Uniadu deunyddiau drwy brosesau bôn-ymasiad
URN: EUSMUNC17
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydweithiau Dŵr,Gweithrediadau Adeiladu Rhwydwaith Aml-Gyfleustod
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2023
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag uniadu deunyddiau drwy brosesau bôn-ymasiad. Gellir cynnal prosesau bôn=ymasiad gan ddefnyddio peiriannau awtomatig a heb fod yn awtomatig ac ar ddeunyddiau rhiant sydd â’r un sgôr SDR, a math o bolymer.
Mae uniadu deunyddiau drwy fôn-ymasiad yn cynnwys amddiffyn rhag y tywydd, gwirio gwaith paratoi uniadau, offer a deunyddiau traul, monitro’r broses uniadu, gwneud uniadau bôn yn unol â’r fanyleb, dad-dagio, diffodd offer a delio â gwastraff.
Mae’r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy’n uniadu bôn-ymasiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio yn unol â rheoliadau, canllawiau a gweithdrefnau iechyd, diogelwch a'r amgylchedd bob amser
- cynnal ac adolygu asesiadau risg safle-benodol yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
- dewis a gwisgo’r cyfarpar diogelu personol sydd ei angen
- paratoi a gwneud uniadau yn unol â chyfarwyddiadau’r dasg a gweithdrefnau’r sefydliad
- gwirio unrhyw amgylchiadau lle mae cyfarwyddiadau swydd neu weithdrefnau sefydliadol yn ymddangos yn anghywir gyda'r bobl briodol
- gwirio a chadarnhau bod paratoadau uniadau yn cydymffurfio â manylebau a gofynion ansawdd sefydliadol
- gwneud yn siŵr bod yr uniadu a’r cyfarpar a’r deunyddiau traul cysylltiedig yn unol â’r fanyleb ac yn addas i’r diben, gan gynnwys graddnodi dyddiad lle bo angen
- darparu amddiffyniad digonol rhag y tywydd yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad drwy gydol y gwaith uniadu
- cynnal a monitro gweithrediadau uniadu yn unol â manylebau a chyfarwyddiadau’r swydd a gweithdrefnau’r sefydliad
- rhoi gwybod i'r bobl briodol yn ddi-oed am unrhyw ddifrod neu ddiffygion i offer, cyfarpar neu ddeunyddiau
- gwneud uniadau bôn o'r safonau gofynnol a chywirdeb dimensiynol penodedig
- dad-leinio a chynnal profion sicrhau ansawdd cymeradwy ar y glain
- marcio uniadau a glain fel bod modd eu hadnabod yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- diffodd yr offer fel ei fod mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau gweithgareddau uniadu
- delio â deunyddiau dros ben a gwastraff ac atodiadau dros dro yn ddi-oed yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- uniadu deunyddiau drwy brosesau bôn-ymasiad yn unol â gweithdrefnau ac arferion a gofynion statudol a rheoleiddiol cymeradwy’r sefydliad
- cofnodi a storio data a gwybodaeth uniadu yn systemau gwybodaeth y sefydliad
- datrys problemau sydd o fewn eich maes cyfrifoldeb yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cyfeirio problemau na allwch eu datrys at bobl briodol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth, gweithdrefnau sefydliadol a chodau ymarfer sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch a'r amgylchedd gan gynnwys codi a chario, defnyddio cyfarpar, deunyddiau peryglus, gweithio mewn cloddiadau, asesiadau risg, damweiniau a chyfarpar diogelu personol
- y cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd ei angen ar gyfer yr amgylchedd gwaith
- safonau'r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud ag uniadu bôn-ymasiad
- pam mai dim ond pibelli gyda manylebau tebyg all gael eu huniadu
- sut i ddehongli manylebau peirianyddol sy'n berthnasol i brosesau ymasiad bôn
- sut i ddefnyddio offer uniadu yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- y gwahanol gyfnodau sy'n bodoli yn ystod y broses uniadu a phwysigrwydd aros i bob cyfnod ddod i ben
- bod angen cynnal ac alinio pibelli a chanlyniadau camosod a chynhaliaeth wael
- achos ac effaith diffygion hollt camosod
- problemau sy'n cael eu hachosi gan lain annigonol, manylebau pibell glain gormodol a sut i'w hosgoi
- pa mor gydnaws yw deunyddiau gwahanol mewn perthynas â gradd cymhareb dimensiwn safonol (SDR) a math o bolymer
- sut mae diffygion mewn deunyddiau a deunyddiau traul yn gallu effeithio ar brosesau uniadu bôn
- pwysigrwydd graddnodi offer uniadu a chanlyniadau gwaith cynnal a chadw gwael
- gweithdrefnau sicrhau ansawdd y diwydiant y gellir eu defnyddio i adnabod diffygion gan gynnwys profion anninistriol a dinistriol
- gweithdrefnau adrodd y sefydliad gan gynnwys i bwy y dylid rhoi gwybod am ddifrod a phroblemau
- systemau storio data a gwybodaeth sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
2
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSMUNC17
Galwedigaethau Perthnasol
Adeiladu Rhwydwaith Dŵr, Adeiladu Rhwydwaith Aml-Gyfleustodau, Adeiladu Rhwydwaith Nwy
Cod SOC
Geiriau Allweddol
rhwydwaith, adeiladu, gweithrediadau, cyfleustod, cyfleustodau, nwy, LPG, hydrogen, dŵr, rhwydwaith, ymasiad, uno, uniadu, amlddefnydd