Defnyddio technegau darganfod gollyngiadau i ddod o hyd i leoliadau lle mae dŵr yn colli

URN: EUSLDC5
Sectorau Busnes (Suites): Canfod a Rheoli Gollyngiadau
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â defnyddio technegau darganfod gollyngiadau i ddod o hyd i leoliadau lle mae dŵr yn colli ar y rhwydwaith dosbarthu.  Mae technegau darganfod gollyngiadau yn gallu cynnwys, ymysg pethau eraill, dulliau acwstig, llif a phwysedd, profi llif y dŵr drwy gau falfiau mewn trefn a dulliau gweledol. Mae’n cynnwys dewis un dull darganfod gollyngiadau addas neu gyfuniad o ddulliau, gosod a ffurfweddu offer darganfod gollyngiadau a defnyddio'r canlyniadau i ddod o hyd i ble mae’r dŵr yn gollwng. Bydd angen i chi allu blaenoriaethu yn ôl pa sefyllfaoedd o ddŵr yn gollwng yw’r rhai mwyaf brys, cofnodi gwybodaeth a gwneud yn siŵr bod y bobl berthnasol, gan gynnwys cwsmeriaid, yn cael eu diweddaru ar y sefyllfa.   Dylid dilyn gweithdrefnau iechyd, diogelwch a hylendid bob amser.
 
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy’n defnyddio technegau darganfod gollyngiadau priodol i ddod o hyd i leoliadau lle mae dŵr yn colli ar y rhwydwaith dosbarthu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. cael gafael ar wybodaeth gyfredol o gofnodion a data sydd eisoes ar gael a’i dadansoddi 
2. dewis dulliau darganfod gollyngiadau sy'n briodol i'r math o seilwaith dosbarthu sydd dan sylw, ei gyflwr a’i nodweddion cyfredol  
3. dewis dulliau a thechnegau sy’n cydymffurfio ag ystyriaethau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol ac sy’n cael cyn lleied o effaith â phosibl ar y cyflenwad dŵr, ansawdd y dŵr a chwsmeriaid
4. rhagnodi, a rhoi mewn trefn, y nifer a'r cyfuniad o ddulliau a thechnegau darganfod gollyngiadau a fydd yn cynhyrchu’r gweithgarwch darganfod gollyngiadau mwyaf effeithiol  
5. defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i bennu'r gofynion o ran offer ac adnoddau, argaeledd a chost-effeithiolrwydd
6. sefydlu cynlluniau wrth gefn yn unol â gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer sefyllfaoedd lle gallai problemau godi 
7. cadarnhau bod gweithdrefnau hysbysu yn cael eu rhoi ar waith yn unol â gofynion sefydliadol 
8. gwneud yn siŵr bod y rheini y mae'r gwaith profi’n effeithio arnynt yn cael gwybod yr amser y cynhelir y profion ac am ba hyd y byddant yn para a’u heffaith ar y cyflenwad dŵr cyn dechrau eu cynnal 
9. archwilio offer darganfod gollyngiadau i gadarnhau eu bod yn gweithio’n iawn ac yn ddiogel i'w defnyddio 10 defnyddio offer perthnasol i binbwyntio’n derfynol lle mae'r gollyngiadau cyn marcio eu lleoliad   
11. cysylltu, gosod a ffurfweddu offer yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
12. defnyddio canlyniadau i ganfod a chadarnhau lleoliad gollyngiadau yn fanwl
13. datgymalu, glanhau a dychwelyd offer i'w cadw yn unol â gofynion sefydliadol 
14. marcio lleoliad gollyngiadau yn unol â gofynion sefydliadol
15. cofnodi a rhoi gwybod am leoliad gollyngiadau, gan gynnwys unrhyw amodau traffig neu amodau amgylcheddol lleol, yn unol â gofynion sefydliadol 
16. penderfynu a rhoi cyngor ar faint o frys sydd i ddelio ag achosion o golli dŵr a ganfuwyd a'r amserlen sy'n dderbyniol i wneud hynny er mwyn cydymffurfio â safonau o ran faint o ddŵr sydd wedi colli, pa mor gyflym y mae'r dŵr yn colli a gofynion y sefydliad o ran safonau gwasanaeth 
17. penderfynu ar yr opsiynau o ran amharu ar y cyflenwad a faint o amharu sydd ei angen i ddelio a sefyllfaoedd colli dŵr a ganfuwyd  
18. rhoi'r manylion perthnasol i bobl briodol am ddulliau darganfod a’r angen am ymchwilio pellach 
19. dilyn prosesau hylendid a gweithio’n ddiogel yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. rheoliadau, prosesau a gweithdrefnau'r cwmni yng nghyswllt iechyd, diogelwch, yr amgylchedd ac argyfyngau 
2. technegau a dulliau darganfod gollyngiadau, eu cyfyngiadau a’u capasiti yng nghyswllt gwahanol fathau o bibellau sydd wedi’u ffurfweddu’n llinellol ac yn aflinol  
3. sut gellir cyfuno a threfnu dulliau darganfod gollyngiadau 
4. sut mae penderfynu pa mor addas yw dulliau darganfod gollyngiadau ar gyfer amgylchiadau gwahanol 
5. manteision defnyddio dulliau tawelu sŵn a pha bryd y mae’r rhain yn briodol 
6. diben gwirio cyflymder os ceir amrywiadau sylweddol
7. perthnasedd y math o seilwaith dosbarthu sydd dan sylw a’i gyflwr i dechnegau a dulliau darganfod gollyngiadau
8. sut mae dehongli a chael gafael ar ddata a chofnodion sydd eisoes ar gael am asedau a seilwaith y rhwydwaith, cwsmeriaid, yr effaith ar ansawdd dŵr, manylion amgylcheddol am draffig a lefelau sŵn a thueddiadau o ddata hanesyddol
9. sut mae dadansoddi gwybodaeth am dueddiadau er mwyn penderfynu ar effeithiau posibl technegau darganfod gollyngiadau
10. sut mae asesu gwybodaeth am gwsmeriaid, traffig, adnoddau a’r amgylchedd 
11. sut mae penderfynu ar faint o frys sydd i ymdrin â sefyllfa colli dŵr a phwy i'w hysbysu 
12. sut mae sefydlu manylion amhariad ar y cyflenwad 
13. sut mae penderfynu ar y gofynion o ran offer ac adnoddau, argaeledd a chost-effeithiolrwydd
14. sut mae sefydlu'r effeithiau posibl ar y cyflenwad dŵr, ansawdd dŵr a chwsmeriaid
15. sut mae gosod a chalibradu offer, gan gynnwys offer i binbwyntio gollyngiadau yn derfynol  
16. goblygiadau ffurfweddiad peipiau o ran canlyniadau profion 
17. rheoliadau perthnasol o ran iechyd, diogelwch a’r amgylchedd 
18. gofynion y sefydliad o ran cadw cofnodion yng nghyswllt dod o hyd i ollyngiadau
19. safonau gwasanaeth y sefydliad ar gyfer gweithgareddau cysylltiedig â gollyngiadau 
20. pwy i roi gwybod iddynt am broblemau a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud hyn
21. sut mae canfod y rheini y gallai gweithgareddau profi effeithio arnynt
22. gweithdrefnau hysbysu'r sefydliad
23. polisïau cysylltu’r sefydliad o ran y rheini y mae gweithgareddau profi yn effeithio arnynt 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Enrergy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSLDC4

Galwedigaethau Perthnasol

Peiranneg, Technegydd Rhwydwaith Dŵr, Technegydd Canfod Gollyngiadau Dŵr

Cod SOC

8126; 5330

Geiriau Allweddol

canfod gollyngiadau, colli dŵr, technegau darganfod