Rheoli’r gwaith o gyflawni gweithgareddau rhwydwaith cyfleustodau yn erbyn cynlluniau gweithredol a gofynion ansawdd
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â rheoli'r gwaith o gyflawni gweithgareddau rhwydwaith yn erbyn cynlluniau gweithredol a gofynion ansawdd. Gallai fod yn berthnasol i weithrediadau adeiladu rhwydwaith ar gyfer un cyfleuster neu mewn amgylchedd amlbwrpas.
Mae hyn yn cynnwys cyfathrebu cynlluniau gweithredol, gwirio offer, deunyddiau, cynhyrchion a gwaith i sicrhau eu bod yn bodloni safonau cymeradwy, nodi unrhyw ddiffyg cydymffurfio, awgrymu camau cywiro a chofnodi gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â safonau rheoleiddio.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheini sy’n gyfrifol am reoli’r gwaith o gyflawni gweithgareddau rhwydwaith cyfleustodau yn erbyn cynlluniau gweithredol a gofynion ansawdd mewn amgylchedd unigol neu aml-gyfleustod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfleu cynlluniau gweithredol a gweithdrefnau ac arferion cymeradwy i bobl briodol ar adegau priodol
- gwneud yn siŵr bod cyflwr yr offer, y cyfarpar a’r peiriannau’n cael eu gwirio yn unol â manylebau’r gwneuthurwyr ar adegau priodol
- gwneud yn siŵr bod deunyddiau a chynhyrchion yn bodloni'r fanyleb ac yn briodol ar gyfer gweithgareddau rhwydwaith penodol
- gwirio dulliau gosod ac adeiladu a defnyddio deunyddiau yn rheolaidd er mwyn cydymffurfio â gweithdrefnau rheoleiddiol a sefydliadol
- nodi gwaith sy'n methu bodloni gweithdrefnau ac arferion cymeradwy ac awgrymu camau unioni yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- nodi ac ymchwilio i ddiffyg cydymffurfio â gofynion rheoleiddiol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cofnodi canlyniadau ymchwiliadau i ddiffyg cydymffurfio mewn systemau priodol
- monitro materion parhaus sy'n ymwneud â diffyg cydymffurfio, gan gofnodi methiannau i wella safonau annerbyniol o fewn amser penodol
- rhoi gwybod i unigolion a sefydliadau priodol am faterion a chamau gweithredu sy'n ymwneud â diffyg cydymffurfio
- monitro’r broses o gwblhau cerrig milltir a gweithgareddau yn erbyn cynlluniau gweithredol
- rhoi gwybod am unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud i gynlluniau gweithredol ar unrhyw gam o weithrediadau'r rhwydwaith
- rhoi gwybod i'r bobl briodol am gwblhau'r gweithrediadau a gynlluniwyd, gan nodi unrhyw amrywiadau i'r cynlluniau gwreiddiol
- Nodi diwygiadau a fydd yn gwella gweithdrefnau ac arferion y sefydliad a’u cofnodi mewn systemau priodol
- cyflwyno awgrymiadau ar gyfer diwygio i bobl briodol ar adegau priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- prosesau sefydliadol ar gyfer gweithgareddau rhwydwaith o ran y gwasanaeth(au) rydych yn gweithio â nhw
- yr effaith y mae gwaith ar gyfleustodau eraill yn ei chael ar eich maes gwaith
- safonau ansawdd a chyfrifoldebau cyfreithiol a statudol sy'n berthnasol i'ch gwaith
- cynnwys cynlluniau gweithredol fel cerrig milltir a gweithgareddau
- dulliau cyfathrebu
- unigolion a sefydliadau sydd angen gwybodaeth benodol a phryd mae ei hangen arnynt
- ble mae cael manylion gwneuthurwyr ar gyfer offer, cyfarpar a pheiriannau
- deunyddiau a chynhyrchion priodol ar gyfer gweithgareddau rhwydwaith yr ydych yn gyfrifol amdanynt a'r cyflwr y dylent fod ynddo
- pwysigrwydd gwirio arferion a dulliau
- sut mae asesu dulliau gosod ac adeiladu a defnyddio deunyddiau
- camau cywiro derbyniol ar gyfer gwaith is na’r safon
- systemau cofnodi ar gyfer rheoli cydymffurfiad a chyflawni gweithgareddau rhwydwaith
- pwysigrwydd cofnodi gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â safonau rheoleiddio
- sut i ymchwilio i ddiffyg cydymffurfio
- sut i nodi a delio â diffyg cydymffurfio
- sut i gyflwyno awgrymiadau ar gyfer diwygio i eraill