Olrhain llwybr pibelli dŵr a lleoli ffitiadau sydd ar yr wyneb a chelfi stryd
URN: EUSLDC2
Sectorau Busnes (Suites): Canfod a Rheoli Gollyngiadau
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2018
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â defnyddio technegau i ganfod lleoliad pibelli dŵr, ffitiadau ar yr wyneb a chelfi stryd. Gall pibelli dŵr fod yn rhai metel neu’n anfetelaidd. Gall ffitiadau ar yr wyneb fod yn orchuddion falfiau, caeadau blychau mesuryddion neu’n flychau hydrant. Gall celfi stryd fod yn bileri lampau, polion telegraff neu arwyddion ffordd.
Mae hyn yn cynnwys defnyddio technegau gweledol ac electronig a thechnegau mesur ynghyd â chyfeirio at gofnodion, nodi lleoliadau ar safleoedd gwaith a rhoi gwybod i bobl berthnasol am wyriadau. Dylid dilyn gweithdrefnau diogelwch a hylendid bob amser.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy’n olrhain llwybr pibelli dŵr ac sy’n lleoli ffitiadau ar yr wyneb a chelfi stryd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. dewis technegau olrhain ac offer sy'n briodol i'r math o bibell ddŵr rydych chi’n ei holrhain
2. cadarnhau cyflwr offer olrhain yn unol â gofynion sefydliadol
3. defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i ganfod lleoliad ceblau, piblinellau petrolewm a phiblinellau nwy er mwyn atal problemau diogelwch rhag codi yn ystod gweithgareddau olrhain pibelli
4. casglu gwybodaeth o gofnodion, tystiolaeth ar yr wyneb a thechnegau olrhain er mwyn rhagweld lleoliad pibelli dŵr, ffitiadau ar yr wyneb a chelfi stryd yn gywir
5. olrhain pibelli dŵr dros y pellter angenrheidiol o fewn cyfyngiadau penodedig yn unol â gofynion sefydliadol
6. nodi lleoliad pibelli dŵr, ffitiadau ar yr wyneb a chelfi stryd ar safleoedd gwaith yn unol â gofynion sefydliadol
7. cofnodi gwyriadau oddi wrth leoliadau pibelli dŵr, ffitiadau ar yr wyneb a chelfi stryd a rhoi gwybod i bobl berthnasol yn unol â gofynion sefydliadol
8. dilyn prosesau hylendid a gweithio’n ddiogel yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. rheoliadau, prosesau, rhagofynion a gweithdrefnau'r cwmni yng nghyswllt iechyd, diogelwch, yr amgylchedd, argyfyngau a hylendid
2. technegau olrhain a phryd y mae’n briodol eu defnyddio, gan gynnwys technegau gweledol, electronig (anwytho, cysylltiad a radio) a thechnegau mesur
3. goblygiadau gweithgareddau olrhain o ran ansawdd dŵr
4. offer olrhain sy’n cael eu defnyddio ar gyfer technegau gwahanol a’u cyfyngiadau
5. sut mae dewis swyddogaethau priodol ar offer olrhain
6. sut mae archwilio a defnyddio offer olrhain
7. pam ei bod yn bwysig lleoli ceblau, piblinellau petrolewm a phiblinellau nwy
8. sut mae dehongli marciau anarferol gan gynnwys pyst marcio
9. sut mae cael gafael ar gofnodion a chynlluniau cyfredol
10. sut mae dehongli cofnodion, cynlluniau a thystiolaeth ar yr wyneb o lwybr prif bibelli dŵr
11. gweithdrefnau i'w defnyddio wrth olrhain pibelli a lleoli ffitiadau ar yr wyneb a chelfi stryd
12. gweithdrefnau ar gyfer marcio llwybr prif bibelli dŵr
13. terfynau penodedig o ran olrhain pibelli dŵr
14. gofynion adrodd sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSLDC3
Galwedigaethau Perthnasol
Peiranneg, Technegydd Rhwydwaith Dŵr, Technegydd Canfod Gollyngiadau Dŵr
Cod SOC
8126;5330
Geiriau Allweddol
technegau olrhain; falf; caeadau blychau mesuryddion neu flychau hydrant