Monitro diogelwch ar gyfer staff y safle, y cyhoedd, peiriannau acherbydau

URN: EUSMUNC14
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydwaith Aml-Gyfleustodau
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â monitro diogelwch y safle i staff y safle, peiriannau, cerbydau'r safle ac aelodau'r cyhoedd – boed nhw'n cerdded neu mewn cerbyd. Gallai safleoedd fod ar briffyrdd/ffyrdd neu ar safleoedd datblygu ar eiddo preifat. Mae gweithgarwch rhwydwaith yn cwmpasu’r holl weithgareddau cysylltiedig a gallai gynnwys gwaith symudol.

Mae hyn yn cynnwys cadarnhau'r ddarpariaeth o arwyddion, goleuadau a gwarchodaeth a ddatblygwyd yn sgil arolygon safle, monitro amodau'r safle, monitro'r lleoliad, gosodiad a datgymalu arwyddion, goleuadau ac offer gwarchodaeth, sicrhau bod offer yn gweithio a bod ei leoliad yn cydymffurfio â'r gofynion ynghyd â symud offer er mwyn delio â'r amodau traffig cyfredol.

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n monitro diogelwch staff safle, y cyhoedd, peiriannau a cherbydau ar gyfer gweithgareddau rhwydwaith cyfleustodau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau bod arolygon safle yn cynllunio darpariaeth ar gyfer llwybrau troed, lonydd traffig a pharthau diogelwch yn unol â gofynion lleoliad safle a systemau gwaith diogel sefydliadol
  2. cadarnhau na fydd y ddarpariaeth a gynlluniwyd na'r gwir ddarpariaeth o ran llwybrau troed, lonydd traffig a phyrth diogelwch yn achosi aflonyddwch, oedi ac anhwylustod gormodol i draffig a cherddwyr
  3. cadarnhau y bydd y ddarpariaeth a gynlluniwyd a'r gwir ddarpariaeth o ran cerbydau a pheiriannau yn darparu sicrwydd a diogelwch i bobl a cherbydau yn unol â'r gofynion cyfreithiol
  4. gwneud yn siŵr bod pob gweithiwr yn bodloni gofynion diogelwch a chymhwysedd technegol y diwydiant ac yn dilyn arferion gweithio diogel yn unol â gweithdrefnau ac arferion sefydliadol cyfredol
  5. cynnal asesiadau risg ar y safle er mwyn sicrhau bod systemau gweithio diogel ar waith o ran arwyddion, goleuadau a gwarchodaeth a bod darpariaeth yn cael ei gwneud i reoli unrhyw beryglon sy'n dod i'r fei
  6. cadarnhau bod amodau ar y safle yn cael eu monitro, yn unol â gweithdrefnau ac arferion sefydliadol
  7. sicrhau bod archwiliadau wedi'u cynnal i sicrhau bod offer, deunyddiau a chynhyrchion priodol ar gael i fodloni gofynion yr holl ddefnyddwyr a'r lleoliad
  8. monitro'r gwaith o arolygu offer, deunyddiau a chynnyrch cyn eu defnyddio yn unol â gweithdrefnau ac arferion sefydliadol
  9. sicrhau bod y cyfarpar diogelu personol priodol yn cael ei ddewis, bod ei addasrwydd yn cael ei gadarnhau a'i fod yn cael ei ddefnyddio gan staff y safle yn unol â'r gofynion cyfreithiol a sefydliadol
  10. sicrhau bod offer, deunyddiau a chynnyrch yn cael eu lleoli a'u tynnu yn y drefn a nodir yn unol â gofynion lleoliad y safle
  11. sicrhau bod gweithdrefnau a gweithrediad signalau’n cael eu harchwilio a’u profi ar adegau priodol
  12. gwneud yn siŵr bod mesurau rheoli signalau’n cael eu haddasu i gefnogi’r amodau traffig presennol
  13. adnabod problemau gyda'r ddarpariaeth a gynlluniwyd a'r gwir ddarpariaeth a chymryd camau priodol i gywiro'r sefyllfa yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. systemau gweithio diogel ar gyfer arolygu safleoedd gwaith
  2. rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol, safonau'r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol, arferion a gofynion ar gyfer arolygon safle gwaith a gwahanol amodau'r safle, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud ag asesu risg
  3. y mathau o beryglon a risgiau y gellid dod ar eu traws a sut i ddelio â nhw
  4. sut mae gwneud yn siŵr bod arferion gweithio diogel ar waith, gan gynnwys cynefino â’r sefydliad neu’r safle ar gyfer gweithwyr ac ymwelwyr â’r safle
  5. offer diogelu'r amgylchedd, iechyd a diogelwch
  6. ffyrdd diogel o ddefnyddio'r deunyddiau peryglus a'r deunyddiau nad ydynt yn beryglus sy'n gysylltiedig
  7. polisïau'r sefydliad a pholisïau cleientiaid mewn perthynas ag offer, deunyddiau a gweithdrefnau cymeradwy
  8. cynnwys cynlluniau wrth gefn, gweithredol ac argyfwng
  9. materion i’w hystyried wrth leoli llwybrau troed, lonydd traffig a phyrth diogelwch gan gynnwys:
    ·        pa mor agos ydyn nhw at ysgolion ac ysbytai
    ·        defnyddwyr y llwybr
    ·        amodau tywydd
    ·        lefel a chyflymder traffig a thystiolaeth o dagfeydd
    ·        goleuadau ar briffyrdd/ffyrdd
    ·        sefyllfa'r briffordd/ffordd (gan gynnwys lled lonydd, mynediad preifat aros fannau bysiau, lleoedd parcio, cylchfannau, cyffyrdd, croesfannau rheilffyrdd, tramffyrdd, lonydd beic)
    ·        mynediad i'r gwasanaethau brys
    ·        risgiau ar y safle
    ·        contractwyr a gweithwyr eraill a allai fod â gweithrediadau sy’n gwrthdaro
  10. gofynion gwahanol o ran gweithio yn ystod y dydd ac yn ystod y nos
  11. y gofynion a'r elfennau cyfansoddol o ran pyrth diogelwch
  12. y ffactorau sy'n rheoli'r ddarpariaeth o lwybrau troed, lonydd traffig a pharthau diogelwch a'r amgylchiadau ble mae angen cysylltu â'r awdurdodau a sut i wneud hynny
  13. sut i sicrhau nad oes gormod o darfu ar draffig a cherddwyr
  14. dulliau o sicrhau darpariaeth ddiogelwch ddigonol ar gyfer cerddwyr, cerbydau a pheiriannau o fewn ffiniau'r ardal waith gan gynnwys mesurau rheoli traffig
  15. gofynion y rhai hynny sydd ag anghenion arbennig a sut i ddarparu ar eu cyfer
  16. arferion gweithio diogel ar gyfer arwyddion, goleuadau a gweithgareddau gwarchodaeth
  17. diben asesiad risg ar y safle
  18. y cyfarpar diogelu personol a'r offer diogelwch priodol i'w defnyddio yn ystod gweithrediadau ar safleoedd, a sut i sicrhau ei fod yn addas i'r diben
  19. yr offer diogelwch i'w ddefnyddio er mwyn bodloni gofynion yr holl ddefnyddwyr, a sut i sicrhau ei fod yn addas i'r diben
  20. y drefn benodedig ar gyfer lleoli, datgymalu a thynnu offer
  21. sut i addasu rheolyddion signalau
  22. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer arolygu a phrofi signalau er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio'n iawn
  23. problemau sy'n codi wrth amddiffyn pobl a cherbydau, a'r camau adfer priodol i'w cymryd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSWNC4

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu Rhwydwaith Dŵr, Adeiladu Rhwydwaith Aml-Gyfleustodau, Adeiladu Rhwydwaith Nwy

Cod SOC


Geiriau Allweddol

rhwydwaith, adeiladu, gweithrediadau, cyfleustod, cyfleustodau, nwy, LPG, hydrogen, dŵr, amodau’r safle, risgiau, peryglon, risg asesu, traffig, safle, diogelwch, staff, peiriannau, cerbydau, cerddwyr, priffyrdd, ffyrdd, gwaith symudol, arwyddion, goleuadau, gwarchodaeth, aml-gyfleustod, monitro