Trefnu gweithgareddau gwaith ar rwydweithiau cyfleustodau

URN: EUSMUNC11
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydwaith Aml-Gyfleustodau
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â threfnu gweithgareddau gwaith ar gyfer gosod, atgyweirio neu gynnal a chadw rhwydweithiau cyfleustodau. Mae hyn ar gyfer gweithrediadau un safle a gallai fod ar gyfer unrhyw ddiamedr o bibellau.
Mae hyn yn golygu blaenoriaethu gweithgareddau gwaith, gofyn am help gan bobl eraill i ddatrys problemau, rhagweld ac addasu'r amserlen yn sgil newidiadau i'r cynllun, cofnodi newidiadau i gynlluniau a chyfathrebu gyda'r bobl berthnasol.
Mae'r Safon hon ar gyfer gweithwyr adeiladu rhwydweithiau sy'n trefnu gweithgareddau gwaith ar gyfer gosod, trwsio a chynnal a chadw rhwydweithiau cyfleustodau ond sy'n debygol o fod y rhai sydd â chyfrifoldebau arweinydd tîm.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael gwybodaeth gyfredol am gyfarwyddiadau, cynlluniau, amserlenni ac amcanion ar gyfer y gwaith o ffynonellau dibynadwy
  2. pennu dulliau a gweithgareddau gwaith sy'r briodol i'r sefydliad ac sy'n gwneud y defnydd gorau o adnoddau
  3. blaenoriaethu gweithgareddau gwaith er mwyn cyflawni amcanion yn unol â'r amserlenni
  4. cofnodi a chytuno ar swyddogaethau unigolion a chyfrifoldebau grwpiau yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  5. gofyn am gyngor gan bobl berthnasol i helpu i ddatrys unrhyw broblemau wrth drefnu gweithgareddau gwaith
  6. monitro gwaith yn erbyn cynlluniau yn barhaus, gan ddefnyddio gwybodaeth berthnasol i ragweld lle bydd angen newidiadau i gynlluniau
  7. diweddaru cynlluniau gwaith i gynnwys newidiadau wrth iddynt ddigwydd
  8. cytuno ar gynlluniau gwaith wedi'u diweddaru gyda phobl briodol a'u cofnodi yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  9. rhoi gwybod am y cynlluniau wedi newid i bawb sydd angen gwybod am y cynlluniau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. deddfwriaeth, codau ymarfer a gweithdrefnau sefydliadol o ran iechyd, diogelwch a'r amgylchedd sy'n berthnasol i weithgareddau gwaith gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â gwaith ffordd a stryd, sylweddau peryglus, rheoli a dylunio adeiladwaith, codi a defnyddio offer gwaith
  2. ble i gael cyfarwyddiadau, cynlluniau, amserlenni ac amcanion ar gyfer y gwaith, a sut i’w dehongli
  3. terfynau eich cyfrifoldeb a'ch cymhwysedd eich hun ac aelodau'r tîm
  4. dulliau a thechnegau cynllunio ar gyfer gosod, cynnal a chadw a thrwsio rhwydweithiau cyfleustodau
  5. yr effaith y gall amserlenni a dulliau gwaith ei chael ar gost ac effeithlonrwydd
  6. amserlenni nodweddiadol ar gyfer gweithgareddau gwaith a therfynau amser gwaith
  7. systemau a gweithdrefnau gwybodaeth y sefydliad i gofnodi newidiadau i gynlluniau
  8. pwy sydd angen i chi weithio gyda nhw yn fewnol a thu allan i'r sefydliad
  9. sut mae perthnasoedd gwaith effeithiol yn cyfrannu at drefn gweithgareddau gwaith
  10. dulliau cyfathrebu llafar, ysgrifenedig a gweledol
  11. gweithdrefnau a lefelau awdurdod ar gyfer cyfathrebu gyda phobl wahanol
  12. gofynion cyfrinachedd er gwybodaeth
  13. gweithdrefnau ac amseroedd adrodd gan gynnwys ffurflenni safonol sydd wedi cael eu cymeradwyo gan y diwydiant neu gan y sefydliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSWNC1

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu Rhwydwaith Dŵr, Adeiladu Rhwydwaith Aml-Gyfleustodau, Adeiladu Rhwydwaith Nwy

Cod SOC


Geiriau Allweddol

amserlen, rhwydwaith, adeiladu, gweithrediadau, cyfleustod, cyfleustodau, nwy, LPG, hydrogen, dŵr, gosod, atgyweirio, cynnal a chadw, gweithgareddau gwaith, aml-gyfleustod