Gosod, monitro a thynnu mesuryddion a medryddion sydd ar y rhwydwaith dosbarthu
URN: EUSLDC6
Sectorau Busnes (Suites): Canfod a Rheoli Gollyngiadau
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Rhag 2018
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â gosod, darllen a chynnal a chadw mesuryddion a medryddion sydd ar y rhwydwaith dosbarthu yn ogystal â’u tynnu. Mae’n cynnwys penderfynu ar fesuryddion a medryddion priodol, eu lleoli a’u rhoi yn eu lle, cyflawni archwiliadau gweithredol arnynt, cymryd a chofnodi darlleniadau, canfod a rhoi gwybod am broblemau a’u tynnu pan nad oes eu hangen mwyach. Dylid dilyn gweithdrefnau hylendid bob amser.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy’n rhoi mesuryddion a medryddion yn eu lle ar y rhwydwaith dosbarthu, eu darllen, eu cynnal a’u cadw a’u tynnu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. penderfynu ar drefn briodol o weithgareddau i'w gwneud yn ôl cyfarwyddiadau gwaith er mwyn defnyddio amser yn effeithiol
2. dewis mesuryddion a medryddion priodol yn unol â'r cyfarwyddiadau a roddwyd
3. gosod mesuryddion a medryddion yn y lleoliadau sy’n ofynnol yn unol â chyfarwyddiadau gwaith
4. cysylltu mesuryddion a medryddion yn unol â chyfarwyddiadau diogelwch y gwneuthurwr
5. cynnal archwiliadau gweithredol ar fesuryddion, medryddion, cysylltiadau ac eitemau atodol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
6. cymryd camau perthnasol pan mae problemau’n codi gyda mesuryddion, medryddion, cysylltiadau ac eitemau atodol, gan roi'r manylion i'r bobl berthnasol
7. cymryd darlleniadau cywir yn unol â'r math o offer a systemau darllen sydd dan sylw
8. cofnodi gwybodaeth a darlleniadau cywir am offer yn unol â gofynion sefydliadol
9. archwilio a chadarnhau bod mesuryddion a medryddion yn gweithio fel y dylent am y cyfnod sy'n ofynnol
10. tynnu mesuryddion, medryddion, cysylltiadau ac eitemau atodol yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ar ôl cwblhau pob darn o waith
11. dilyn prosesau hylendid a gweithio’n ddiogel yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. rheoliadau, prosesau a gweithdrefnau'r cwmni yng nghyswllt iechyd, diogelwch, yr amgylchedd ac argyfyngau
2. sut mae blaenoriaethu gweithgareddau gwaith
3. gwahanol fathau o fesuryddion a medryddion a sut i'w defnyddio
4. paramedrau gweithredu arferol neu gyffredin ar gyfer gwahanol fathau o fesuryddion a medryddion
5. sut mae cyflawni archwiliadau gweithredol
6. sut mae canfod problemau gyda mesuryddion, medryddion, cysylltiadau ac eitemau atodol
7. problemau arferol ac anarferol sy'n cael eu hachosi gan ddifrod, gweithrediad diffygiol, gollyngiadau neu anghenion cynnal a chadw a sut mae delio â nhw
8. problemau sy'n rhan o’ch cyfrifoldebau chi, a'r rheini sydd ddim yn rhan o'ch cyfrifoldebau chi, y mae angen rhoi gwybod amdanynt
9. sut mae cymryd darlleniadau o wahanol fathau o fesuryddion a medryddion
10. gweithdrefnau cofnodi
11. gofynion adrodd y sefydliad
12. dulliau o gysylltu a thynnu mesuryddion, medryddion, cysylltiadau ac eitemau atodol
13. prosesau diogelwch a hylendid a gofynion statudol a rheoleiddiol cysylltiedig
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Rhag 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSLDC6
Galwedigaethau Perthnasol
Peiranneg, Technegydd Rhwydwaith Dŵr, Technegydd Canfod Gollyngiadau Dŵr
Cod SOC
8126;5330
Geiriau Allweddol
mesuryddion, dŵr, medryddion, rhwydwaith dosbarthu, gweithdrefnau hylendid