Cynllunio gweithrediadau adeiladu rhwydweithiau cyfleustodau
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynllunio gweithrediadau ar asedau rhwydwaith fel y bydd y gwaith a gaiff ei gwblhau yn bodloni manylebau sicrhau ansawdd a gweithredu'r sefydliad. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer cynllunio cychwynnol neu i addasu cynlluniau presennol wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Gallai fod yn berthnasol i weithrediadau adeiladu rhwydwaith ar gyfer un cyfleuster neu mewn amgylchedd amlbwrpas.
Mae hyn yn cynnwys nodi iechyd, diogelwch, yr amgylchedd, y trwyddedau angenrheidiol ac unrhyw ofynion penodol eraill, cynllunio amseru a threfn y gweithgareddau a dogfennu a chyfathrebu cynlluniau.
Mae'r Safon hon ar gyfer rheolwyr adeiladu rhwydwaith neu oruchwylwyr sy'n gweithio mewn amgylchedd unigol neu aml-gyfleustod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r holl ffactorau perthnasol i'w cynnwys mewn cynlluniau
- cysylltu ag asiantaethau allanol yn ôl yr angen i gael gwybodaeth sy'n berthnasol i gyflawni cynlluniau
- penderfynu ar yr holl drwyddedau a gweithdrefnau angenrheidiol y mae'n rhaid eu dilyn drwy gydol gweithrediadau
- gwneud gwaith cynllunio yn unol â pholisi a gweithdrefnau gwaith y cwmni
- sefydlu unrhyw ofynion penodol a allai effeithio ar gynllunio safleoedd neu weithrediadau
- cadarnhau gydag asiantaethau allanol a oes unrhyw delerau ac amodau penodol yn berthnasol i'r safle, gweithrediadau neu amserlenni sy'n cael eu cynllunio
- cysylltu ag eraill i bennu amserlenni realistig ar gyfer y gweithrediadau sydd eu hangen
- cofnodi dilyniant gweithgareddau yn unol â gweithdrefnau rheoleiddiol a sefydliadol
- sefydlu opsiynau wrth gefn i ddarparu ar gyfer newidiadau annisgwyl i amserlenni a gynlluniwyd
- gwneud darpariaeth ar gyfer arferion gweithio ac amgylcheddol diogel yn unol â rheoliadau iechyd a diogelwch a deddfwriaeth amgylcheddol drwy gydol y gwaith
- llunio cynlluniau cynhwysfawr gan gynnwys gofynion o ran adnoddau, amserlenni a cherrig milltir yn ôl yr angen
- rhoi gwybod i'r bobl briodol am unrhyw amrywiadau i'r cynlluniau gwreiddiol
- dosbarthu cynlluniau yn unol â pholisi a gweithdrefnau'r cyflogwr
- esbonio cynlluniau wedi'u dogfennu i'r holl bobl ofynnol
- sicrhau bod yr holl gofnodion yn cael eu diweddaru yn unol â gweithdrefnau'r cyflogwr
- nodi problemau ac ymateb iddynt o fewn terfynau cyfrifoldeb ei rôl ei hun
- rhoi gwybod i'r bobl briodol am broblemau sydd y tu allan i gyfrifoldebau rôl y swydd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a sut i gydymffurfio â nhw, gan gynnwys pryd a sut i gynnal asesiadau risg
- prif gyfrifoldebau'r cyflogwr a'r cyflogai o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol
- llinellau adrodd, rolau, cyfrifoldebau a lefelau awdurdod y cwmni
- nodi a defnyddio gweithdrefnau diogel ar gyfer trin deunyddiau peryglus a deunyddiau nad ydynt yn beryglus
- ystod a defnydd cyfarpar diogelu personol ar gyfer y gweithgaredd gwaith a'r gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ei fod yn addas i'r diben
- gweithdrefnau adrodd statudol, sefydliadol ac mewn argyfwng
- gweithdrefnau a phrosesau'r cwmni ar gyfer rhoi gwybod am broblemau
- sut i ddehongli a chymhwyso polisïau, gweithdrefnau a ffynonellau gwybodaeth perthnasol
- y prosesau a'r gweithdrefnau y mae angen eu dilyn a chydymffurfio â nhw a'r cymeradwyaethau y mae angen eu cael wrth gynllunio gweithrediadau
- effaith bosibl cynllunio gweithrediadau lluosog ar y safle
- sut i gynnal arferion gweithio ac amgylcheddol diogel drwy gydol y gwaith
- sut i leihau risgiau i'r hunan ac eraill wrth ymgymryd â gweithgareddau gwaith
- cyfarwyddiadau gwaith, systemau a dogfennau gwybodaeth ac adrodd y cwmni
- Gweithdrefnau Rheoli Gweithrediadau’n Ddiogel (Systemau Gweithio Diogel)
- sut i ymateb i'r gwahanol fathau a chategorïau o sefyllfaoedd brys a allai godi
- gofynion a gweithdrefnau ar gyfer gwaredu gwastraff a deunyddiau nad ydynt yn cael eu defnyddio yn ddiogel
- y dilyniant o brosesau a thechnegau y mae angen eu dilyn a'u defnyddio wrth symud deunyddiau ac adnoddau i'r safle ac oddi yno