Rheoli cyflenwi gweithgareddau rhwydwaith cyfleustod mewn perthynas â chynlluniau gweithredu a gofynion ansawdd
URN: EUSMUNC2
Sectorau Busnes (Suites): Adeiladu Rhwydwaith Aml-gyfleustod
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Rhag 2018
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â rheoli cyflenwi gweithgareddau rhwydwaith mewn perthynas â chynlluniau gweithredu a gofynion ansawdd. Gallai fod yn berthnasol i weithrediadau adeiladu rhwydwaith ar gyfer un cyfleustod neu mewn amgylchedd aml-gyfleustod.
Mae hyn yn cynnwys cyfathrebu cynlluniau gweithredu, archwilio cyfarpar, deunyddiau, cynhyrchion a gwaith i sicrhau y bodlonant safonau cymeradwy, nodi unrhyw ddiffyg cydymffurfio, awgrymu camau cywiro a chofnodi gwybodaeth i gydymffurfio â safonau rheoleiddio.
Mae’r safon hon ar gyfer y rhai sy’n gyfrifol am reoli cyflenwi gweithgareddau rhwydwaith cyfleustod mewn perthynas â chynlluniau gweithredu a gofynion ansawdd mewn amgylchedd un cyfleustod neu aml-gyfleustod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cyfathrebu cynlluniau gweithredu a gweithdrefnau ac arferion cymeradwy â’r bobl briodol ar adegau priodol
2. sicrhau bod cyflwr offer, cyfarpar a pheiriannau yn cael ei archwilio mewn perthynas â manylebau gweithgynhyrchwyr ar adegau priodol
3. sicrhau bod deunyddiau a chynhyrchion yn bodloni manyleb a’u bod yn briodol ar gyfer gweithgareddau rhwydwaith penodedig
4. archwilio dulliau gosod ac adeiladu a’r defnydd o ddeunyddiau yn rheolaidd am gydymffurfio â gweithdrefnau rheoleiddio a sefydliadol 5. nodi gwaith sy’n methu bodloni gweithdrefnau ac arferion cymeradwy ac awgrymu camau cywiro yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
6. nodi ac ymchwilio i ddiffyg cydymffurfio â gofynion rheoleiddio yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
7. cofnodi canlyniadau ymchwiliadau diffyg cydymffurfio mewn systemau priodol
8. monitro materion diffyg cydymffurfio parhaus, gan gofnodi methiannau i gywiro safonau annerbyniol cyn pen amser penodol
9. rhoi gwybod i’r unigolion a’r sefydliadau priodol am faterion diffyg cydymffurfio a chamau gweithredu
10. monitro cwblhau cerrig milltir a gweithgareddau mewn perthynas â chynlluniau gweithredu
11. rhoi gwybod am unrhyw newidiadau y mae angen eu gwneud i gynlluniau gweithredu ar unrhyw adeg yn y gweithrediadau rhwydwaith
12. rhoi gwybod i’r bobl briodol am gwblhau gweithrediadau a gynlluniwyd, gan nodi unrhyw amrywiadau i gynlluniau gwreiddiol
13. nodi newidiadau a fydd yn gwella gweithdrefnau ac arferion sefydliadol a’u cofnodi mewn systemau priodol
14. cyflwyno awgrymiadau am newid i’r bobl briodol ar adegau priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- prosesau sefydliadol am weithgareddau rhwydwaith ar gyfer y cyfleustod(au) yr ydych yn gweithio gydag ef/hwy
2. yr effaith y mae gwaith ar gyfleustodau eraill yn ei chael ar safonau ansawdd eich maes gwaith chi a chyfrifoldebau statudol sy’n berthnasol i’ch gwaith3. cynnwys cynlluniau gweithredu gan gynnwys cerrig milltir a gweithgareddau4. dulliau cyfathrebu5. unigolion a sefydliadau sy’n gofyn gwybodaeth benodol a phryd mae gofyn iddynt ei chael
6. ble i gael manylebau gweithgynhyrchwyr ar gyfer offer, cyfarpar a pheiriannau7. deunyddiau a chynhyrchion priodol ar gyfer gweithgareddau rhwydwaith yr ydych yn gyfrifol amdanynt ac ym mha gyflwr y dylent fod8. pwysigrwydd archwilio rheolweithiau a dulliau9. sut mae asesu dulliau gosod ac adeiladu a’r defnydd o ddeunyddiau10. camau cywiro derbyniol ar gyfer gwaith is-safonol11. systemau cofnodi ar gyfer rheoli cydymffurfio a chyflenwi gweithgareddau rhwydwaith
12. pwysigrwydd cofnodi gwybodaeth am gydymffurfio â safonau rheoleiddio13. dulliau ymchwilio14. sut mae nodi ac ymdrin â diffyg cydymffurfio15. dulliau cyflwyno
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Rhag 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
MUNC33
Galwedigaethau Perthnasol
Adeiladu, cynllunio a'r amgylchedd adeiledig, Gweithiwr Adeiladu Rhwydwaith Cyfleustod, Goruchwyliwr Adeiladu Rhwydwaith Cyfleustod
Cod SOC
5314
Geiriau Allweddol
cyfleustod, dŵr, nwy, ansawdd