Gweithio gyda phobl o sefydliadau eraill yn y sector cyfleustodau
URN: EUSMUNC3
Sectorau Busnes (Suites): Rhwydwaith Aml-Gyfleustod Adeiladu
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
31 Rhag 2018
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â gweithio’n effeithiol gyda phobl o
sefydliadau eraill. Gallai’r rhain gynnwys, ymysg eraill, partneriaid, cyflenwyr, contractwyr, cyfleustodau eraill, awdurdodau lleol, cynrychiolwyr o gyrff statudol neu'r gwasanaethau brys.
Mae’n cynnwys trosglwyddo gwybodaeth, cytuno ar gamau gweithredu, ymateb i geisiadau rhesymol, cyflawni unrhyw weithgareddau rydych chi wedi ymrwymo iddynt, delio â phroblemau a chofnodi rhyngweithiadau.
Mae'r Safon ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y sector cyfleustodau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cyfathrebu â phobl o sefydliadau eraill drwy sianeli cyfathrebu safonol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
2. trosglwyddo gwybodaeth a fydd yn ddefnyddiol i bobl o sefydliadau eraill ac a fydd o fudd i'ch sefydliad chi ar adegau priodol
3. cytuno ar weithgareddau neu gamau gweithredu gyda phobl o sefydliadau eraill sy'n cefnogi gwaith yn eich maes cyfrifoldeb chi
4. cyflawni camau gweithredu neu weithgareddau ar ran pobl o sefydliadau eraill rydych chi wedi ymrwymo iddynt o fewn yr amserlen a gytunwyd
5. ymateb i geisiadau rhesymol gan bobl o sefydliadau eraill mewn ffordd adeiladol ac ar adegau priodol
6. cydweithredu â phobl o sefydliadau eraill i ganfod ffyrdd effeithiol o ddelio â phroblemau gwaith
7. delio â phroblemau â phobl o sefydliadau eraill yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
8. cyfeirio materion heb eu datrys a allai arwain at berthynas waith yn chwalu at sylw'r bobl briodol
9. cofnodi'r rhyngweithio â phobl o sefydliadau eraill ar systemau gwybodaeth y sefydliad yn unol â gofynion gweithredol a sefydliadol
10. defnyddio a storio data am ryngweithiadau â phobl o sefydliadau eraill yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a deddfwriaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. cylch gwaith eich sefydliad a sut mae gwaith eich sefydliad chi yn cyd-fynd â'r diwydiant fel corff
2. rôl y sefydliadau eraill rydych chi'n gweithio â nhw a’u lle yn y sector
3. y mathau o sefydliadau eraill y mae angen i chi weithio â nhw, gan gynnwys contractwyr, partneriaid, cyfleustodau eraill, awdurdodau lleol, cynrychiolwyr o sefydliadau statudol, y gwasanaethau brys
4. rolau pobl o sefydliadau eraill y mae angen i chi weithio â nhw, gan gynnwys crefftwyr yn y maes, cynghorwyr, swyddogion cydymffurfiaeth
5. delwedd y sefydliad a sut mae eich ymddygiad chi yn y gwaith yn gallu effeithio ar y ddelwedd honno
6. sut mae delio â phobl o sefydliadau eraill mewn ffordd sy’n hybu ewyllys da
7. sut mae delio â grwpiau ac unigolion sydd â rolau a chyfrifoldebau amrywiol
8. sut mae delio â phobl o sefydliadau eraill mewn amgylcheddau busnes gwahanol
9. sut mae adnabod problemau sy'n effeithio ar y berthynas waith a delio â'r problemau hynny
10. sut mae datrys problemau sy'n effeithio ar gynhyrchiant a chyflawni nodau gwaith
11. y llinellau cyfathrebu i'w dilyn wrth drosglwyddo gwybodaeth i bobl o sefydliadau eraill
12. dulliau cyfathrebu, gan gynnwys ar lafar, yn ysgrifenedig ac yn electronig a pha bryd y maent yn briodol
13. pwy i gyfeirio problemau sydd heb eu datrys atynt
14. y dogfennau sydd i'w defnyddio wrth drosglwyddo gwybodaeth i unigolion a grwpiau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Rhag 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Enrergy & Utility Skills
URN gwreiddiol
MUNC03
Galwedigaethau Perthnasol
Adeiladu, cynllunio a'r amgylchedd adeiledig
Cod SOC
3565
Geiriau Allweddol
Cynnal, cyfleustodau, cyfleustod, rhwydwaith, adeiladu, dŵr, nwy