Monitro’r gwaith o roi gweithgareddau ar waith ar gyfer gweithrediadau adeiladu rhwydweithiau
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â monitro’r broses o weithredu gweithgareddau gwaith ar gyfer gweithrediadau adeiladu rhwydwaith. Mae'r gweithgareddau yn gallu cynnwys, ymysg pethau eraill, cloddiadau, adeiladu, gosod, uniadu, gwneud cysylltiadau, trwsio a chynnal a chadw. Gallai hyn fod ar gyfer gwaith sy'n cael ei wneud gennych chi neu gan bobl eraill.
Mae hyn yn golygu sicrhau bod yr amodau'n addas, bod dulliau a gweithdrefnau priodol yn cael eu rhoi ar waith a bod yr allbynnau'n ateb y gofynion. Mae'n cynnwys rheoli adnoddau, rhoi cyfarwyddiadau, monitro cynnydd, canfod amrywiadau neu broblemau a'u datrys o fewn terfynau eich awdurdod.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr sy'n monitro’r broses o weithredu gweithgareddau gwaith ar gyfer gweithrediadau adeiladu rhwydwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud yn siŵr bod yr amodau’n addas ar gyfer y gweithgareddau sydd i’w gwneud
- darparu gwybodaeth glir a chywir ynglŷn â dulliau, prosesau a gweithdrefnau i bob unigolyn a sefydliad perthnasol yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
- cadarnhau bod yr offer, deunyddiau a chynnyrch sydd ar gael yn cydymffurfio â gweithdrefnau ac arferion y sefydliad
- dilyn systemau gweithio diogel a chyfarwyddiadau gwaith bob amser
- sicrhau bod deunyddiau, offer, gwaith ar y gweill a rhwydweithiau cyfleustodau eraill yn cael eu diogelu rhag difrod amgylcheddol a halogiad yn unol â manylebau technegol
- cadarnhau bod arferion gweithio diogel yn cael eu dilyn yn unol â gweithdrefnau ac arferion y sefydliad
- sicrhau bod gwaith sydd wedi'i gwblhau yn cydymffurfio â'r gweithdrefnau sefydliadol a gofynion rheoliadol
- monitro cynnydd gweithgareddau mewn perthynas â chynlluniau ac amserlenni a hynny'n barhaus
- nodi a datrys problemau yn eich maes cyfrifoldeb yn ddi-oed
- nodi cyfleoedd i newid systemau gwaith diogel a fydd yn gwella canlyniadau
- argymell gwelliannau o ran datganiadau dull a gweithdrefnau gwaith i'r bobl briodol ar amser priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth, gweithdrefnau sefydliadol a chodau ymarfer ar eich cyfer chi a phobl eraill yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a'r amgylchedd gan gynnwys codi a chario, defnyddio offer, deunyddiau peryglus, gweithion mewn cloddiadau, mannau cyfyng, asesiadau risg, damweiniau, argyfyngau a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- gofynion rheoliadol y diwydiant yng nghyswllt gweithgareddau gwaith gan gynnwys parhad y cyflenwad
- deddfwriaeth, gweithdrefnau sefydliadol, canllawiau, dulliau a phrosesau yn ymwneud â'r gweithgareddau gwaith rydych chi'n eu monitro
- gofynion sefydliadol ar gyfer y gweithgareddau gwaith rydych chi'n eu monitro
- systemau gwaith diogel ar gyfer gweithgareddau safle a gwaith sy'n gysylltiedig
- lleoliadau a marcio'r gwahanol fathau o gyfarpar cyfleustodau rydych yn debygol o ddod ar eu traws a sut i’w diogelu
- amodau addas ac anaddas ar gyfer y dulliau a'r gweithdrefnau gweithgareddau gwaith sydd i'w cynnal
- goblygiadau a chyfyngiadau gan gynnwys ystyriaethau cwsmeriaid, dylunio, maint gweithrediadau adeiladu, lleoliad, amser, hyd y gwaith, amser cwblhau disgwyliedig, argaeledd adnoddau, effaith tywydd neu amodau tymhorol
- deunyddiau, offer a chynnyrch cymeradwy gan gynnwys cerbydau, offer, offer a pheiriannau ategol, falfiau, ffitiadau, pibelli a deunyddiau traul, offer iechyd, diogelwch a diogelu’r amgylchedd
- prosesau i ddiogelu pobl rhag gweithgareddau a deunyddiau peryglus
- gofynion o ran adnoddau gan gynnwys peiriannau, offer, llafur
- argaeledd ac addasrwydd adnoddau
- sut i fonitro gweithgareddau ac allbynnau gwaith
- newidiadau posib i'r cynllun a'r amserlen a sut i'w datrys
- y mathau o broblemau a allai godi a pham ei bod yn bwysig eu datrys yn gyflym
- strwythurau a gweithdrefnau adrodd sefydliadol ar gyfer cyfathrebu â goruchwylwyr, contractwyr, gweithredwyr rhwydwaith, cydweithwyr, cyrff statudol
- gofynion storio a gwaredu o ran offer a deunyddiau cysylltiedig