Asesu ffurfweddiad ardaloedd mesuredig

URN: EUSLDC1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Canfod a Rheoli Gollyngiadau
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 2018

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud ag asesu ffurfweddiad ardaloedd mesuredig.

Mae hyn yn cynnwys cadarnhau bod gwybodaeth a chynlluniau am ardaloedd mesuredig yn cyd-fynd â beth sydd i'w weld mewn gwirionedd yn y rhwydwaith dosbarthu a bod falfiau a mesuryddion wedi’u lleoli ble mae disgwyl iddynt fod.  Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod modd cael mynediad at falfiau cyfyngu Ardaloedd Mesuryddion Rhanbarth (DMA) ac nad ydynt yn gollwng dŵr a chanfod a rhoi gwybod am broblemau gyda falfiau a mesuryddion.  Mae hefyd yn bwysig sefydlu mesuryddion ar gyfer y llif i mewn a’r llif allan ac i gofnodi unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn ogystal â gwneud yn siŵr bod falfiau cyfyngu parhaol DMA wedi cael eu nodi’n gywir ar gynlluniau'r safle a'r rhwydwaith.   Dylid dilyn gweithdrefnau diogelwch a hylendid bob amser.

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy’n asesu ffurfweddiad ardaloedd mesuredig.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. dilyn prosesau hylendid a gweithio’n ddiogel yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy bob amser
2. defnyddio gwybodaeth berthnasol o ffynonellau dibynadwy am ardaloedd mesuryddion rhanbarth
3. cadarnhau bod lleoliad ffitiadau penodol yn cydymffurfio â'r wybodaeth a ddarparwyd 
4. cadarnhau bod falfiau cyfyngu a falfiau parth fel y rhagnodwyd, y gellir cael mynediad atynt ac nad ydynt yn gollwng dŵr  
5. cyfatebu data ar y safle mewn Ardaloedd Mesuryddion Rhanbarth gyda'r llinellau nos a ddisgwylir, gan ystyried digwyddiadau ac amrywiadau tymhorol 
6. gweithredu falfiau yn unol â gweithdrefnau gweithredu falfiau diogel pan ofynnir i chi helpu i ddilysu rhwydweithiau    
7. rhoi gwybod i bobl berthnasol am unrhyw ffitiadau neu offer rhwydwaith sydd angen eu trwsio neu eu cynnal a’u cadw yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
8. canfod rhesymau posibl a gweithredu mewn ffordd briodol yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad pan nad yw falfiau yn y cyflwr y mae disgwyl iddynt fod  
9. cofnodi gwybodaeth fanwl gywir, berthnasol a chyflawn am y ffurfweddiad gwirioneddol yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. rheoliadau, prosesau a gweithdrefnau'r cwmni yng nghyswllt iechyd, diogelwch, yr amgylchedd, argyfyngau a hylendid 
2. ffynonellau gwybodaeth am ardaloedd mesuredig, gan gynnwys gwybodaeth am falfiau newydd a falfiau sy'n bodoli eisoes, mesuryddion, hydrantau a ffitiadau eraill 
3. sut mae dehongli cynlluniau rhwydwaith
4. pwrpas falfiau cyfyngu a sut mae eu defnyddio a chanlyniadau methu â’u gweithredu’n gywir 
5. pam ei bod yn bwysig cadarnhau pa mor hawdd ydyw i gael mynediad at falfiau cyfyngu a falfiau parth ac archwilio eu cyflwr i sicrhau eu bod yn gweithio’n iawn 
6. sut mae gweithredu falfiau yn gallu bod o gymorth wrth asesu a dilysu rhwydwaith
7. gweithdrefnau i'w dilyn er mwyn sicrhau bod falfiau’n gweithredu’n ddiogel
8. sut mae cyfatebu data ar y safle mewn Ardaloedd Mesuryddion Rhanbarth gyda’r llinellau nos a ddisgwylir
9. goblygiadau digwyddiadau ac amrywiadau tymhorol
10. pwy i roi gwybod iddynt am fanylion trwsio a chynnal a chadw
11. gweithdrefnau ar gyfer sicrhau bod falfiau cyfyngu yn dal dŵr  
12. rhesymau posibl pam na fyddai statws falfiau yn ôl y disgwyl, a goblygiadau eu newid 
13. canlyniadau gwneud newidiadau neu amrywiadau i ansawdd a chyflenwad dŵr, o safbwynt terfynau'r sefydliad
14. pam ei bod yn bwysig peidio ag effeithio ar bwysedd system
15. gofynion cofnodi sefydliadol
16. pam ei bod yn bwysig gwirio cynlluniau rhwydwaith a safle


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSLDC2

Galwedigaethau Perthnasol

Peiranneg, Technegydd Rhwydwaith Dŵr, Technegydd Canfod Gollyngiadau Dŵr

Cod SOC

8126;5330

Geiriau Allweddol

gollyngiadau; falfiau; mesuryddion; ansawdd dŵr