen eich hun neu fel rhan o dîm
- cyfleu gwybodaeth am gynnydd, problemau y daethpwyd ar eu traws a'r camau a gymerwyd a fydd yn ddefnyddiol i gydweithwyr ar adegau priodol
- ymateb i ymholiadau gan bobl eraill sy'n gysylltiedig â gwaith mewn ffordd adeiladol ac ar adegau priodol
- storio, defnyddio a chynnal a chadw deunyddiau a chyfarpar gwaith yn unol â gofynion y gwaith a gweithdrefnau ac arferion cymeradwy
- cofnodi'r wybodaeth a'r data sydd eu hangen ar gyfer eich gwaith mewn systemau cofnodi sefydliadol yn unol â gweithdrefnau gweithredol a sefydliadol
- symud a gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy
- cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn y diwydiant a'u goblygiadau ar eich gwaith eich hun yn barhaus
- rhoi gwybod i bobl briodol am unrhyw sefyllfaoedd sy'n gofyn am ymyrraeth ychwanegol a phroblemau neu amodau sydd y tu hwnt i'ch cyfrifoldeb
- nodi ac awgrymu gwelliannau i ddulliau gweithio i bobl briodol ar adegau priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth sy'n berthnasol i'ch gwaith ac amgylchedd y gweithle
- gweithdrefnau, arferion a safonau gweithredol y diwydiant a'r sefydliad sy'n ymwneud â'ch gwaith ac amgylchedd y gweithle
- cylch gwaith eich sefydliad a sut mae gwaith eich sefydliad chi yn cyd-fynd â'r diwydiant fel corff
- strwythur y sefydliad a llinellau adrodd
- cyfrifoldebau a ffiniau eich rôl a sut y gall cwblhau neu beidio â chwblhau eich gwaith effeithio ar gydweithwyr, cwsmeriaid a'r sefydliad
- delwedd y sefydliad a sut mae eich ymddygiad chi yn y gwaith yn gallu effeithio ar y ddelwedd honno
- yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch am ofynion gwaith gan gynnwys manylebau, dulliau gweithio, amserlenni a safonau perthnasol neu ddulliau rheoli ansawdd
- sut i ddehongli cynlluniau, amserlenni a rhaglenni gwaith sy'n berthnasol i'ch gwaith
- prosesau a threfn digwyddiadau ar gyfer gweithgareddau gwaith a gweithgareddau ar ôl gwaith er mwyn cyflawni'r canlyniadau gwaith a fwriadwyd
- technegau rheoli amser
- sut i weithio fel rhan o dîm, gyda phwy y mae angen i chi weithio a phryd
- dulliau cyfathrebu a gweithdrefnau cyfathrebu sefydliadol ar gyfer cyfathrebu â chydweithwyr, cwsmeriaid a rheolwyr
- pryd mae angen ymyrraeth ychwanegol i ddelio â phroblemau neu amodau sydd y tu hwnt i'ch cyfrifoldeb a phwy i'w cyfeirio atynt
- nodweddion a phriodweddau ffisegol y deunyddiau a ddefnyddir yn eich gwaith gan gynnwys sut bydd y tywydd yn effeithio arnynt, sut byddant yn cael eu pecynnu a sut i'w trin yn ddiogel
- sut i ddefnyddio a gwirio'r offer a'r cyfarpar sydd eu hangen ar gyfer eich gwaith
- gofynion gweithredol a sefydliadol ar gyfer storio deunyddiau gwaith ac offer sy’n briodol i’w natur, eu nodweddion a’u gwerth
- agweddau ar eich gwaith a allai achosi perygl i iechyd a dulliau o leihau hyn
- sut i nodi agweddau ar waith a allai fod yn niweidiol i ddiogelwch neu'r amgylchedd
- ffynonellau gwybodaeth am ddatblygiadau yn y diwydiant a sut i asesu eu heffaith ar eu gwaith eu hunain
- gofynion sefydliadol ar gyfer trin gwaith gwaredu gwastraff gan gynnwys adfer deunyddiau y gellir eu hailddefnyddio
- systemau cofnodi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
2
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSMUNC4
Galwedigaethau Perthnasol
Adeiladu Rhwydwaith Dŵr, Adeiladu Rhwydwaith Aml-Gyfleustodau, Adeiladu Rhwydwaith Nwy
Cod SOC
Geiriau Allweddol
effeithlon, effeithiol, cyfleustodau, cyfleustodau, rhwydwaith, adeiladu, dŵr, nwy, gweithrediadau, LPG, hydrogen, aml-ddefnydd