Cynnal amgylchedd gwaith diogel wrth adeiladu rhwydwaith cyfleustodau
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd gwaith yn ddiogel i weithio ynddo. Gallai fod yn berthnasol i weithrediadau adeiladu rhwydwaith ar gyfer un cyfleustod neu mewn amgylchedd amlbwrpas. Mae hyn yn cynnwys monitro diogelwch a diogeled yn barhaus yn ystod gwaith arferol a chymryd camau i wneud unrhyw sefyllfaoedd, gweithgareddau, technegau, gweithdrefnau, defnyddio cyfarpar neu offer neu leoliadau peryglus yn ddiogel.
Mae’n cynnwys nodi peryglon neu arferion gwaith a’u cyfeirio at bobl ddynodedig, bod yn effro i amodau peryglus neu dorri mesurau diogelwch a’r angen i wisgo dillad diogelwch, ac asesu risg hyn.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n ymwneud â chynnal amgylchedd gwaith diogel wrth adeiladu rhwydwaith cyfleustodau mewn amgylchedd un neu fwy nag un cyfleuster.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal asesiad risg penodol i safle ar gyfer eich maes gwaith a'i adolygu yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
- defnyddio mesurau rheoli a nodwyd yn yr asesiad risg penodol i safle
- gweithio mewn ffordd ddiogel sy'n sicrhau nad ydych yn peryglu eich hun, eraill na'r amgylchedd
- dewis, gwirio cyflwr, defnyddio a storio’r cyfarpar diogelu personol priodol ar gyfer y dasg
- dilyn gweithdrefnau'r cwmni ar unwaith os bydd argyfwng
- sicrhau bod peiriannau a chyfarpar yn addas i’r diben
- cydosod, paratoi a defnyddio peiriannau a chyfarpar mewn modd diogel
- cynnal mynedfeydd ac allanfeydd diogel i leoliadau gwaith ac oddi yno
- sicrhau bod offer iechyd a diogelwch mewn cyflwr da ac yn addas i'r diben
- atal pobl heb awdurdod rhag mynd i mewn i’r safle gwaith yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad.
- cynnal diogelwch y safle drwy fonitro parhaus
- defnyddio gweithdrefnau cymeradwy os bydd argyfwng
- dilyn gweithdrefnau gweithredol a sefydliadol ar gyfer cyfleu gwybodaeth i bobl eraill
- cadw cofnodion mewn systemau gwybodaeth sefydliadol yn unol â gofynion gweithredol a sefydliadol
- holi pobl ddynodedig am unrhyw amgylchiadau lle mae gwybodaeth yn ymddangos yn anghywir
- cyfnewid gwybodaeth â phobl briodol yn unol â gweithdrefnau gweithredol
- rhoi gwybod i bobl ddynodedig am unrhyw sefyllfaoedd lle mae angen ymyrraeth ychwanegol
- cyfeirio problemau ac amodau sydd y tu allan i'ch cyfrifoldeb at bobl ddynodedig gan ddefnyddio gweithdrefnau cymeradwy
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut i gydymffurfio â hi
- prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol
- sut i gynnal ac adolygu asesiadau risg penodol i risg
- arferion gweithio a allai dorri mesurau iechyd a diogelwch gan gynnwys gweithgareddau, gweithdrefnau, defnyddio deunyddiau neu offer a thechnegau gweithio a ddefnyddir
- llinellau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefelau awdurdod y cwmni
- pwy yw’r bobl ddynodedig o fewn gweithdrefnau’r gwaith a’r gweithdrefnau iechyd a diogelwch
- nodi a defnyddio gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus a deunyddiau nad ydynt yn beryglus
- gweithdrefnau cofnodi ac adrodd ar ddamweiniau’r sefydliad
- ystod a defnydd cyfarpar diogelu personol ar gyfer y gweithgaredd gwaith a'r gweithdrefnau ar gyfer sicrhau bod y cyfarpar diogelu personol yn addas i'r diben
- gweithdrefnau adrodd statudol, sefydliadol ac mewn argyfwng
- y rheoliadau dylunio a rheoli adeiladu cyfredol a sut maent yn effeithio ar eich maes gwaith
- deddfwriaeth a rheoliadau iechyd a diogelwch ar gyfer arferion gweithio diogel o ran peiriannau, cyfarpar a’r amgylchedd gwaith
- sut mae sicrhau bod peiriannau a chyfarpar yn addas i’r diben
- sut i ddarparu mynedfeydd ac allanfeydd diogel i leoliadau gwaith ac oddi yno
- sut i nodi man cyfyng a ble mae gan leoliad gwaith y potensial i ddod yn fan cyfyng, y peryglon sy'n gysylltiedig â hynny a'r gweithdrefnau i'w dilyn
- pwysigrwydd rhoi mesurau rheoli ar waith ar gyfer risgiau a nodwyd
- sut i fonitro diogelwch y safle ac ymateb i unrhyw ymddygiad anniogel
- gofynion sefydliadol ar gyfer storio a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) yn ddiogel
- gweithdrefnau brys cymeradwy
- sut i gadarnhau dealltwriaeth a gwirio gwybodaeth a dderbynnir am gywirdeb, dilysrwydd ac ystyr a phwysigrwydd gwneud hynny
- pwysigrwydd dehongli a dilyn cyfarwyddiadau yn gywir
- pwysigrwydd cadarnhau bod pobl eraill yn deall cyfarwyddiadau a roddir gennych a sut i wneud hynny
- dulliau o gofnodi gwybodaeth ar lafar, yn ysgrifenedig ac ar gyfrifiadur
- gwybodaeth y mae angen ei rhoi i eraill yng nghyswllt iechyd, diogelwch a diogeledd y safle
- ffynonellau gwybodaeth yng nghyswllt diogelwch a diogeledd a sut i gael gafael arnynt
- pwysigrwydd cyflenwi gwybodaeth gywir, mewn fformat addas i'r diben, ac o fewn amserlenni a nodwyd
- diben llwybrau archwilio data a sut i'w defnyddio a'u cynnal
- polisïau cyfrinachedd y sefydliad