Goruchwylio gweithrediadau adeiladu rhwydweithiau cyfleustodau
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â goruchwylio gweithrediadau adeiladu rhwydweithiau cyfleustodau ar draws nifer o safleoedd. Gallai fod yn berthnasol i weithrediadau adeiladu rhwydwaith ar gyfer un cyfleustod neu mewn amgylchedd sydd â mwy nag un cyfleustod.
Mae’n cynnwys cydlynu gweithgarwch a defnyddio adnoddau ar draws safleoedd, gwirio gwaith yn erbyn manylebau, cynlluniau ac amserlenni technegol, cyfathrebu â chleientiaid, gwneud newidiadau i ddulliau ac amserlenni gwaith, gwneud yn siŵr bod gwaith yn cyfyngu ar niwed i’r amgylchedd a bod safleoedd gwaith yn cael eu hadfer yn unol â’r fanyleb a’r cyflwr sydd eisoes yn bodoli.
Mae'r Safon hon ar gyfer goruchwylwyr adeiladu rhwydwaith sy'n gweithio ar draws mwy nag un safle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod y safonau a'r manylebau a ddewiswyd ar gyfer gweithgareddau gwaith yn bodloni gofynion sefydliadol
- sicrhau bod yr offer a'r deunyddiau sydd eu hangen i gwblhau'r gweithgareddau gwaith yn cyrraedd y manylebau technegol ar gyfer y pwrpas a'r swyddogaeth dan sylw
- monitro'r cyflenwad a'r defnydd o offer, deunyddiau a phobl ar draws safleoedd fel eu bod ar gael pan mae eu hangen yn yr amserlenni gwaith
- monitro gweithgareddau ar draws gwahanol safleoedd i wneud yn siŵr eu bod yn symud ymlaen yn unol â'r amserlen ar gyfer cyfleoedd addas
- sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud a'i gwblhau yn unol â gofynion a chodau ymarfer iechyd a diogelwch a rheoliadol y diwydiant
- cadarnhau bod y gweithgareddau gwaith a gwblhawyd yn bodloni manylebau technegol
- defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i ganfod unrhyw wahaniaethau rhwng y gwaith ar wahanol safleoedd a'r cynlluniau a'r amserlenni y cytunwyd arnynt
- casglu gwybodaeth gan bobl briodol am gyfleoedd i wella canlyniadau drwy addasu dulliau a gweithdrefnau gweithio
- ysgogi newidiadau i ddulliau, gweithdrefnau ac amserlenni gwaith sydd wedi cael eu hawdurdodi gan y bobl briodol
- sicrhau bod gwaith ar safleoedd yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n cyfyngu ar ddifrod i’r amgylchedd yn unol â gofynion amgylcheddol
- sicrhau bod safleoedd gwaith yn cael eu hadfer yn ôl eu manyleb a’u cyflwr presennol ar ôl cwblhau’r gwaith yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
- datrys problemau ynghylch diffygion, cydymffurfio â deddfwriaeth, amrywiadau i amserlenni a chyflenwi offer, deunyddiau a phobl o fewn terfynau eich cyfrifoldeb
- cyfeirio problemau na allwch eu datrys at bobl briodol
- cadw cofnodion a dogfennau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- rheoliadau iechyd a diogelwch yn y gwaith perthnasol
- rheoliadau amgylcheddol perthnasol
- safonau perthnasol y sector a’r diwydiant a chodau ymarfer ddfwriaethol a rheoleiddiol a gydnabyddir yn genedlaethol
- systemau a gweithdrefnau cyfathrebu, dogfennu ac adrodd sefydliadol
- polisïau, gweithdrefnau a phrosesau gweithredol perthnasol y sefydliad
- cylch gwaith cyflawn o’r dechrau i’r diwedd
- ffynonellau gwybodaeth am y gweithgareddau gwaith sy'n cael eu gwneud
- yr effaith bosibl y gall gweithgareddau gwaith ei chael ar y rhwydwaith cymunedol ehangach a’r gweithgareddau gwaith hynny sydd y tu allan i ffiniau amserlenni gwaith penodedig
- y berthynas rhwng y gwaith ar y gwahanol safleoedd rydych chi’n gyfrifol amdanynt
- manteision ac anfanteision cydlynu adnoddau cyffredin ar draws nifer o safleoedd
- technegau rheoli adnoddau
- technegau cynllunio wrth gefn
- sut i adnabod ac ymateb i'r risgiau posib i iechyd a diogelwch allai ddigwydd yn yr amgylchedd gwaith
- sut y gall newidiadau mewn arferion gwaith leihau risgiau i iechyd a diogelwch i chi eich hun ac eraill
- pryd y gallai fod yn briodol cychwyn gweithgaredd gwaith sydd y tu allan i fanylebau technegol penodol neu arferion gwaith cydnabyddedig
- at ba amodau y mae angen dychwelyd safleoedd gwaith
- llinellau adrodd a phryd i adrodd i bobl eraill a cheisio caniatâd ganddynt
- gweithdrefnau ar gyfer cyfathrebu â goruchwylwyr, cwsmeriaid, cleientiaid, contractwyr, gweithredwyr rhwydwaith, cydweithwyr, cyrff statudol