Cynllunio gweithrediadau adeiladu rhwydwaith cyfleustodau LEGACY
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â chynllunio gweithrediadau ar asedau rhwydwaith er mwyn i’r gwaith gorffenedig fodloni manylebau gweithredu a sicrhau ansawdd y sefydliad. Gellir ei defnyddio ar gyfer cynllunio cychwynnol neu i addasu cynlluniau presennol wrth i waith fynd rhagddo. Gallai fod yn berthnasol i weithrediadau adeiladu rhwydwaith ar gyfer un cyfleustod neu mewn amgylchedd aml-gyfleustod.
Mae’n cynnwys adnabod gofynion iechyd, diogelwch, amgylcheddol, trwyddedau angenrheidiol ac unrhyw ofynion penodol eraill, cynllunio’r amseriadau a dilyniant gweithgareddau a dogfennu a chyfathrebu cynlluniau.
Mae’r Safon hon ar gyfer rheolwyr neu oruchwylwyr adeiladu rhwydwaith sy’n gweithio mewn amgylchedd un cyfleustod neu aml-gyfleustod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod pob ffactor perthnasol i’w gynnwys mewn cynlluniau
cysylltu ag asiantaethau allanol yn ôl yr angen i gael gwybodaeth sy’n berthnasol i gyflenwi cynlluniau
pennu’r holl drwyddedau a gweithdrefnau angenrheidiol y mae’n rhaid eu dilyn drwy weithrediadau
- gwneud gwaith cynllunio yn unol â pholisi a gweithdrefnau gwaith y cwmni.
- canfod unrhyw ofynion penodol a allai effeithio ar safleoedd neu weithrediadau sy’n cael eu cynllunio
- cadarnhau gydag asiantaethau allanol a oes unrhyw delerau ac amodau penodol yn berthnasol i safle, gweithrediadau neu amserlenni sy’n cael eu cynllunio
7. cysylltu ag eraill i bennu amserlenni realistig ar gyfer gweithrediadau sy’n ofynnol - cofnodi dilyniant o weithgareddau yn unol â gweithdrefnau rheoleiddiol a sefydliadol
- canfod opsiynau wrth gefn i ddarparu ar gyfer newidiadau annisgwyl i’r rhaglenni a gynlluniwyd
- gwneud darpariaeth ar gyfer arferion gweithio diogel ac amgylcheddol yn unol â rheoliadau iechyd a diogelwch a deddfwriaeth amgylcheddol drwy gydol y gwaith
- llunio cynlluniau cynhwysfawr gan gynnwys gofynion adnodd, graddfeydd amser a cherrig milltir yn ôl y gofyn
- adrodd i’r bobl briodol am gwblhau cynlluniau ac unrhyw amrywiadau i gynlluniau gwreiddiol
- dosbarthu cynlluniau yn unol â pholisi a gweithdrefnau’r cyflogwr
- egluro cynlluniau a ddogfennwyd i’r holl bobl ofynnol
- sicrhau bod pob cofnod yn cael ei ddiweddaru yn unol â gweithdrefnau’r cyflogwr
- nodi ac ymateb i broblemau o fewn terfynau cyfrifoldeb eich swydd eich hun
- rhoi gwybod i’r bobl briodol am broblemau y tu hwnt i gyfrifoldeb eich swydd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. prif gyfrifoldebau’r cyflogwr a’r cyflogai o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a sut mae cydymffurfio â hwy, gan gynnwys pryd a sut mae cynnal asesiadau risg
2. prif gyfrifoldebau’r cyflogwr a’r cyflogai o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol
3. llwybrau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefelau awdurdod y cwmni
4. adnabod a chymhwyso gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus a deunyddiau nad ydynt yn beryglus
5. yr amrywiaeth a’r defnydd o gyfarpar diogelu personol ar gyfer y gwaith a gweithdrefnau i sicrhau ei fod yn addas at ddiben
6. gweithdrefnau adrodd statudol, sefydliadol ac argyfwng
7. gweithdrefnau a phrosesau’r cwmni ar gyfer adrodd am broblemau
8. sut mae darllen a dehongli polisïau, gweithdrefnau a ffynonellau gwybodaeth
9. y prosesau a’r gweithdrefnau y mae angen eu dilyn a chydymffurfio â hwy wrth gyflawni gweithrediadau cynllunio
10. effaith bosibl cynllunio gweithrediadau safle niferus
11. sut mae cynnal arferion gwaith ac amgylcheddol diogel drwy gydol y gwaith
12. sut mae lleihau risgiau ichi’ch hunain ac eraill wrth wneud gweithgareddau gwaith
13. systemau a dogfennaeth cyfarwyddiadau gwaith, gwybodaeth ac adrodd y cwmni
14. gweithdrefnau Rheoli Gweithrediadau diogel (Systemau Gwaith Diogel)
15. sut mae ymateb i’r gwahanol fathau a chategorïau o sefyllfaoedd argyfwng a allai godi
16. gofynion a gweithdrefnau ar gyfer gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben yn ddiogel
17. y dilyniant o brosesau a thechnegau y mae angen eu dilyn a’u cymhwyso wrth waredu deunyddiau ac adnoddau o safle