Cynnal amgylchedd gwaith diogel wrth adeiladu rhwydwaith cyfleustodau LEGACY
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â sicrhau bod yr amgylchedd gwaith yn ddiogel i weithio ynddo. Gallai fod yn berthnasol i weithrediadau adeiladu rhwydwaith ar gyfer un cyfleustod neu mewn amgylchedd aml-gyfleustod.
Mae hyn yn cynnwys monitro diogelwch yn barhaus yn ystod gwaith rheolaidd a chymryd camau i ddiogelu unrhyw sefyllfaoedd, gweithgareddau, technegau, gweithdrefnau, defnydd o gyfarpar neu beiriannau neu leoliadau peryglus. Mae’n cynnwys adnabod peryglon neu arferion gwaith a’u cyfeirio at bobl ddynodedig, a bod yn effro i risg, amodau peryglus neu achosion o danseilio diogelwch a’r angen i wisgo dillad diogelwch, ac asesu’r agweddau hyn.
Mae’r Safon hon i unrhyw un sy’n ymwneud â chynnal amgylchedd gwaith diogel wrth adeiladu rhwydwaith cyfleustodau mewn amgylchedd un cyfleustod neu aml-gyfleustod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal asesiad risg sy’n benodol i safle i’ch ardal waith a’i adolygu yn unol â gweithdrefnau’r cwmni
2. cymhwyso mesurau rheoli a nodwyd yn yr asesiad risg penodol i safle
3. gweithio mewn modd diogel sy’n sicrhau nad ydych yn peryglu’ch hunain, eraill na’r amgylchedd
4. dewis, archwilio cyflwr, defnyddio a storio’r cyfarpar diogelu personol priodol ar gyfer y dasg
5. dilyn gweithdrefnau’r cwmni ar unwaith os bydd sefyllfa argyfwng yn codi
6. sicrhau bod peiriannau a chyfarpar yn addas i’r pwrpas
7. cydosod, paratoi a defnyddio peiriannau a chyfarpar mewn modd diogel
8. cynnal ffordd ddiogel o fynd i mewn at leoliadau gwaith ac allan ohonynt
9. sicrhau bod cyfarpar iechyd a diogelwch mewn cyflwr da ac yn addas i’r pwrpas
10. atal pobl anawdurdodedig rhag mynd i mewn i’r safle gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
11. cynnal diogelwch safle drwy fonitro parhaus
12. cymhwyso gweithdrefnau cymeradwy os bydd argyfwng
13. dilyn gweithdrefnau gweithredol a sefydliadol ar gyfer rhoi gwybodaeth i bobl eraill
14. cadw cofnodion yn unol â gofynion gweithredol a sefydliadol
15. holi pobl ddynodedig ynghylch unrhyw amgylchiadau lle mae gwybodaeth yn ymddangos yn anghywir
16. defnyddio systemau gwybodaeth sefydliadol i gofnodi a storio data a gwybodaeth
17. cyfnewid a chofnodi gwybodaeth yn unol â gweithdrefnau gweithredol
18. adrodd i bobl ddynodedig am unrhyw sefyllfaoedd y mae gofyn ymyriad ychwanegol arnynt
19. cyfeirio problemau ac amodau y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb at bobl ddynodedig gan ddefnyddio gweithdrefnau cymeradwy
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. prif gyfrifoldebau’r cyflogwr a’r cyflogai o dan y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae cydymffurfio â hwy
2. prif gyfrifoldebau’r cyflogwr a’r cyflogai o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol
3. sut mae cynnal ac adolygu asesiadau risg sy’n benodol i safle
4. arferion gwaith a allai danseilio iechyd a diogelwch gan gynnwys gweithgareddau, gweithdrefnau, defnydd o ddeunyddiau neu gyfarpar a thechnegau gwaith a ddefnyddir
5. llwybrau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefelau awdurdod y cwmni
6. pwy yw’r bobl ddynodedig mewn gweithdrefnau gwaith ac iechyd a diogelwch
7. adnabod a chymhwyso gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus a deunyddiau nad ydynt yn beryglus
8. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofnodi ac adrodd am ddamweiniau
9. yr amrywiaeth a’r defnydd o gyfarpar diogelu personol ar gyfer y gwaith a’r gweithdrefnau i sicrhau bod cyfarpar diogelu personol yn addas at ddiben
10. gweithdrefnau adrodd statudol, sefydliadol ac argyfwng
11. y rheoliadau cynllunio a rheoli adeiladu cyfredol a sut maent yn effeithio ar eich maes gwaith
12. deddfwriaeth iechyd a diogelwch a rheoliadau o ran arferion gweithio diogel ar gyfer peiriannau, cyfarpar a’r amgylchedd gwaith
13. sut mae sicrhau bod peiriannau a chyfarpar yn addas i’r pwrpas
14. sut mae darparu ffordd ddiogel i mewn i leoliadau gwaith ac allan ohonynt
15. sut mae adnabod lle cyfyng a lle mae gan leoliad gwaith y potensial i fod yn lle cyfyng, y peryglon sy’n gysylltiedig ag ef a’r gweithdrefnau i’w dilyn
16. pwysigrwydd cymhwyso mesurau rheoli i risgiau a nodwyd
17. sut mae monitro diogelwch safle ac ymateb i unrhyw ymddygiad anniogel
18. gofynion sefydliadol ar gyfer storio a defnyddio cyfarpar diogelu personol yn ddiogel
19. gweithdrefnau argyfwng cymeradwy
20. sut mae gwirio a dehongli gwybodaeth a gafwyd am gywirdeb, dilysrwydd ac ystyr, a phwysigrwydd gwneud hynny
21. pwysigrwydd dehongli a dilyn cyfarwyddiadau’n gywir
22. pwysigrwydd cadarnhau dealltwriaeth o gyfarwyddiadau a gafwyd ac a roddwyd
23. dulliau cofnodi gwybodaeth lafar, ysgrifenedig, a chyfrifiadurol
24. gwybodaeth y mae angen ei rhoi i eraill mewn perthynas ag iechyd a diogelwch y safle
25. ffynonellau gwybodaeth a sut mae cael atynt
26. pwysigrwydd cyflenwi gwybodaeth gywir, mewn fformat addas i’r pwrpas, ac o fewn graddfeydd amser a nodwyd
27. diben llwybrau archwilio data a sut mae eu defnyddio a’u cynnal
28. polisïau cyfrinachedd y sefydliad