Rheoli cyflenwi gweithgareddau rhwydwaith cyfleustod mewn perthynas â chynlluniau gweithredu a gofynion ansawdd LEGACY

URN: EUSMUNC2L
Sectorau Busnes (Cyfresi): Adeiladu Rhwydwaith Aml-gyfleustod
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 2018

Trosolwg

​Mae’r Safon hon yn ymwneud â rheoli cyflenwi gweithgareddau rhwydwaith mewn perthynas â chynlluniau gweithredu a gofynion ansawdd. Gallai fod yn berthnasol i weithrediadau adeiladu rhwydwaith ar gyfer un cyfleustod neu mewn amgylchedd aml-gyfleustod.
Mae hyn yn cynnwys cyfathrebu cynlluniau gweithredu, archwilio cyfarpar, deunyddiau, cynhyrchion a gwaith i sicrhau y bodlonant safonau cymeradwy, nodi unrhyw ddiffyg cydymffurfio, awgrymu camau cywiro a chofnodi gwybodaeth i gydymffurfio â safonau rheoleiddio.      
Mae’r safon hon ar gyfer y rhai sy’n gyfrifol am reoli cyflenwi gweithgareddau rhwydwaith cyfleustod mewn perthynas â chynlluniau gweithredu a gofynion ansawdd mewn amgylchedd un cyfleustod neu aml-gyfleustod.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cyfathrebu cynlluniau gweithredu a gweithdrefnau ac arferion cymeradwy â’r bobl briodol ar adegau priodol
2. sicrhau bod cyflwr offer, cyfarpar a pheiriannau yn cael ei archwilio mewn perthynas â manylebau gweithgynhyrchwyr ar adegau priodol   
3. sicrhau bod deunyddiau a chynhyrchion yn bodloni manyleb a’u bod yn briodol ar gyfer gweithgareddau rhwydwaith penodedig   
4. archwilio dulliau gosod ac adeiladu a’r defnydd o ddeunyddiau yn rheolaidd am gydymffurfio â gweithdrefnau rheoleiddio a sefydliadol      5. nodi gwaith sy’n methu bodloni gweithdrefnau ac arferion cymeradwy ac awgrymu camau cywiro yn unol â gweithdrefnau sefydliadol           
6. nodi ac ymchwilio i ddiffyg cydymffurfio â gofynion rheoleiddio yn unol â gweithdrefnau sefydliadol          
7. cofnodi canlyniadau ymchwiliadau diffyg cydymffurfio mewn systemau priodol
8. monitro materion diffyg cydymffurfio parhaus, gan gofnodi methiannau i gywiro safonau annerbyniol cyn pen amser penodol
9. rhoi gwybod i’r unigolion a’r sefydliadau priodol am faterion diffyg cydymffurfio a chamau gweithredu          
10. monitro cwblhau cerrig milltir a gweithgareddau mewn perthynas â chynlluniau gweithredu 
11. rhoi gwybod am unrhyw newidiadau y mae angen eu gwneud i gynlluniau gweithredu ar unrhyw adeg yn y gweithrediadau rhwydwaith
12. rhoi gwybod i’r bobl briodol am gwblhau gweithrediadau a gynlluniwyd, gan nodi unrhyw amrywiadau i gynlluniau gwreiddiol    
13. nodi newidiadau a fydd yn gwella gweithdrefnau ac arferion sefydliadol a’u cofnodi mewn systemau priodol            
14. cyflwyno awgrymiadau am newid i’r bobl briodol ar adegau priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. prosesau sefydliadol am weithgareddau rhwydwaith ar gyfer y cyfleustod(au) yr ydych yn gweithio gydag ef/hwy

  2. yr effaith y mae gwaith ar gyfleustodau eraill yn ei chael ar safonau ansawdd eich maes gwaith chi a chyfrifoldebau statudol sy’n berthnasol i’ch gwaith      

  3. cynnwys cynlluniau gweithredu gan gynnwys cerrig milltir a gweithgareddau
  4. dulliau cyfathrebu    
  5. unigolion a sefydliadau sy’n gofyn gwybodaeth benodol a phryd mae gofyn iddynt ei chael
  6. ble i gael manylebau gweithgynhyrchwyr ar gyfer offer, cyfarpar a pheiriannau 
    7. deunyddiau a chynhyrchion priodol ar gyfer gweithgareddau rhwydwaith yr ydych yn gyfrifol amdanynt ac ym mha gyflwr y dylent fod                
  7. pwysigrwydd archwilio rheolweithiau a dulliau 
  8. sut mae asesu dulliau gosod ac adeiladu a’r defnydd o ddeunyddiau 
  9. camau cywiro derbyniol ar gyfer gwaith is-safonol   
  10. systemau cofnodi ar gyfer rheoli cydymffurfio a chyflenwi gweithgareddau rhwydwaith
  11. pwysigrwydd cofnodi gwybodaeth am gydymffurfio â safonau rheoleiddio             
  12. dulliau ymchwilio     
  13. sut mae nodi ac ymdrin â diffyg cydymffurfio 
  14. dulliau cyflwyno

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Etifeddiaeth

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

MUNC33

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu, cynllunio a'r amgylchedd adeiledig, Gweithiwr Adeiladu Rhwydwaith Cyfleustod, Goruchwyliwr Adeiladu Rhwydwaith Cyfleustod

Cod SOC

5314

Geiriau Allweddol

cyfleustod, dŵr, nwy, ansawdd