Rhaglennu, defnyddio a chasglu data o offer cofnodi data
URN: EUSLDC3
Sectorau Busnes (Suites): Canfod a Rheoli Gollyngiadau
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Rhag 2018
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â rhaglennu, gosod a chasglu data o offer cofnodi data. Gellir defnyddio offer cofnodi data, ymysg pethau eraill, i fonitro data ar bwysedd, llif, sŵn, afloywder a chlorin yn y rhwydwaith dŵr. Mae hyn yn cynnwys dewis offer cofnodi data priodol, eu lleoli a’u rhaglennu, casglu data, dosbarthu data a chymryd camau i ddatrys unrhyw broblemau yn ogystal â thynnu offer ar ôl gorffen monitro. Dylid dilyn gweithdrefnau hylendid bob amser.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy’n rhaglennu, defnyddio a chasglu data o offer cofnodi data.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. dewis yr offer cofnodi data yn unol â'r cyfarwyddiadau rydych chi wedi’u cael a’r gweithgareddau monitro sydd i'w gwneud
2. cadarnhau bod offer cofnodi data yn gweithio’n iawn ac yn ddiogel cyn ei ddefnyddio
3. paratoi offer cofnodi data yn ôl y galw ar gyfer gweithgareddau monitro penodedig
4. gosod offer cofnodi data mewn lleoliadau penodedig
5. cadarnhau bod offer cofnodi data yn gweithio fel y disgwylir ar ôl ei osod yn y lleoliad penodedig
6. dilyn y drefn raglennu ar gyfer y math o offer dan sylw yn unol â gofynion y gwneuthurwr
7. pennu a gosod paramedrau perthnasol ar gyfer gweithgareddau monitro a chadarnhau'r rhaglennu yn ôl y galw
8. cofnodi manylion rhaglennu a defnyddio a’u diweddaru yn ôl y galw gydol y cyfnod monitro
9. darparu manylion defnyddio i bobl berthnasol yn unol â phrosesau sefydliadol
10. defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i ganfod y gofynion o ran casglu data
11. casglu data a gofnodwyd gan yr offer cofnodi data penodedig ar adegau priodol
12. darparu'r data a gofnodwyd i bobl berthnasol, yn unol â gofynion sefydliadol
13. tynnu'r offer cofnodi data penodedig ymaith ar ôl cwblhau cyfnodau monitro yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy
14. dilyn arferion hylendid a gweithio’n ddiogel yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy bob amser
15. delio â phroblemau gydag offer, rhaglennu neu ddefnyddio neu â phroblemau gyda chasglu data yn unol â phrosesau’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. rheoliadau, prosesau a gweithdrefnau'r cwmni yng nghyswllt iechyd, diogelwch, yr amgylchedd ac argyfyngau
2. y gwahanol fathau o offer cofnodi data a beth mae'r rhain yn gallu ei fonitro, gan gynnwys pwysedd, llif, sŵn, afloywder a chlorin
3. pwrpas y monitro
4. mathau o ddata y mae pob math o offer cofnodi data yn eu darparu
5. sut mae rhaglennu a defnyddio offer cofnodi data, gan gynnwys cofnodwyr pwysedd, cofnodwyr sŵn, cofnodwyr llif, cofnodwyr cydberthyniad, offer monitro ansawdd dŵr
6. gofynion cofnodi
7. mathau o weithgareddau monitro a pha bryd i'w defnyddio, gan gynnwys
monitro DMA parhaol, arolygu, monitro ad hoc, rheoli PMA
8. beth sy’n achosi problemau arferol ac anarferol sy’n gallu codi wrth ddefnyddio offer cofnodi data, gan gynnwys gweithredu'r offer, data anghyflawn, lleoliad yr offer
9. sut mae datrys problemau gydag offer cofnodi data a therfynau cyfrifoldeb
10. pwy i'w hysbysu am broblemau sydd y tu allan i’ch maes cyfrifoldeb chi
11. sut mae paratoi offer ar gyfer ei ddefnyddio
12. sut mae gosod ac archwilio offer
13. dulliau casglu data
14. pwy i roi data a gofnodwyd iddynt
15. gweithdrefnau i'w dilyn wrth dynnu offer cofnodi data ymaith
16. arferion diogelwch a hylendid a gofynion statudol a rheoleiddiol cysylltiedig
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Rhag 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSLDC5
Galwedigaethau Perthnasol
Peiranneg, Technegydd Rhwydwaith Dŵr, Technegydd Canfod Gollyngiadau Dŵr
Cod SOC
8126;5330
Geiriau Allweddol
cofnodi data, rhwydwaith dŵr, monitro, gweithdrefnau hylendid