Uniadu deunyddiau drwy brosesau electro-ymasiad
URN: EUSMUNC16
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydweithiau Dŵr,Gweithrediadau Adeiladu Rhwydwaith Aml-Gyfleustod
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2023
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag uniadu deunyddiau drwy brosesau electro-ymasiad. Gellir cynnal prosesau electro-ymasiad ar ddeunyddiau rhiant sydd â'r un graddfeydd SDR neu wahanol a mathau o bolymerau.
Mae uniadu deunyddiau drwy electro-ymasiad yn cynnwys amddiffyniad rhag y tywydd, gwirio gwaith paratoi uniadau, offer a deunyddiau traul, monitro’r broses uniadu, gwneud uniadau electro-ymasiad yn unol â’r fanyleb, diffodd cyfarpar a delio â gwastraff.
Mae’r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy’n uniadu electro-ymasiad ar rwydweithiau cyfleustodau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio yn unol â rheoliadau, canllawiau a gweithdrefnau iechyd, diogelwch a'r amgylchedd bob amser
- cynnal ac adolygu asesiadau risg safle-benodol yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
- dewis a gwisgo'r cyfarpar diogelu personol gofynnol yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- gwirio unrhyw amgylchiadau lle mae cyfarwyddiadau swydd neu weithdrefnau sefydliadol yn ymddangos yn anghywir gyda'r bobl briodol
- cadarnhau bod offer uniadu ac offer a deunyddiau traul cysylltiedig fel y nodwyd ac yn addas i’r pwrpas
- darparu amddiffyniad digonol rhag y tywydd yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad drwy gydol y gwaith uniadu
- defnyddio offer codi pan fo angen yn unol â'r rheoliadau cyfredol
- rhoi gwybod i'r bobl briodol am unrhyw ddifrod neu ddiffygion o ran offer neu ddeunyddiau yn ddi-oed
- defnyddio'r technegau uniadu electro-ymasiad priodol er mwyn cynhyrchu uniadau o'r safon sydd ei angen
- uniadu deunyddiau drwy brosesau electro-ymasiad yn unol â gweithdrefnau, arferion a gofynion statudol a rheoleiddiol cymeradwy’r sefydliad
- cadarnhau bod uniadau sydd wedi'u cwblhau yn cydymffurfio â'r safonau penodedig a'r cywirdeb dimensiynau penodedig
- diffodd yr offer fel ei fod mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau gweithgareddau uniadu
- delio â deunyddiau dros ben a gwastraff ac atodiadau dros dro yn ddi-oed yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cofnodi a storio data a gwybodaeth uniadu yn systemau gwybodaeth y sefydliad
- datrys problemau sydd o fewn eich maes cyfrifoldeb yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cyfeirio problemau na allwch eu datrys at bobl briodol gan ddefnyddio gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth, gweithdrefnau sefydliadol a chodau ymarfer sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch a'r amgylchedd gan gynnwys codi a chario, defnyddio cyfarpar, deunyddiau peryglus, cyfarpar codi, gweithio mewn cloddiadau, asesiadau risg, damweiniau a chyfarpar diogelu personol
- y cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd ei angen ar gyfer yr amgylchedd gwaith
- safonau'r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud ag uniadu electro-ymasiad
- y gwahanol fathau o ddeunyddiau pibellau y gellir eu huniadu gan ddefnyddio electro-ymasiad
- sut i ddehongli manylebau peirianyddol sy'n berthnasol i brosesau electro-ymasiad
- y gwahanol gamau sy'n digwydd yn ystod y broses uniadu a phwysigrwydd caniatáu i bob cam gael ei gwblhau
- cydnawsedd rhwng gwahanol ddeunyddiau yng nghyswllt cyfradd dogn dimensiwn safonol (SDR) a math o bolymer
- bod angen cynnal, alinio a chadw pibelli yn eu lle a chanlyniadau camosod a chynhaliaeth wael
- gweithdrefnau sicrhau ansawdd y sefydliad y gellir eu defnyddio i adnabod diffygion
- achos ac effaith diffygion a halogiad ar bibellau a ffitiadau a sut i’w hosgoi
- sut i ddefnyddio offer uniadu yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- pwysigrwydd graddnodi offer uniadu a chanlyniadau gwaith cynnal a chadw gwael
- gweithdrefnau adrodd y sefydliad gan gynnwys i bwy y dylid rhoi gwybod am ddifrod a phroblemau
- systemau storio data a gwybodaeth sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
2
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSMUNC16
Galwedigaethau Perthnasol
Adeiladu Rhwydwaith Dŵr, Adeiladu Rhwydwaith Aml-Gyfleustodau, Adeiladu Rhwydwaith Nwy
Cod SOC
Geiriau Allweddol
rhwydwaith, adeiladu, gweithrediadau, cyfleustod, cyfleustodau, nwy, LPG, hydrogen, dŵr, nwy, dŵr, rhwydwaith, rhwydwaith dŵr, rhwydwaith nwy, electroymasiad, uniad, uniad, aml-ddefnydd