Trosolwg
Mae'r safon galwedigaethol cenedlaethol hwn yn ymwneud â chydweithio â'r cleient a'u cynghori ar y manylion technegol o fewn y fanyleb. Gall y cleient naill ai fod yn 'gleient-ddatblygwr' neu'n 'gleient-cyfleustod/perchennog asedau sy'n mabwysiadu'. Mae'n golygu darparu data a gwybodaeth am yr holl nodweddion perthnasol yn y dyluniad a sicrhau bod y cleient yn eu deall. Mae'r gwaith o baratoi yn cynnwys defnyddio amrywiaeth eang o ffynonellau data a gwybodaeth er mwyn sicrhau bod y deunydd a gyflwynir i'r cleient yn llawn ac yn gyflawn. Mae angen i'r wybodaeth ar gyfer y cleient fod yn glir a chryno. Mae'n gofyn am ddefnyddio sgiliau cyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig o ansawdd uchel wrth roi a chyfnewid gwybodaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Defnyddio data a gwybodaeth o ddogfennau technegol
1. dehongli data a gwybodaeth o fanylebau technegol a dogfennaeth dylunio
2. defnyddio cronfeydd data, pecynnau meddalwedd, y rhyngrwyd, a llyfrgelloedd safonau i gefnogi'r gwaith o baratoi gwybodaeth dechnegol
3. defnyddio gwybodaeth gan gyflenwyr i gefnogi'r broses o baratoi
4. dilyn safonau'r diwydiant a chodau ymarfer
Darparu gwybodaeth dechnegol i gleientiaid
5. nodi'r gofynion technegol yn gywir
6. helpu cleientiaid i ddeall manylebau technegol a manylion dylunio
7. darparu gwybodaeth i'r cleient mewn ffyrdd sy'n defnyddio confensiynau cydnabyddedig y diwydiant, ac sydd wedi'u derbyn, ar gyfer termau a chyfeirnodau
8. cyflwyno gwybodaeth i'r cleient mewn ffordd sy'n syml i'w dilyn ac sy'n defnyddio dulliau ysgrifenedig a diagramatig neu ddarluniol.
9. dangos sut y mae data rheoli costau, sicrhau ansawdd a risg yn ategu'r wybodaeth dechnegol
10. defnyddio dulliau'r cyflwyno electronig a storio data diweddaraf
11. defnyddio dull o gyfnewid gwybodaeth ddwy ffordd â'r cleient a chadarnhau eu dealltwriaeth derfynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and
understand:
Cyffredinol
1. gofynion deddfwriaethol y DU ar gyfer iechyd a diogelwch a'r amgylchedd, safonau, cyfarwyddebau a chanllawiau, ac arferion gwaith
2. safonau'r DU, llawlyfrau gweithdrefnau, a pharamedrau gweithredol
3. egwyddorion dylunio, gan gynnwys data dylunio o'r fersiynau diweddaraf o safonau'r DU
4. arferion gwaith a chanllawiau'r diwydiant a dderbynnir yn y diwydiant cyfleustodau
5. egwyddorion a phrosesau peirianneg y rhwydwaith gyfleustodau
6. strwythur a chynnwys manylebau cleientiaid
7. strwythur a chynnwys manylebau gweithgynhyrchu
Penodol
8. dulliau cyfathrebu a gweithdrefnau cyflwyno adroddiadau'r cwmni
9. cyfrifiadau dylunio, diriant ac SHA
10. mathau gwahanol o gydberthnasau gwaith â chleientiaid a chydweithwyr
11. sut i ddefnyddio dulliau a thechnegau cyflwyno sy'n cynnwys lluniadau, cyfrifiadau, brasluniau, amserlenni a thaenlenni
12. sut i ddefnyddio systemau dogfennu a storio gwybodaeth dechnegol
13. asedau rhwydwaith a chyfleustod
14. trwydded i ddefnyddio systemau gwaith a datganiadau am ddulliau
15. rheoliadau, arferion a gweithdrefnau a chod iechyd a diogelwch
Ymddygiadau
Rydych yn gweithio mewn ffordd sy'n:
1. ymateb yn gadarnhaol ac yn greadigol i rwystrau
2. ymfalchïo mewn darparu gwaith o ansawdd uchel
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianegol, Adeiladu, Rheolwyr Gweithredol, Drafftwyr ac Arolygwyr Adeiladu, Peirianwyr dylunio a datblygu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt ym maes Dylunio, Crefftau Adeiladu
Geiriau Allweddol
dogfennau technegol, egwyddorion dylunio, manylebau cleientiaid, manylebau gweithgynhyrchu