Dadansoddi data er mwyn canfod gollyngiadau posibl
URN: EUSLDC4
Sectorau Busnes (Suites): Canfod a Rheoli Gollyngiadau
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Rhag 2018
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â dadansoddi data er mwyn canfod gollyngiadau posibl. Mae hyn yn cynnwys cael gafael ar ddata perthnasol, eu dadansoddi yn erbyn disgwyliadau a gweld a oes angen cynnal ymchwiliadau pellach. Mae hefyd yn cynnwys nodi mannau lle gallai gollyngiadau posibl ddigwydd a chyfrifo faint o ddŵr a allai gael ei golli.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i unrhyw un sy’n gwerthuso data er mwyn canfod gollyngiadau posibl.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cael gafael ar setiau cyflawn o ddata o weithgareddau monitro a rheoli penodol
2. sefydlu beth yw’r llif a’r pwysedd mewn mannau penodol gan ddefnyddio data monitro a rheoli o wahanol bwyntiau ar y system ddosbarthu er mwyn cael darlun cynhwysfawr o lif a phwysedd mewn ardaloedd penodol
3. dadansoddi'r data yn ôl patrymau data disgwyliedig, gan ystyried unrhyw wybodaeth ychwanegol berthnasol am gyflwr y rhwydwaith, gweithrediadau’r rhwydwaith neu amrywiadau o ran defnyddio
4. sefydlu math a natur unrhyw wahaniaethau sy’n ymddangos wrth ddadansoddi data yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy
5. nodi’r angen am ymchwiliadau pellach pan na ellir dod o hyd i eglurhad posibl am wahaniaethau a ganfuwyd
6. rhoi manylion pam fod angen ymchwiliadau pellach i bobl berthnasol
7. dadansoddi data a gafwyd o weithgareddau rheoli a monitro er mwyn ffurfio casgliadau am y ffordd y mae'r system ddosbarthu yn gweithio; tynnu sylw at unrhyw fannau sy’n ymddangos fel pe baen nhw’n cael problemau gyda gollyngiadau a rhoi gwybod i bobl berthnasol
8. amcangyfrif faint o ddŵr sy’n cael ei golli o fannau penodol yn ôl y dadansoddiad o ddata a'r casgliadau y daethpwyd iddynt
9. cofnodi manylion am nodweddion yr ardal a chyfrifiadau o'r dŵr sy'n cael ei golli mewn fformatau priodol yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. rheoliadau, prosesau a gweithdrefnau'r cwmni yng nghyswllt iechyd, diogelwch, yr amgylchedd ac argyfyngau
2. pwrpas gweithgareddau rheoli a monitro
3. canlyniadau peidio â chyflawni gweithgareddau monitro a rheoli yn gywir
4. sut mae dehongli data a gafwyd o weithgareddau monitro a rheoli gwahanol, gan gynnwys llif a phwysedd, amledd cyflym, data o osodiadau sefydlog neu o osodiadau dros dro
5. sut mae dehongli data eraill, gan gynnwys data hanesyddol, canlyniadau ymchwiliadau blaenorol, profion ansawdd dŵr a ffactorau’n ymwneud â chyswllt cwsmeriaid sy’n effeithio ar berfformiad y rhwydwaith, gan gynnwys digwyddiadau anarferol
6. sut mae darllen a dehongli gwybodaeth am lif, pwysedd, ansawdd dŵr a chyswllt cwsmeriaid
7. sut mae dadansoddi a dehongli data yn gywir
8. pam ei bod yn bosibl na fyddwch yn gallu dadansoddi data
9. gweithdrefnau adrodd gan gynnwys defnyddio adborth o ymchwiliadau blaenorol
10. meysydd nodweddiadol o ran ymchwilio pellach, gan gynnwys perfformiad offer, nodweddion ardal
11. mathau o broblemau sy’n codi o ran gollyngiadau a sut maen nhw’n ymddangos ar y rhwydwaith
12. ffynonellau gwybodaeth am gyflwr y rhwydwaith, gweithrediadau'r rhwydwaith, amrywiadau o ran defnyddio, ymchwiliadau blaenorol a nodweddion ardal
13. sut mae cysylltu data a ddadansoddwyd â chynlluniau rhwydwaith
14. sut mae cyfrifo faint o ddŵr sy’n cael ei golli
15. y gofynion o ran cofnodi ac adrodd
16. y ffactorau i’w hystyried wrth ddod i benderfyniad am broblemau gyda gollyngiadau
17. y gofynion o ran iechyd, diogelwch a hylendid
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Rhag 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSLDC11
Galwedigaethau Perthnasol
Peiranneg, Technegydd Rhwydwaith Dŵr, Technegydd Canfod Gollyngiadau Dŵr
Cod SOC
8126; 5330
Geiriau Allweddol
data, dadansoddi, amrywiadau, ymchwiliad, dŵr