Goruchwylio gweithrediadau adeiladu rhwydweithiau cyfleustodau ar draws mwy nag un safle

URN: EUSMUNC12
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydwaith Aml-Gyfleustodau
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â goruchwylio gweithrediadau adeiladu rhwydwaith cyfleustodau ar draws mwy nag un safle. Gallai fod yn berthnasol i weithrediadau adeiladu rhwydwaith ar gyfer un cyfleustod neu mewn amgylchedd sydd â mwy nag un cyfleustod.
Mae'n golygu cydlynu gweithgareddau a'r defnydd o adnoddau ar draws safleoedd, gwirio'r gwaith yn erbyn manylebau technegol, cynlluniau ac amserlenni, cyfathrebu gyda chleientiaid, gwneud newidiadau i ddulliau ac amserlenni gwaith, sicrhau nad yw'r gwaith yn difrodi'r amgylchedd yn ormodol a bod safleoedd gwaith yn cael eu hadfer i'w manylebau a’u cyflwr blaenorol.
Mae'r Safon hon ar gyfer goruchwylwyr adeiladu rhwydwaith sy'n gweithio ar draws mwy nag un safle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau bod y safonau a'r manylebau dan sylw ar gyfer gweithgareddau gwaith yn cyrraedd gofynion y sefydliad
  2. sicrhau bod yr offer a'r deunyddiau sydd eu hangen i gwblhau'r gweithgareddau gwaith yn cyrraedd y manylebau technegol ar gyfer y pwrpas a'r swyddogaeth dan sylw
  3. monitro'r cyflenwad a'r defnydd o offer, deunyddiau a phobl ar draws safleoedd fel eu bod ar gael pan mae eu hangen yn yr amserlenni gwaith
  4. monitro gweithgareddau ar draws gwahanol safleoedd i wneud yn siŵr eu bod yn symud ymlaen yn unol â'r amserlen ar adegau addas
  5. sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud a'i gwblhau yn unol â gofynion rheoliadol a chodau ymarfer iechyd a diogelwch a'r diwydiant
  6. cadarnhau bod y gwaith a gwblhawyd yn bodloni’r manylebau technegol
  7. defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i ganfod unrhyw wahaniaethau rhwng y gwaith ar wahanol safleoedd a'r cynlluniau a'r amserlenni y cytunwyd arnynt
  8. casglu gwybodaeth gan bobl briodol am gyfleoedd i wella canlyniadau drwy addasu dulliau a gweithdrefnau gweithio
  9. ysgogi newidiadau i ddulliau, gweithdrefnau ac amserlenni gwaith sydd wedi cael eu hawdurdodi gan y bobl briodol
  10. sicrhau bod gwaith ar safleoedd yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n cyfyngu ar ddifrod i’r amgylchedd yn unol â gofynion amgylcheddol
  11. sicrhau bod safleoedd gwaith yn cael eu hadfer yn unol â’u manylebau ac i'w cyflwr blaenorol ar ôl i'r gwaith ddod i ben yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  12. datrys problemau ynghylch diffygion, cydymffurfio â deddfwriaeth, amrywiadau i amserlenni a chyflenwi offer, deunyddiau a phobl o fewn terfynau eich cyfrifoldeb
  13. cyfeirio problemau nad oes modd i chi eu datrys at y bobl briodol
  14. cadw cofnodion a dogfennau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y rheoliadau iechyd a diogelwch yn y gwaith perthnasol
  2. y rheoliadau amgylcheddol perthnasol
  3. safonau perthnasol y sector a’r diwydiant a chodau ymarfer deddfwriaethol a rheoleiddiol a gydnabyddir yn genedlaethol
  4. systemau a gweithdrefnau cyfathrebu, dogfennu ac adrodd sefydliadol
  5. polisïau, gweithdrefnau a phrosesau gweithredol perthnasol y sefydliad
  6. y cylch gwaith cyflawn o’r dechrau i’r diwedd
  7. ffynonellau gwybodaeth am y gweithgareddau gwaith sy'n cael eu gwneud
  8. yr effaith bosibl y gall gwaith ei chael ar y rhwydwaith cymunedol ehangach a’r gweithgareddau gwaith hynny sydd y tu allan i ffiniau amserlenni gwaith penodedig
  9. y berthynas rhwng y gwaith ar y gwahanol safleoedd rydych chi’n gyfrifol amdanynt
  10. manteision ac anfanteision cydlynu adnoddau cyffredin ar draws nifer o safleoedd
  11. technegau rheoli adnoddau
  12. technegau cynllunio wrth gefn
  13. sut i adnabod ac ymateb i'r risgiau posib i iechyd a diogelwch allai ddigwydd yn yr amgylchedd gwaith
  14. sut y gall newidiadau mewn arferion gwaith leihau risgiau i iechyd a diogelwch o’ch safbwynt chi eich hun ac eraill
  15. pryd y gallai fod yn briodol cychwyn gwaith sydd y tu allan i fanylebau technegol penodol neu arferion gwaith cydnabyddedig
  16. at ba amodau y mae angen dychwelyd safleoedd gwaith
  17. llinellau adrodd a phryd i adrodd i bobl eraill a cheisio caniatâd ganddynt
  18. gweithdrefnau ar gyfer cyfathrebu gyda goruchwylwyr, cwsmeriaid, cleientiaid, contractwyr, gweithwyr rhwydwaith, cydweithwyr, cyrff statudol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSWNC2

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu Rhwydwaith Dŵr, Adeiladu Rhwydwaith Aml-Gyfleustodau, Adeiladu Rhwydwaith Nwy

Cod SOC


Geiriau Allweddol

rhwydwaith, adeiladu, gweithrediadau, cyfleustod, cyfleustodau, nwy, LPG, hydrogen, dŵr, safle, nifer, adnoddau, technegol manylebau, dulliau gweithio, amserlen, adfer, bodoli’n barod cyflwr, aml-gyfleustod, monitro