Profi ardaloedd mesuredig ar y rhwydwaith dosbarthu
URN: EUSLDC7
Sectorau Busnes (Suites): Canfod a Rheoli Gollyngiadau
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Rhag 2018
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â phrofi ardaloedd mesuredig ar y rhwydwaith dosbarthu. Mae hyn yn cynnwys gweithredu ffitiadau ar y rhwydwaith i ynysu rhannau penodol o rwydweithiau, gan sicrhau bod falfiau cyfyngu a falfiau eraill angenrheidiol yn dal dŵr ac yn gweithio a sefydlu mesuryddion ar gyfer y llif i mewn a’r llif allan. Mae hefyd yn cynnwys cadarnhau bod yr holl waith angenrheidiol wedi cael ei wneud, ailgomisiynu, gwagio a chadarnhau bod samplau wedi cael eu cymryd. Mae’n rhaid ichi ddilyn arferion hylendid a gweithio diogel bob amser.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n ymwneud â phrofi ardaloedd mesuredig ar y rhwydwaith dosbarthu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cael gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy am ardaloedd mesuredig sy'n cael eu profi
2. canfod y rhannau o rwydweithiau dosbarthu y mae angen eu hynysu i sefydlu dibynadwyedd ardaloedd mesuredig
3. cadarnhau bod cwsmeriaid y bydd hyn yn effeithio arnynt wedi cael eu hysbysu, ac y cynhelir lefelau gwasanaeth, yn unol â gofynion sefydliadol
4. cadarnhau bod ffitiadau penodedig ar y rhwydwaith yn y mannau y mae disgwyl iddynt fod, bod modd cael mynediad atynt a’u bod yn gweithio fel y dylent
5. cadarnhau nad oes ffynonellau amlwg o halogi posibl ar ffitiadau ar y rhwydwaith yn yr ardal rydych chi’n gweithio ynddi
6. cael mynediad at ffitiadau perthnasol ar y rhwydwaith a’u rhoi ar waith yn y drefn sy'n ofynnol i ynysu ac ailgomisiynu’r rhannau o'r rhwydweithiau dosbarthu a nodwyd
7. delio ag offer a ffitiadau rhwydwaith y mae angen eu trwsio a’u cynnal a’u cadw yn unol â phrosesau sefydliadol
8. cadarnhau bod gollyngiadau hysbys ar ffitiadau rhwydwaith wedi cael eu trwsio cyn eu profi
9. cadarnhau bod falfiau cyfyngu yn dal dŵr yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
10. cadarnhau nad yw gwaith falfiau yn effeithio ar bwysedd systemau
11. cadarnhau bod modd cael mynediad at y mesuryddion hynny sy’n darparu'r llif i mewn ac allan o ardaloedd mesuredig a’u bod yn gweithio fel y dylent
12. cadarnhau bod falfiau cyfyngu parhaol wedi’u marcio yn y safleoedd cywir ar gynlluniau'r safle a'r rhwydwaith
13. dilyn unrhyw weithdrefnau hylendid sy’n ofynnol yn unol â gofynion sefydliadol neu â gofynion y gwaith
14. cynnal gweithrediadau gwagio a gollwng dŵr yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
15. cadarnhau bod unrhyw samplu dŵr o'r prif gyflenwad sy’n ofynnol yn cael ei gyflawni gan bobl ddynodedig yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
16. ailgomisiynu rhannau o rwydweithiau ar ôl cwblhau'r holl weithgareddau profi perthnasol yn unol â gofynion gwaith
17. rhoi gwybod i bobl berthnasol am y cynnydd a wnaed, problemau a chamau a gymerwyd yn ystod y cyfnod ynysu, profi ac ailgomisiynu
18. cofnodi manylion cywir a chyflawn am y cynnydd a wnaed, y problemau a'r camau a gymerwyd yn unol â phrosesau sefydliadol
19. dilyn arferion hylendid a gweithio diogel yn unol â gweithdrefnau statudol a rheoleiddiol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion y gwaith o ran ynysu, profi ac ailgomisiynu rhannau o'r rhwydwaith
2. ffynonellau gwybodaeth am ardaloedd mesuredig
3. sut mae dehongli cynlluniau safle a chynlluniau rhwydwaith a gwybodaeth am lif y rhwydwaith
4. yr effaith mae ynysu rhan o'r rhwydwaith yn gallu ei chael ar y system ddosbarthu ehangach, y parth cyfagos, ansawdd y dŵr a chwsmeriaid
5. lefelau gwasanaeth a phrosesau a gofynion sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod i gwsmeriaid
6. ffynonellau halogi posibl o ran ffitiadau'r rhwydwaith
7. sut mae gweithredu ffitiadau rhwydwaith, gan gynnwys falfiau ynysu, falfiau aer a hydrantau a pham ei bod yn bwysig gwneud hyn yn y drefn sy'n ofynnol
8. sut mae cadarnhau eich bod wedi llwyddo i ynysu, pam ei bod yn bwysig gwneud hyn a phwy i roi gwybod iddynt pan rydych wedi gorffen
9. pam ei bod yn bwysig cadarnhau pa mor hawdd ydyw i gael mynediad at falfiau cyfyngu a chadarnhau eu bod yn gweithio’n iawn
10. pwy i roi gwybod iddynt am fanylion trwsio a chynnal a chadw
11. pam ei bod yn bwysig gwirio ffitiadau rhwydwaith sydd wedi cael eu trwsio
12. gweithdrefnau ar gyfer sicrhau bod falfiau cyfyngu yn dal dŵr
13. rhesymau pam na fyddai statws y falfiau fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl, a goblygiadau eu newid
14. canlyniadau gwneud newidiadau neu amrywiadau i ansawdd a chyflenwad dŵr, o safbwynt terfynau'r sefydliad
15. pam ei bod yn bwysig peidio ag effeithio ar bwysedd system
16. dulliau o awyru er mwyn osgoi byrstiau neu broblemau gydag ansawdd dŵr
17. pa bryd a sut i gynnal gweithdrefnau hylendid
18. gweithdrefnau gwagio
19. gweithdrefnau gwaredu dŵr a'r difrod posibl sy’n gallu cael ei achosi o ganlyniad i waredu anghywir
20. pam fod angen samplu a phwy ddylai wneud hynny
21. gofynion cofnodi o ran cynnydd, gan gynnwys dyddiad ac amser yr ynysu, problemau a'r camau a gymerwyd
22. pwy y mae angen rhoi gwybod iddynt am y cynnydd a wnaed, y problemau a'r camau a gymerwyd a pha bryd
23. arferion hylendid a diogelwch a gofynion rheoleiddiol statudol perthnasol sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch a gwaith stryd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Rhag 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSLDC10
Galwedigaethau Perthnasol
Peiranneg, Technegydd Rhwydwaith Dŵr, Technegydd Canfod Gollyngiadau Dŵr
Cod SOC
8126;5330
Geiriau Allweddol
Geiriau Allweddol rhwydwaith dosbarthu, dŵr, falfiau, arferion hylendid