Monitro’r gwaith o weithredu gweithgareddau gwaith ar gyfer gweithrediadau adeiladu rhwydwaith
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â monitro gweithrediad gweithgareddau gwaith ar gyfer gweithrediadau adeiladu rhwydweithiau. Gallai’r gweithgareddau gynnwys cloddio, adeiladu, gosod, uniadu, gwneud cysylltiadau, atgyweirio a chynnal a chadw, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny. Gallai hyn fod ar gyfer gwaith sy'n cael ei wneud gennych chi neu gan bobl eraill.
Mae hyn yn golygu sicrhau bod yr amodau'n addas, bod dulliau a gweithdrefnau priodol yn cael eu rhoi ar waith a bod yr allbynnau'n ateb y gofynion. Mae'n cynnwys rheoli adnoddau, rhoi cyfarwyddiadau, monitro cynnydd, canfod amrywiadau neu broblemau a'u datrys o fewn terfynau eich awdurdod.
Bydd y Safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr sy’n monitro’r gwaith o roi gweithgareddau gwaith ar waith ar gyfer gweithrediadau adeiladu rhwydweithiau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud yn siŵr bod yr amodau’n addas ar gyfer y gweithgareddau sydd i’w gwneud
- rhoi gwybodaeth glir a chywir am ddulliau, prosesau a gweithdrefnau i'r holl bobl a sefydliadau perthnasol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau bod yr offer, y deunyddiau a'r cynhyrchion sydd ar gael yn cydymffurfio â gweithdrefnau ac arferion y sefydliad
- dilyn systemau gweithio diogel a chyfarwyddiadau gwaith bob amser
- sicrhau bod deunyddiau, offer, gwaith ar y gweill a rhwydweithiau cyfleustodau eraill yn cael eu diogelu rhag difrod amgylcheddol a halogiad yn unol â manylebau technegol
- gwneud yn siŵr bod arferion gweithio diogel yn cael eu dilyn yn unol ag arferion a gweithdrefnau'r sefydliad
- gwneud yn siŵr bod y gwaith a gwblhawyd yn cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad a gofynion rheoliadol
- monitro cynnydd gweithgareddau mewn perthynas â chynlluniau ac amserlenni a hynny'n barhaus
- nodi a datrys problemau yn eich maes cyfrifoldeb yn ddi-oed
- nodi cyfleoedd i newid systemau gwaith diogel a fydd yn gwella canlyniadau
- argymell gwelliannau i ddatganiadau dull a gweithdrefnau gwaith i bobl briodol ar adegau priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth, gweithdrefnau sefydliadol a chodau ymarfer ar gyfer eich hun ac eraill sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch a'r amgylchedd gan gynnwys codi a chario, defnyddio cyfarpar, deunyddiau peryglus, gweithio mewn cloddiadau, mannau cyfyng, asesiadau risg, damweiniau, argyfyngau a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- gofynion rheoleiddiol y diwydiant sy'n ymwneud â gweithgareddau gwaith gan gynnwys parhad y cyflenwad
- deddfwriaeth, gweithdrefnau sefydliadol, canllawiau, dulliau a phrosesau sy'n ymwneud â'r gweithgareddau gwaith rydych chi'n eu monitro
- gofynion sefydliadol ar gyfer y gweithgareddau gwaith rydych chi'n eu monitro
- systemau gwaith diogel ar gyfer y safle a’r gweithgareddau gwaith dan sylw
- lleoliadau a marciau ar gyfer gwahanol fathau o offer cyfleustodau rydych chi’n debygol o ddod ar eu traws a sut i'w diogelu
- amodau addas ac anaddas ar gyfer y dulliau a'r gweithdrefnau gweithgareddau gwaith sydd i'w cynnal
- goblygiadau a chyfyngiadau gan gynnwys ystyriaethau cwsmeriaid, dyluniad, hyd a lled y gweithrediadau adeiladu, lleoliad, amser, hyd y gwaith, yr amser cwblhau disgwyliedig, argaeledd adnoddau, effaith y tywydd neu amodau tymhorol
- deunyddiau, offer a chynnyrch cymeradwy gan gynnwys cerbydau, offer, offer a pheiriannau ategol, falfiau, ffitiadau, pibelli a deunyddiau traul, offer iechyd, diogelwch a diogelu’r amgylchedd
- prosesau i ddiogelu pobl rhag gweithgareddau a deunyddiau peryglus
- gofynion o ran adnoddau gan gynnwys peiriannau, offer, llafur
- argaeledd ac addasrwydd adnoddau
- sut i fonitro gweithgareddau ac allbynnau gwaith
- newidiadau posib i'r cynllun a'r amserlen a sut i'w datrys
- y mathau o broblemau a allai godi a pham ei bod yn bwysig eu datrys yn gyflym
- strwythurau a gweithdrefnau adrodd sefydliadol ar gyfer cyfathrebu â goruchwylwyr, contractwyr, gweithredwyr rhwydwaith, cydweithwyr, cyrff statudol
- gofynion storio a gwaredu o ran offer a deunyddiau cysylltiedig